Lansiad Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol

Two research colleagues in front of a presentation screen

Ionawr 2025

Cynhaliwyd y Lansiad Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol yng Nghampws Plas Coch, digwyddiad a oedd yn agored i staff, ymchwilwyr, myfyrwyr, a chysylltiadau busnes allanol.

Sylwadau Agoriadol

Dechreuodd Dr Phoebe Teh, Darllenydd mewn Cyfrifiadura Cymdeithasol a sylfaenydd yr hwb drwy gyflwyno’r Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol. Mae Cyfrifiadura Cymdeithasol yn faes o fewn cyfrifiadureg sy’n canolbwyntio ar y croestoriad rhwng ymddygiad cymdeithasol a systemau cyfrifiadurol. Ardal rithiol oedd yr hwb i ddechrau, ond mae bellach wedi datblygu i fod yn ardal ar gyfer cefnogi datblygiad a chynnydd ymchwil o fewn Cyfrifiadura.

Gweledigaeth ac Amcanion

Gweledigaeth yr Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol yw gweithredu fel canolfan flaengar sy’n rhagori mewn ymchwil cyfrifiadura, drwy feithrin arloesedd a chydweithio i ymdrin â heriau cymdeithasol cymhleth, drwy gyfuno’r gwyddorau cyfrifiadurol, cymdeithasol a rhyngddisgyblaethol. Ymysg y prif amcanion oedd:

  • Hwyluso Ymchwil Cydweithredol: darparu ardal ar gyfer staff a myfyrwyr i gydweithio ar brosiectau cyfrifiadura cymdeithasol, traethodau hir, a gweithgareddau ymchwil eraill.
  • Cefnogi Ceisiadau Grant: er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau ymchwil.
  • Annog Cyfarfodydd Agored: cynnal cyfarfodydd agored bob bythefnos ar gyfer staff a myfyrwyr i drafod eu hymchwil a chael cyngor.

Meysydd Ymchwil a Bwriadau ar gyfer y Dyfodol

Amlygodd Dr Teh rai o’r meysydd sydd wedi’u cynnwys o fewn Cyfrifiadura Cymdeithasol, megis, Rhyngweithiadau Dynol-Cyfrifiadurol (HCI), Algorithmau ar gyfer Rhannu Gwybodaeth, Dadansoddiad Rhwydwaith Cymdeithasol, a Chasglu Gwybodaeth. Gyda dros 85 o gyhoeddiadau hyd yn hyn, mae ymchwiliadau Phoebe wedi ymdrin ag agweddau amrywiol Cyfrifiadura Cymdeithasol, fel Ymosodiadau Pont Llundain 2017, Newid Hinsawdd, a Newid mewn Cymdeithas gyda Thechnoleg i Adnabod Cabledd a Chasineb ar lafar. Trafodwyd syniadau ymchwil ar gyfer 2025. Ymysg y pynciau oedd AI mewn celf a marchnata a’r defnydd o fodelau iaith mawr o fewn busnes.

Cyflwyniadau a Gwybodaeth

Rhoddodd Dmritrii Iarovoi, myfyriwr PhD, Intern Hwyluso Dysgu Digidol a Chyd-sylfaenydd yr Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol gyflwyniad ar Ddefnyddio Gemau Cyfrifiadurol at Ddibenion Ymchwil. Trafododd bwysigrwydd gemau fideo mewn bywyd pob dydd a’u harwyddocâd yng ngwead cymdeithasol a diwylliannol y DU. Ymysg ei feysydd ymchwil oedd yr ymateb emosiynol i osodiadau gemau arswyd gyda symbyliad cryndod cyffyrddol, effaith y teimlad o fethiant a rhwystredigaeth o beidio â gallu cwblhau lefelau gemau cyfrifiadur ar brofiad y chwaraewr, ac effaith cymeriad ‘nad yw’n chwaraewr’ ar y profiad o chwarae’r gêm. Rhannodd Dmritrii ei ddealltwriaeth ynghylch dysgu profi a methu dwfn AI o fewn chwarae gemau.

Yn dilyn egwyl goffi a rhwydweithio, rhoddodd Dr Colin Kuka, Uwch Ddarlithydd mewn Seiber a Chyfrifiadura, gyflwyniad ar Seiberddiogelwch a Thechnolegau’r Dyfodol. Rhoddodd drosolwg o’i ymchwil, gan gynnwys Dylunio a Rheoli Baw Uned Ffotofoltäig, ac optimeiddiad cynnal a chadw ar gyfer unedau Ffotofoltäig mawr. Trafododd Colin ddyfodol seiberddiogelwch, bygythiadau newydd, a diogelwch arloesol - newid diogelwch ar gyfer cyllid a thu hwnt.

Gweithdai a Sesiynau Rhyngweithiol

Ar ôl egwyl cinio, cymerodd y mynychwyr ran mewn gweithdai er mwyn cynhyrchu datganiadau problem ar gyfer pynciau ymchwil. Ysgrifennwyd y datrysiadau hyn, eu grwpio i glystyrau, a’u trafod ar gyfer datblygu’r syniadau a phenderfynu ar ddatrysiadau posib. Defnyddiwyd bwrdd gwyn rhyngweithiol ar gyfer nodi problemau ar lefel diwydiant, gan alluogi ychwanegu haenau adnabod heriau a disgrifiadau mwy manwl.

Sylwadau i Gloi

Gorffennodd y diwrnod â sylwadau i gloi gan Dr Teh, gan amlinellu’r camau nesaf a chrynoi’r prif negeseuon. Bu i’r mynychwyr adael â brwdfrydedd dros weld beth fydd canlyniad y prosiectau ymchwil o fewn yr hwb.

Edrychwn ymlaen at weld yr ymchwil arloesol a’r cydweithrediadau sydd yn sicr o ddatblygu o’r Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol.