Dyfodol yr hinsawdd ar gyfer Dinasydd(ion) Ecolegol.
Dewisol, cyd-destunol a chynaliadwy... dyfodol yr hinsawdd ar gyfer Dinasydd(ion) Ecolegol.
Nod Dinasyddion Ecolegol, sy'n fenter ymchwil gydweithredol rhwng y Coleg Celf Brenhinol, Prifysgol Efrog a Phrifysgol Wrecsam yw ariannu amrywiaeth o brosiectau fydd yn helpu ein dinasyddion i ddod yn fwy craff yn ecolegol a chyfrannu at arafu newid hinsawdd. Yn cynrychioli Prifysgol Wrecsam mae Alec Shepley, Athro Celf mewn Cymdeithas a Daniel Knox, Darlithydd mewn Dylunio Cynnyrch.
Mae Dinasyddion Ecolegol yn waith sy'n cael ei arwain gan y gymuned ac sy'n bwriadu creu, llywio ac atgyfeirio i ddyfodolau cynaliadwy dewisol sydd wedi'i adeiladu o amgylch dinasyddiaeth ecolegol.
Cynhaliodd y tîm weithdy ar-lein er mwyn archwilio dinasyddiaeth ecolegol a dyfodol yr hinsawdd gyda grŵp o gyfranogwyr sy'n cynrychioli amrywiol sefydliadau sydd â diddordeb ac arbenigedd yn y maes, e.e. Ymddiriedolaethau Natur, Forestry England, Y Sefydliad Data Agored.
Rhannodd mynychwyr yn grwpiau llai oedd â diddordebau perthnasol a thrafod 'diwrnod ym mywyd' dinesydd ecolegol a beth oedd ei angen gan systemau a gweithredoedd unigol. Yn y man edrychwyd yn feirniadol ar naratifau fel 'dyfodolau dewisol' a'u mapio i gamau gweithredu dilys o fewn fframwaith dinasyddion ecolegol, a chawsant eu cyflwyno'n weledol gan ddarlunydd y tîm.
Datblygwyd sawl thema bwysig o'r gweithdy ar-lein:
- Achrediad Dinasyddion Ecolegol
- Pasport deunyddiau.
- Economïau digidol.
- Dinasyddion wedi'u grymuso.
- Tryloywder adnoddau:
- Grymuso'r Gymuned:
- Bod(au) Dynol wedi eu Dad-ganoli.
- 'Gwarcheidwaid' Amgylcheddol.
Roedd y dull hwn yn pwysleisio gwerth cyd-greu a llywio cyfeiriadau a datrysiadau ymchwil. Gellir defnyddio'r sefyllfaoedd naratif a ddatblygwyd i atgyfeirio tuag at dyfodolau dewisol a allai fod yn bosib drwy ddinasyddiaeth ecolegol.