Dathlu'r Gystadleuaeth Ymchwil Delweddu 2025

entrance to the gallery

Ar ddiwedd ein cynhadledd staff dri diwrnod, daeth cydweithwyr ynghyd yn Yr Oriel ar gyfer un o uchafbwyntiau'r wythnos - cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ymchwil Delweddu. Roedd yn wych gweld cymaint wedi troi allan, gyda staff o nifer o wasanaethau proffesiynol, dysgu ac ymchwil wedi dod ynghyd. (Ac oedd, roedd cacennau'n helpu hefyd, ond hoffem ni feddwl nad dim ond y gacen oedd yr atyniad!)

hayley and wulf standing with tea looking at the camera

Mae'r gystadleuaeth yn ymdrech ar y cyd, gyda Karen Heald yn goruchwylio'r ochr artistig a Hayley Dennis o'r Swyddfa Ymchwil yn arwain y sefydliad. Siaradodd Karen ynghylch pa mor bwerus y gall y fenter hon fod: mae'n annog ymchwilwyr i gamu y tu allan i'r ffyrdd arferol o gyflwyno'u gwaith ac i ymgorffori syniadau cymhleth ar ffurf un ddelwedd drawiadol. Nid yn unig yw hyn yn tanio creadigrwydd ond mae hefyd yn helpu ymchwilwyr i gyfathrebu eu gwaith mewn ffyrdd hygyrch, ffres gan fagu hyder, ysbrydoli cydweithredu ac arddangos ymchwil y brifysgol mewn ffordd sy'n cysylltu gyda chynulleidfaoedd ehangach.

VR Video Transcript (trawsgrifiad)

Aeth Gwobr y Beirniaid eleni i Sara Hilton, a enillodd y brif wobr o £250 am y ddelwedd "Pêl-droed am Newid: Cysylltiadau Byd-eang, Traweffeithiau Lleol" - ynghyd â chlod tragwyddol.

sara standing next to their image on the wall and they are holding a certificate

Y rhai ddaeth yn ail ym mhleidlais y beirniaid oedd yr ymchwilydd PhD Karolina Skorek gyda "Sgrin-lun o'ch Enaid" a Dr Grace Thomas gyda "Sut Beth yw Cynhwysiant?".

karolina standing next to their image on the wall

two barbie dolls, one in a wheelchair on top of flipchart paper

Bu i Bleidlais Dewis y Bobl, y mae'r cyhoedd yn cael cyfle i benderfynu arni, goroni Karolina Skorek yn enillydd am eleni. Rydym hefyd wedi rhoi canmoliaeth uchel i Cara Langford Watts, a sgoriodd yn uchel gyda'i ymgais gan greu argraff ar nifer o bleidleiswyr ("Niwtraleiddio Tosturi").

care standing next to their image on the wall holding a certificate

Eleni, fe wnaeth cynllun arobryn Dewis y Bobl wneud ei ffordd ar fygiau argraffiad cyfyngedig, a ddiflannodd yn gyflym wrth i fynychwyr eu bachu. Cadwch lygad am bobl yn yfed coffi o fygiau gyda'r ddelwedd fuddugol o amgylch y brifysgol.

close up of mugs with an image printed on them

Diolch anferthol i bawb wnaeth gymryd rhan, gan gefnogi cydweithwyr a helpu i wneud y digwyddiad yn llwyddiant colegaidd mor fywiog. Allwn ni ddim aros i weld eich cynigion ar gyfer y flwyddyn nesaf!

images in the gallery on the wall