Diwrnod Ymchwilwyr Ôl-raddedig 2025

Dechreuodd Diwrnod Ymchwilwyr Ôl-raddedig 2025 gyda chroeso cynnes gan Hayley Dennis, a sefydlodd yr awyrgylch ar gyfer diwrnod yn llawn ysbrydoliaeth, profiadau torfol a thipyn go lew o hwyl.
Dilynodd Emma Harrison drwy annog pawb i gymryd rhan o’r cychwyn cyntaf gyda chwis ‘ffeithiau difyr’ - ffordd wych o dorri’r garw i helpu ymchwilwyr i ddod i adnabod ei gilydd (a dysgu ychydig o ffeithiau annisgwyl nad oeddent erioed yn gwybod bod angen iddynt wybod amdanynt!).
Yn mynd â'r wobr - a’r bri tragwyddol - adre oedd Dmitrii Iarovoi a Rachel Byron, a sgoriodd swm gwych o 6 allan o 13. Ddim yn ddrwg, o ystyried bod rhai o'r ffeithiau hynny wedi peri penbleth o ddifrif!
Yna clywsom gan Dr Gwennan Barton, enillydd blaenorol y gystadleuaeth Delweddu Ymchwil. Rhannodd ei phrofiad o gymryd rhan, beth oedd ei chymhelliant i gystadlu, a'r straeon y tu ôl i rai o’i delweddau trawiadol. Siaradodd Gwennan am sut y gwnaeth delweddu ei hymchwil ei helpu i fyfyrio ar y daith PhD, ac annog eraill i gymryd rhan - mae’n ffordd greadigol a meddylgar o archwilio eich gwaith o safbwynt newydd.
Nesaf, daeth trafodaeth banel gyda Frances Thomason yn cadeirio, yn cynnwys Dr Hayley Douglas, Julian Ayres, Paige Tynan a Tracey Simpson. Roedd y sgwrs yn amrywio o sicrhau eich bod yn cadw eich PhD ar y llwybr cywir i gynnal ffiniau iach, rheoli amser ac aros yn drefnus. Beth oedd wirioneddol yn dod i’r amlwg oedd mor bersonol yw'r strategaethau hyn - roedd gan bawb ar y panel ddull gwahanol, wedi’i siapio gan eu hymchwil, eu harferion a’u heriau eu hunain.
Ar ôl egwyl fer, daeth amser y cyflwyniadau a'r sgyrsiau 3 munud.
Yn gyntaf, roedd Helena Barlow o faes Gwaith Cymdeithasol, a aeth â ni ar daith wib o'i hymchwil ar stelcio cyn-bartneriaid. Gyda chefndir cryf mewn ymarfer, cynigiodd Helena fewnwelediad cryf i’r maes hwn— gan bwysleisio'r angen brys am wasanaethau i gefnogi menywod sy’n cael eu stelcio gan gyn-bartneriaid, a pharhad pryderus beio’r dioddefwr mewn achosion o’r fath.
Nesaf, rhoddodd Ffion Davies o faes Seicoleg, sy’n newydd i'w PhD, gyflwyniad meddylgar ar angladdau yng Nghymru. Myfyriodd ar fudiad y wlad o’i gwreiddiau Cristnogol traddodiadol tuag at gymdeithas fwy seciwlar. Gan ddefnyddio profiadau personol, cynigiodd Ffion gymariaethau rhwng traddodiadau yng Nghymru a'r rhai a welodd yn Bali, gan gyffwrdd ar ddefodau dydd Sul ac agweddau ehangach tuag at orffwys a chofio. Archwiliodd ei sgwrs sut mae arferion angladd yng Nghymru yn esblygu, yn enwedig ers y pandemig COVID-19.
Dilynodd Louise Bosanquet, hefyd o faes Gwaith Cymdeithasol, gyda sgwrs am ei gwaith gydag Outside In, grŵp ffocws unigryw ym Mhrifysgol Wrecsam. Canolbwyntiodd Louise ar werth cyfranogiad profiadau, gan rannu sut mae’r grŵp yn casglu ac yn dadansoddi data ar hyn o bryd drwy drafodaethau grŵp ffocws a chyfweliadau parhaus.
