Grant Athro Gwadd Academi Frenhinol Peirianneg

St Asaph building

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod yr Athro Anne Nortcliffe, Deon y Gyfadran, wedi llwyddo i sicrhau grant dan gynllun Athro Gwadd Academi Frenhinol Peirianneg. 

Cyflogadwyedd Graddedigion a Phartneriaethau Diwydiant
Mae'r grant yn galluogi prifysgolion i ddenu athrawon gwadd sydd â chefndiroedd amlwg yn y sector diwydiant er mwyn gwella addysgu a dysgu ar gyrsiau gradd peirianneg, gyda'r nod o gefnogi myfyrwyr peirianneg mewn cyflogadwyedd graddedigion a chyfnerthu partneriaethau diwydiant. 

Mae'r prosiect tair blynedd gan Brifysgol Wrecsam yn dwyn y teitl Datblygu sgiliau a chymuned peirianneg optegol Cymru a bydd yn dechrau ym mis Medi 2025 gyda Dr James Monks yn ymuno fel Athro Gwadd. 

Pontio’r Bwlch
Mae Gogledd Cymru'n gartref i nifer o fusnesau peirianneg optegol, ochr yn ochr â'r sector cyfrifiadura cwantwm sydd ar gynnydd. Er mwyn pontio'r bwlch a ddaeth i'r amlwg yn y rhanbarth o ran peirianwyr optegol medrus, bydd y prosiect Athro Gwadd yn cyflwyno cwrs byr mewn peirianneg optegol. Bydd y cwrs, sy'n agored i fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam (Llawn amser a rhan amser) yn ogystal â gweithwyr lleol yn y diwydiant peirianneg optegol manwl, yn ymdrin ag egwyddorion damcaniaethol ar y cyd â chymhwysedd ymarferol o'r dysgu. Bydd datblygu'r cwrs byr yn dechrau gydag asesiad o anghenion a gofynion diwydiannol yn yr ardaloedd dylunio optegol, mecaneg optegol a ffotoneg, er mwyn sicrhau bod y cwrs yn cyfarparu dysgwyr gyda'r sgiliau priodol.

Cyfle
Mae gan y prosiect Datblygu sgiliau a chymuned peirianneg optegol Cymru gyfle gwych i fynd i'r afael â'r galw am beirianwyr optegol medrus yn y rhanbarth, atgyfnerthu partneriaethau diwydiant, cyfrannu at economi Cymru a gwella cyflogadwyedd graddedigion. Llongyfarchiadau ac edrychwn ymlaen at weld y rhaglen y cael ei rhoi ar waith.