Goresgyn Heriau a Chyflawni’r Anhygoel: Fy Nhaith at gyflawni PhD
Gan Cara Langford Watts
Mae heriau’n codi’n aml drwy gydol ein bywydau, ac maent yn profi ein gwytnwch a’n hawydd i ddal ati. Nid yw fy nhaith at gyflawni PhD wedi bod yn un gonfensiynol o bell ffordd. O’i chael hi’n anodd oherwydd anawsterau clywed ac anableddau dysgu, i wynebu heriau personol, rwyf wedi dod drwyddi'n gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed. Dyma hanes dyfalbarhad, a phŵer cefnogaeth, a’m hymrwymiad cadarn i geisio gwybodaeth a goresgyn pob her ar hyd y ffordd.
Yn blentyn ifanc, cefais fy llethu gan heintiau yn y glust ac anawsterau clywed byth a beunydd, ac roedd y daith ddysgu’n un llafurus. Gosododd gweithwyr meddygol proffesiynol goleri ym mhen fy nghlust, ond roedd pryderon y gall fod angen cymhorthion clyw arnaf. Arweiniodd yr heriau cynnar hyn at broblemau iaith ac oedi gyda fy lleferydd, a oedd yn gwneud imi deimlo fel nad oeddwn yn perthyn i'r byd academaidd.
Roedd fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd yn her aruthrol. Roedd dysgu i ddarllen yn frwydr aruthrol, ac roedd angen imi weithio’n galed i gyrraedd yr un lefel â’m cyfoedion. Rwy’n cofio teimlo’n annigonol ar ôl profiad digalon gydag athro yn fy niystyru fel plentyn "twp ond hapus". Er gwaethaf fy nhrafferthion, rhygnais drwy’r ysgol gyda’r graddau sylfaenol i symud ymlaen i'r coleg.
Nid oedd yr ysgol uwchradd yn cynnig llawer o seibiant, ac roeddwn yn teimlo ar goll, diolch i’r cymorth prin. Roedd cyfyngiadau ariannol yn bwysau ar fy nheulu, ond eto, roeddent yn gwneud pob ymdrech i dalu am fy addysg breifat gydag arbenigwr iaith a lleferydd. Er bod y cynnydd yn araf, roedd ffydd ddiysgog yr arbenigwr yn fy mhotensial yn fy ysgogi i afael ynddi.
Roedd y coleg yn cynnig llygedyn o obaith. Ar ôl cwblhau blwyddyn o Safon Uwch, ymgymerais â rhaglen GNVQ, a oedd yn fwy ymarferol. Yn ystod y cyfnod hwn, sylweddolais fod gennyf ddiddordeb brwd mewn seicoleg a throseddeg. Serch hynny, roedd heriau academaidd yn parhau i godi’u pen, cyn i’r brifysgol gamu i’r adwy a’m cynorthwyo. Dan arweiniad y brifysgol, gwnes gais am lwfans myfyrwyr anabl a chefais fy asesu gan seicolegydd addysg, ac ym mhen hir a hwyr, cefais ddiagnosis o ddyslecsia. Diolch i’r ddealltwriaeth newydd hon, cefais fy rhoi ar ben ffordd o ran y cymorth yr oedd mawr ei angen arnaf. Gyda chymorth addasiadau, graddiais â gradd 2:1, gan brofi imi fy hun, ac i eraill, fy mod yn gallu llwyddo’n academaidd. Yn fwy diweddar, cefais ddiagnosis o ADHD.
Gyda'r gefnogaeth roeddwn i wedi dyheu amdani, taniodd fy mrwdfrydedd dros ddysgu. Dychwelais i’r brifysgol er mwyn ymgymryd â diploma raddedig mewn seicoleg a diploma uwch mewn cwnsela seicotherapiwtig. Ond nid dyna ddiwedd y daith, ac ym mis Ebrill 2019, cefais ddiagnosis o ganser y llygaid; brwydr a oedd yn galw am gryfder a dyfalbarhad difesur. Oherwydd hyn, dechreuais ail-werthuso’r hyn yr oeddwn ei eisiau, a phenderfynais ymgymryd â gradd Meistr mewn Hyfforddi a Mentora. Roedd pob cam ymlaen yn ategu fy ffydd yn fy ngalluoedd, ac yn cadarnhau pwysigrwydd cefnogaeth wrth oresgyn heriau.
Roeddwn yn gwybod ym mêr fy esgyrn fy mod eisiau cyrraedd pinacl cyflawniad academaidd - PhD. Roedd yn nod bersonol, yn ffordd o brofi fy ngalluoedd i unigolion a oedd wedi fy amau, ac yn deyrnged i gefnogaeth ddi-ddiwedd fy rhieni, a’u ffydd yn fy mhotensial. Gyda gwytnwch fel grym arweiniol, dechreuais ar drywydd PhD.
Fodd bynnag, roedd mwy o heriau i ddod. Bu i ddiagnosis Alzheimer cynnar fy ngŵr roi fy nghryfder dan brawf pellach, ac rwyf wedi gorfod newid o lwybr llawn amser i lwybr rhan amser. Ond, roeddwn yn gwrthod gadael i’r caledi hyn fy nigalonni rhag ceisio gwireddu fy mreuddwydion.
Yng nghanol yr hynt a'r helyntion, daliais ati. Rwyf bellach hanner ffordd drwy fy nhaith PhD, ac rwy’n sylweddoli bod fy nghyflawniadau gorau wedi codi o drallod. Mae pob her rwyf wedi'i hwynebu wedi tanio fy natur benderfynol i lwyddo.
Mae fy nhaith at gyflawni PhD yn dyst i bŵer dyfalbarhad, cymorth diwyro, a’n natur anorchfygol ni fel pobl. O’i chael hi’n anodd ag anawsterau clywed a dysgu, i frwydro canser ac ymdopi â salwch anwylyd, rwyf wedi dysgu bod heriau yn ein mireinio, nid ein diffinio.
Rwy’n annog unrhyw un sy’n wynebu eu heriau eu hunain i gofleidio eu breuddwydion yn llwyr. Ceisiwch y cymorth sydd ei angen arnoch chi, ac yn fwy na dim, credwch ynoch chi’ch hun.