Yna clywsom gan Cara Langford-Watts, o faes Troseddeg, a gyflwynodd ei hymchwil ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel methodoleg. Ymchwiliodd Cara yn fanwl i fyd cyfnewidiol platfformau ar-lein - eu hesblygiad cyson, cynnydd a chwymp gwahanol safleoedd, a'r heriau mae hyn yn eu creu i ymchwilwyr. Nid yw casglu data o’r cyfryngau cymdeithasol yn hawdd, a chynigiodd Cara olwg realistig, graff ar botensial y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’u peryglon.
Cyflwynodd Katherine Rowlands o’r adran Seicoleg sgwrs fflach arall drwy ofyn i bawb ohonom ddychmygu...LEMON! Ydym ni’n gweld y siâp? Yn ei arogli? Yn ei flasu? Mae ei hymchwil yn edrych ar iaith a gwybyddiaeth arogleuol - sut mae ein meddyliau a’n synhwyrau yn cynrychioli syniadau, a sut mae iaith yn rhyngweithio â’r prosesau hyn. Sgwrs frwdfrydig a arhosodd ar feddyliau pobl yn sicr, ac a oedd fel chwa o awyr iach.
Nesaf, rhannodd Simon Everett o faes Amgylchedd Adeiledig ei waith ar systemau gwyntyllu mewn sefydliadau gofal iechyd. Gan dynnu ar flynyddoedd o brofiad ym maes gofal iechyd - gan gynnwys profiad o oruchwylio cyllidebau ynni mewn ysbyty lleol— amlinellodd Simon sut mae gwyntyllu mewn theatr llawdriniaethau yn gweithio a sut mae’n gobeithio gwneud y rhain yn fwy effeithlon o ran ynni.
Yna amlinellodd Dmitrii Iarovoi o faes Cyfrifiadura ei gynnig PhD ef, sy’n ymchwilio i weithio gyda safleoedd hanesyddol i ddatblygu canllawiau digidol rhyngweithiol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ba mor gywir y gall y canllawiau hyn sy’n cael eu pweru gan AI fod, yn enwedig o ran osgoi “rhithwelediadau” fel y’u gelwir— gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
Creodd Viktoriia Iarova, o faes Celf a Dylunio, effaith weledol ac emosiynol gyda'i hymchwil i’r newid yn yr hinsawdd drwy lens celf. Gan rannu ffotograffau trawiadol o Wlad yr Iâ a rhai o’i darnau artistig ei hun, pwysleisiodd Viktoriia ddifrifoldeb cynhesu byd-eang a rôl celf yn y broses o uno pobl ynghylch y mater hanfodol hwn.
Yn olaf yn y gyfres sgyrsiau fflach oedd Fern Mitchell o faes Seicoleg, yn trafod ei hymchwil MPhil ar ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol gyda rhieni a gofalwyr. Trafododd Fern sut y gall “cyfalaf gwyddoniaeth”— y wybodaeth, yr agweddau a’r adnoddau mae pobl yn eu cyflwyno i wyddoniaeth - ddylanwadu ar ein hymgysylltiad â hi. Mae ei gwaith yn pwysleisio rôl gynnil ond pwerus cyd-destun teuluol o ran siapio dealltwriaeth o wyddoniaeth.
Diolch enfawr i’n holl siaradwyr - roedd clywed am eich ymchwil presennol a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn wych.
Yna, symudom ymlaen i ginio bwffe hamddenol a chawsom y cyfle i weld posteri ymchwil gan Tanya Wood (Busnes), Sophia Mitchell (Troseddeg) ac Alex Spichale (Amgylchedd Adeiledig). Bu’n gyfle gwych i sgwrsio’n anffurfiol, rhannu syniadau a myfyrio ar gyflwyniadau’r bore.
Ar ôl cinio, daethom â’r diwrnod i ben gyda Chaffi Diwylliant Ymchwil - cyfle i Ymchwilwyr Ôl-raddedig rannu eu barn ar ymgysylltu â’r gymuned academaidd. Cyflwynwyd llawer o syniadau gwych o ran sut i ddatblygu a thyfu’r gymuned Ymchwilwyr Ôl-raddedig a’r diwylliant ymchwil, y bydd y Swyddfa Ymchwil yn eu hystyried ac yn eu trosglwyddo ymlaen.
Am ddiwrnod llwyddiannus - gorau po gyntaf i’r flwyddyn nesaf gyrraedd! Rydym yn edrych ymlaen yn barod at Ddiwrnod Ymchwilwyr Ôl-raddedig hyd yn oed yn fwy ac yn well yn 2026.