Mapio’r Trawsnewid Gwyrdd: Pam mai Stori yw’r Ddolen Goll

Gan yr Athro Alec Shepley
Mae yna adegau mewn gyrfa ymchwil pan mae prosiect yn rhoi'r gorau i deimlo fel gwaith ac yn dechrau teimlo fel galwedigaeth. Dyna sut ydw i’n teimlo ar hyn o bryd — yn sefyll ar drothwy rhywbeth gwirioneddol bwysig yn fy marn i, wedi fy ysgogi gan y cyfle rhyfeddol a gynigwyd i mi drwy Grantiau Ymddygiad Trawsnewid Gwyrdd yr AHRC, ac sydd wedi’i wreiddio, yn llythrennol, yn y lle rwy’n ei alw’n gartref.
Enw’r prosiect yw Ystafell Wrecsam. Ac mae’n dechrau gyda chwestiwn twyllodrus o syml: beth os nad drwy ddata, targedau neu ddogfennau polisi y gallwn helpu pobl i ddeall y trawsnewid gwyrdd — ond drwy stori?
-(1).jpg)
Ers nifer o flynyddoedd bellach, rwyf wedi bod yn rhan o’r prosiect Map Cyhoeddus, sydd, fel mae’r enw yn ei nodi, yn ymwneud â datblygu llwyfan mapio cyhoeddus sy’n sicrhau bod cymunedau (yn enwedig plant a phobl ifanc) yn ganolog o ran sut rydym yn dogfennu, dychmygu ac yn gwneud synnwyr o newid amgylcheddol. Mae mapiau wedi bod yn wrthrychau gwleidyddol erioed. Maent yn adlewyrchiad o wybodaeth pwy sy’n cyfrif, tir pwy sy’n cael ei enwi, profiad pwy sy’n cael ei wneud yn weledol. Mae’r gwaith mapio cyhoeddus rwyf wedi bod yn ei wneud yn ceisio democrateiddio’r broses honno — i roi’r offer a’r gwahoddiad i gymunedau fapio eu bydoedd eu hunain, ar eu telerau eu hunain. Rydym wedi gwneud hynny gyda chymorth Beirdd Cymru - rhywbeth arall rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi gallu ei wneud yn fy ngyrfa!
Mae Grantiau Ymddygiad Trawsnewid Gwyrdd yr AHRC yn cynrychioli moment dyngedfennol i’r gwaith hwn. Maent yn cydnabod rhywbeth y bu'r gymuned ymchwil yn osgoi ei gydnabod ers blynyddoedd: mai prin iawn y mae gwybodaeth yn rhwystr rhag newid ymddygiad gwyrdd. Mae pobl yn gwybod. Yr her yw creu cysylltiad — rhwng gwybod a theimlo, rhwng gweithredu unigol ac ystyr torfol. Dyna’n union lle mae naratif yn bwysig.
Mae dull naratif cyhoeddus ac adrodd stori o fapio’r trawsnewid gwyrdd yn ganolog i’r gwaith hwn. Gan ddefnyddio’r traddodiad cyfoethog o adrodd straeon yn y gymuned a’r sylfaen o dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg mewn cysylltiad â naratif cyhoeddus, mae’r prosiect hwn yn gofyn beth sy’n digwydd pan fyddwn yn gwahodd dinasyddion, nid yn unig i lyncu gwybodaeth am yr amgylchedd, ond i gyfrannu eu straeon eu hunain i fap trawsnewid byw sy’n datblygu. Straeon personol. Straeon cymdogaeth. Straeon am golled, am addasu, am obaith.
Mae’r dystiolaeth yn gymhellol. Mae defnyddio naratif cyhoeddus i ddenu sylw dinasyddion wedi dangos gallu gwirioneddol i godi ymwybyddiaeth ac addasu ymddygiadau trawsnewid gwyrdd sy’n ymwneud â materion amgylcheddol mewn ffyrdd na all cyfathrebu o’r top i’r gwaelod fyth eu dyblygu. Pan fydd rhywun yn gweld ei stryd ei hun, ei stad ei hun, ei gymuned ei hun wedi eu hadlewyrchu mewn stori a rennir am hinsawdd a newid, mae rhywbeth yn newid. Mae’r haniaethol yn dod yn agos. Mae materion pell yn dod yn faterion brys.
Mae hyn yn dechrau yn Wrecsam. Nid am ei bod yn neilltuol — ond am ei bod yn cynrychioli’r byd go iawn. Tref ôl-ddiwydiannol sy’n llywio ei chyfnod ei hun o drawsnewid, yn llawn lleisiau nad ydynt prin yn ymddangos mewn sgyrsiau cenedlaethol am gynaliadwyedd a dyfodol gwyrdd. Mae Ystafell Wrecsam yn cael ei gweld fel lle — ffisegol a digidol — i’r lleisiau hynny ddod ynghyd, i gael eu mapio a’u chwyddleisio.
Rydym ar drothwy dechrau newydd pwysig. Mae’r sgwrs am sut y gall naratif cyhoeddus wasanaethu’r trawsnewid gwyrdd yn dechrau, ac mae’r prosiect hwn yn bwriadu bod yn rhan o’i llunio. Nid gydag atebion sicr, ond gyda chred gref yn y cwestiynau — ac yn y cymunedau sy’n haeddu bod yn ganolog yn y broses o ddod o hyd iddynt.
Nid yw'r map bob amser, yn ôl bob sôn, yn cynrychioli'r gwirionedd. Ond map wedi’i greu gan y bobl sy’n byw yno? Gallai hynny newid popeth.