Lleoliadau gradd gofal iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam - safbwynt myfyriwr
Fe wnaethom ofyn i’r myfyriwr Ffisiotherapi , Jill Plummer, ateb rhai cwestiynau am ei phrofiad o fynd ar leoliad fel rhan o’i gradd.
Mae’n sôn am y cymorth y mae myfyrwyr yn ei gael ar leoliad, yn ogystal â’r heriau a’r manteision o gael profiadau ymarferol yn y maes astudio o’i dewis.
Pam fod lleoliadau yn bwysig?
Mae lleoliadau yn rhoi fy ngradd mewn cyd-destun ac ymarfer, ac maen nhw'n hanfodol i mi adeiladu ar y wybodaeth academaidd rwyf wedi'i hennill trwy ddarlithoedd a hunan-astudio.
Maent yn brofiad ymarferol a dynamig lle gallwch ddysgu oddi wrth staff gofal iechyd arbenigol, a chael eich cynorthwyo ganddynt. Mae lleoliadau hefyd yn caniatáu i chi ddatblygu sylfaen o brofiad i weithio ohono fel gweithiwr proffesiynol, ar ôl cymhwyso.
Mae lleoliadau yn rhan hanfodol o unrhyw radd Ffisiotherapi, ar gyfer ehangu eich dysgu ac fel gofyniad allweddol. Er mwyn graddio, mae'n ofynnol gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) bod angen i fyfyrwyr wneud lleiafswm o 1,000 awr o leoliad yn ystod eu gradd.
Sut byddaf yn gwybod ble byddaf ar leoliadau?
Mae ble rydych chi'n cael eich lleoli ar leoliad yn dibynnu ar ychydig o newidynnau, ond bydd rhywle addas i chi bob amser wrth i chi wneud eich ffordd trwy'ch gradd.
Arbenigeddau, grwpiau cleifion, lleoliad, darpariaeth ( e.e cymuned, ward, cleifion allanol), ac addysgwyr lleoliad yw rhai o'r ffactorau a ystyrir wrth baru myfyrwyr â'u lleoliad. Mae pob lleoliad yn wahanol a bydd profiad pob myfyriwr yn unigryw.
Pa gymorth sydd ar gael i mi ar leoliad?
Cyn dechrau, mae gennym sesiwn cyn-lleoliad gyda staff y brifysgol i’n paratoi a’n hatgoffa o ofynion y mae angen i ni gadw atynt. Mae hyn yn cynnwys mynd trwy ddogfennau pwysig a meini prawf marcio, ac mae'n ddefnyddiol iawn cael y darlithwyr wrth law i ni ofyn unrhyw gwestiynau.
Rydym hefyd yn derbyn e-bost ein haddysgwyr lleoliad i gysylltu â nhw’n uniongyrchol am unrhyw waith paratoi y gallwn ei wneud ymlaen llaw, neu i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennym cyn dechrau’r lleoliad. Mae gennym hefyd yr opsiwn o drefnu ymweliad cyn dechrau os yw'n bosibl iddynt.
Hanner ffordd drwy'r holl leoliadau, byddwch chi a'ch addysgwr lleoliad yn cael cyfarfod gyda'ch tiwtor prifysgol i drafod sut ydych chi’n dod ymlaen ar eich lleoliad. Byddant yn tynnu sylw at unrhyw heriau yr ydych wedi’u hwynebu, a bydd eich tiwtor a'ch addysgwr lleoliad yn gofyn a oes unrhyw gymorth y credwch sydd arnoch ei angen. Byddwch hefyd yn cael sesiwn ôl-leoli gyda staff y brifysgol sy'n gyfle i fyfyrio a thrafod eich profiadau.
Beth os yw'r lleoliad yn anodd?
Gall lleoliadau fod yn bleserus ac yn heriol yn gyfartal. Bydd myfyrwyr sy'n mynd trwy leoliadau yn gweld gwahanol agweddau'n heriol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau eu hunain - nid oes unrhyw ddau fyfyriwr yr un peth. Gall y profiadau a gewch ar leoliad, a'r perthnasoedd proffesiynol sydd gennych gyda'ch addysgwr lleoliad neu staff gofal iechyd eraill effeithio ar eich trefn ddyddiol ar leoliad.
Rhai ffactorau cyffredinol i'w hystyried hefyd a all ychwanegu rhywfaint o bwysau weithiau yw byw oddi cartref, ceisio cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a lleoliad, neu barhau i weithio ar fodiwlau ac aseiniadau eraill ar yr un pryd â'r lleoliad.
Cofiwch fod yna gymorth ar gael. Gall eich addysgwr lleoliad neu eich cydweithwyr fod yn ffynonellau cymorth gwych ar leoliad. Gallwch hefyd gysylltu â'ch tiwtor prifysgol, gan y byddant yn gallu eich cyfeirio at wasanaethau'r brifysgol. Gall siarad â chyfoedion a ffrindiau fod yn ddefnyddiol, ond gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn cadw cyfrinachedd cleifion fel egwyddor graidd.
Beth ddylwn i ystyried cyn mynd ar leoliad?
Yr arfer personol allweddol rwyf wedi dysgu ei ystyried tra ar leoliadau yw cyfathrebu. Mae'n bwysig cyfathrebu os ydych chi'n gweld rhywbeth heriol ac os ydych chi'n teimlo bod arnoch angen cymorth.
Fel y soniais, mae lleoliadau yn aml yn bleserus ac yn ffordd wych o gyfarfod a gweithio gyda phobl anhygoel a diddorol. Rwyf yn bersonol wedi mwynhau dod i adnabod cleifion a defnyddwyr gwasanaeth tra hefyd yn dysgu oddi wrth Ffisiotherapyddion profiadol ac ysbrydoledig, ynghyd â staff gofal iechyd eraill trwy fy lleoliad. Mae lleoliadau yn ffordd wych o ddatblygu eich hyder yn eich gwybodaeth a'ch sgiliau, wrth arsylwi a gweithio tuag at gymhwyso yn eich dewis radd.
Darganfyddwch sut y gallwch chi fod yn rhan o ddysgu ym Mhrifysgol Wrecsam a dod o hyd i'r cwrs iawn i chi.