“Dod yn ôl at fy nghoed”

A picture of a forest

Ystyr y dywediad “dod yn ôl at fy nghoed” yw “dychwelyd at stad feddyliol gytbwys”. Mae’r dywediad hwn yn taro tant gyda mi ar sawl lefel. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae fy nghoedwigoedd lleol wedi bod yn noddfa imi. Rydw i’n mynd yno unwaith yr wythnos fan leiaf i fynd am dro ac i brosesu’r pethau sydd wedi digwydd. Does yna ddim disgwyliadau ar fy ysgwyddau tra byddaf yno, ac yn raddol rydw i’n llwyddo i ymlacio a dod at fy synhwyrau. Mae’r coed yn llwyddo i dawelu fy meddwl prysur.

Fel uwch-ddarlithydd ac ymchwilydd llesiant ac iechyd y cyhoedd, mae’r dywediad hwn yn berthnasol ar lefel arall hefyd, oherwydd mae llenyddiaeth yn y maes yn dangos bod dod i gysylltiad â natur a mannau gwyrdd o fudd i lesiant ac iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Rydw i’n falch iawn fod yna fwy a mwy o seilwaith ar gael sy’n galluogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i atgyfeirio’u cleifion a’u cleientiaid at ymyriadau seiliedig ar natur er mwyn gwella’u hiechyd a’u llesiant. Ers sawl blwyddyn bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn presgripsiynu cymdeithasol. Lansiwyd y Fframwaith Cenedlaethol yn 2023, a bydd yn parhau i ddefnyddio grym natur a mannau gwyrdd, yn ogystal ag asedau naturiol a chymunedol eraill, er budd iechyd a llesiant.

Hefyd, mae’r dywediad yn cyfleu’r syniad o ‘ddychwelyd at gydbwysedd meddyliol’. Yn fy marn i, dyw’r rhywogaeth ddynol ddim yn byw mewn ffordd gytbwys iawn ar hyn o bryd; mae ein ffordd o fyw yn canolbwyntio gormod ar hunan-fudd ac rydym yn dwyn mwy na’n siâr o adnoddau gwerthfawr y ddaear. Mae hyn yn dyfnhau anghydraddoldebau cymdeithasol, gan esgor ar ddinistr amgylcheddol a newid hinsawdd ac, yn y pen draw, mae’n arwain at salwch corfforol, meddyliol a chymdeithasol ymhlith pobl o amgylch y byd. Sut y gallwn ddod o hyd i gydbwysedd meddyliol yng nghanol hyn oll? Ymddengys i mi fod cysylltu â’r amgylchedd naturiol – sef rhywbeth rydym yn ddibynnol arno – a gofalu am yr amgylchedd naturiol hwnnw, yn gam pwysig.

Mae’r pynciau hyn yn rhan o raglen y cwrs MSc Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles rydw i’n ei arwain ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn y cwrs, byddwn yn archwilio materion sy’n effeithio ar iechyd, iechyd meddwl a llesiant pobl (materion cyfoes a rhai a ddaw i’r amlwg yn y dyfodol). Hefyd, byddwn yn trafod sut y gallwn wneud synnwyr o fodau dynol a sut i newid ymddygiad, a byddwn yn archwilio strategaethau ar gyfer sbarduno newid ar lefel unigolion, ar lefel cymunedau ac ar lefel genedlaethol er mwyn i bob un ohonom gael dyfodol hapusach ac iachach – yn ogystal â llawer mwy!


Cewch ragor o wybodaeth am y rhaglen yma.

Gallwch drefnu lle ar weithdy’n ymwneud â’r rhaglen ar ein tudalen Digwyddiadau Pwnc.