Llwybrau at Effaith - Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid

Archwilio Tir Cyffredin: Edrych ar aliniad ymarfer Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Ym mis Mawrth 2025, mynychodd Alex Drury, Cynorthwyydd Ymchwil mewn Gwaith Ieuenctid, weithdy BERA (Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain) ar-lein ynghylch Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid a’r croestoriadau rhyngddynt. Yn dilyn y drafodaeth, rhannodd Alex ei diddordebau ymchwil â chynrychiolydd o Chwarae Cymru, a arweiniodd at gomisiynu prosiect ymchwil.
Er bod Gwaith Ieuenctid a Gwaith Chwarae yn broffesiynau gwahanol, mae gorgyffwrdd rheolaidd mewn ymarfer ac yn eu hegwyddorion craidd. Gall sefydliadau gyflogi Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Chwarae, ac mae rhai ymarferwyr yn gymwys yn y ddwy rôl. Weithiau, gall gwahaniaethau o ran dulliau greu tensiwn; gall Gweithwyr Ieuenctid ddefnyddio dull mwy strwythuredig, tra bod Gweithwyr Chwarae yn blaenoriaethu’r broses chwarae, sydd yn aml yn golygu bod yn fwy presennol yn y foment. Fodd bynnag, mae'r ddau grŵp yn rhannu parch tuag at hunaniaethau proffesiynol ei gilydd, ac ymrwymiad i gefnogi plant a phobl ifanc.
Yr Ymchwil
Cynhyrchwyd yr adroddiad canlyniadol, ‘Tir Cyffredin: Edrych ar aliniad ymarfer Gwaith Chwarae a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’, gan Alex a'r Athro Mandy Robbins, gyda chefnogaeth Chwarae Cymru. Gan ddefnyddio cyfweliadau ar draws sefydliadau yng Nghymru, ymchwiliodd yr astudiaeth fuddion a heriau creu aliniad rhwng y ddau broffesiwn.
Canfuwyd buddion clir o gydweithredu yn yr ymchwil. Er enghraifft, datblygodd staff Gwaith Ieuenctid, a gwblhaodd hyfforddiant Gwaith Chwarae, ddealltwriaeth well o anghenion chwarae plant hŷn, a chefnogodd sesiynau ddysgu a myfyrio ar y cyd rhwng ymarferwyr. Eto, bu i rai heriau godi, er enghraifft, gwahaniaethau mewn athroniaeth broffesiynol a diffyg hyfforddiant ar y cyd. Weithiau, achosodd y gwahaniaethau athronyddol hyn densiwn, ond dangosodd yr ymchwil y gallai aliniad weithio’n dda os mai’r nod oedd cydweithredu, nid aruno.
Trwy ei phrofiad proffesiynol a’r cyfweliadau, arsylwodd Alex mai o safbwynt plant, y peth pwysicaf yw teimlo’n ddiogel a theimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan oedolyn dibynadwy, yn hytrach na deall teitlau swyddi. Mae hyn yn atgyfnerthu’r angen i oedolion yn y ddau broffesiwn reoli cydweithrediad mewn modd sensitif er mwyn ymateb i anghenion plant yn effeithiol.
Argymhellion
Mae Alex a Mandy’n argymell bod arweinwyr strategol yn:
- Datblygu datganiad ar y cyd ar fuddion creu aliniad rhwng gwaith ieuenctid a gwaith chwarae
- Ystyried cyd-strategaeth weithio i hyrwyddo arfer dda
- Annog darparwyr hyfforddiant i gynnwys modiwlau ar y ddau broffesiwn o fewn cymwysterau'r proffesiwn arall (er enghraifft, modiwl Gwaith Chwarae mewn gradd Gwaith Ieuenctid).
- Annog darparwyr hyfforddiant i ddatblygu hyfforddiant ychwanegol sy’n cefnogi aliniad ar waith a chyd-ddealltwriaeth yn benodol.
- Sicrhau cydweithrediad rhwng y corff cenedlaethol newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a'r sector Gwaith Chwarae.
Y camau nesaf
I barhau â'r sgwrs, cyflwynodd Alex ei chanfyddiadau gyda gweithdy yng Nghynhadledd Flynyddol Chwarae Cymru yng Nghaerdydd, “Polisi Chware, Ymchwil ac Ymarfer: Cael Pethau’n Iawn i Blant.” Roedd y digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Dr David Dallimore a’r Athro Phillip Jaffé, Is-gadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Denodd gweithdy Alex ddiddordeb cryf ac agorodd ddrysau ar gyfer datblygiad pellach, yn enwedig o ran hunaniaeth broffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid a Gwaith Chwarae. Mae Alex nawr yn ymchwilio i gyfleoedd i weithio gyda’r ddau sector i ddatblygu argymhellion yr ymchwil ymhellach.