Myfyrdodau ar ‘Sut i adeiladu dyfodol cynaliadwy”

image of earth

Dilyniant i’r Blog “Sut i adeiladu dyfodol cynaliadwy”, a gyflwynwyd yn Stafford ar 13 Mai 2025 gan Alison McMillan

Flow chart showing step to change in various colours with numbered text included

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i roi sgwrs seminar gyda’r nos o’r enw “Sut i adeiladu dyfodol cynaliadwy”.  Gan bod disgwyl i’r gynulleidfa fod yn cynnwys, yn bennaf, aelodau lleol o’r Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol, fe wnes i gymryd yn ganiataol y byddai dealltwriaeth sylfaenol ynghylch materion Newid Hinsawdd.


Gwybodaeth ymlaen llaw a ragdybir
Yn fras, fe wnes i ragdybio bod y ffaith ganlynol yn un sy’n hysbys ac sy’n cael ei deall yn gyffredinol, sef bod y cynnydd (er yn isel iawn) yng nghrynodiad CO2 yn yr atmosffer yn bennaf yn cael ei achosi gan yr hil ddynol yn llosgi tanwydd ffosil; a bod y cynnydd mewn crynodiad CO2 yn achosi i wres gael ei ddal gan yr atmosffer, gan arwain at gynhesu byd-eang.  Ymhellach, bod effaith hyn wedi bod yn fesuradwy ac wedi’i gofnodi dros yr hanner canrif aeth heibio, a bod y berthynas rhwng crynodiad CO2 a’r tymheredd byd-eang cyfartalog wedi’i sefydlu’n gadarn.  

Byddai dealltwriaeth fwy soffistigedig yn cydnabod nad yw’r targed “Sero Net erbyn 2050” (p’un a yw’n cael ei gyflawni ai peidio) yn ymgais i gyfyngu ar y cynnydd pellach o ran crynodiad COS.  Pwrpas hyn yw cyfyngu ar y codiad tymheredd cyfartalog yn fyd-eang, oherwydd mae modelu hinsawdd yn awgrymu y byddai effeithiau ansefydlog gwibedog nad oes modd eu gwyrdroi, y cyfeirir atynt fel “tipping points” neu sefyllfa ddi-droi’n-ôl yn cael eu hachosi, os yw’r tymereddau cyfartalog byd-eang yn mynd y tu hwnt i 1.5 neu 2 gradd Celsiws. Mae’n bosib y byddai peth o’r modelu hwn yn cael ei ystyried yn anfanwl neu’n anghyflawn, ond ni ellir gwadu’r dystiolaeth ynghylch patrymau tywydd sy’n gynyddol eithafol, rhew yn cael ei golli o’r pegynau, a newidiadau i dymheredd dŵr môr a newidiadau pH.


Pwrpas y sgwrs ac amlinelliad ohoni
Pwrpas fy sgwrs oedd gofyn am i ni ailfeddwl ynghylch y ffordd rydym ni’n defnyddio ynni.  Ar hyn o bryd, y feddylfryd yw cyfnewid tanwydd ffosil gyda rhywbeth arall, er enghraifft cyfnewid ceir petrol gyda cheir trydan.  Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth, ond a yw hynny’n ddigon?  A yw’r dacteg o amnewid yn creu problemau newydd?  Ffordd arall o fynd i’r afael â’r broblem yw aildrefnu’r ffordd rydym yn byw ac yn rhedeg ein cymdeithas, fel bod angen llai o ynni.

Fe wnes i amlinellu’r broses Peirianneg Trawsnewid InTIME  – gweler y ffigwr uchod.  Mae’r tri gweithgaredd (sydd wedi’u huwcholeuo mewn melyn) yn nodweddiadol o ddyluniad a datrys problemau Peirianneg: maent yn adolygu sut mae problemau tebyg wedi eu datrys yn flaenorol, ystyried y gofynion cyfredol a’r cyd-destun, ac ystyried eu goblygiadau i’r dyfodol.  Yng nghyd-destun unrhyw ddarogan yn y dyfodol ynghylch newid hinsawdd, gweithio gyda’r galluoedd peirianneg cyfredol gorau, ond gan gadw ymddygiadau cymdeithasegol cyfredol, byddwn yn mynd y tu hwnt i’r “tipping points”.
Beth pe baem yn newid cymdeithas?  Ydyn ni'n gallu newid yn y fath fodd fel y gall ansawdd bywyd gael ei gynnal, ond ei fod yn cael ei gyflawni mewn ffordd wahanol?  Mae hyn yn gofyn am ailddychmygu dyfodol newydd ac atyniadol, ac yna dychmygu sut i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn cyrraedd yno (camau 4 a 5 wedi eu huwcholeuo mewn pinc).  Mae’r dychymyg yn eiddo i artistiaid, ond y nod yw cael dyfodol dymunol i bawb.  Am y rheswm hwn, y gweithgaredd yw “cyd-greu” - ffordd artistig o ddweud ymgysylltu gyda’r gymuned neu grwpiau eraill wrth greu gwaith celf.  Byddai’n rhaid i ddyfodol o’r fath weithio: mae angen iddo fod yn rhywbeth y gellir ei gyflawni yn ymarferol, ac mae angen iddo fod yn rhywle lle mae pobl yn hapus ynddo.

Mae gwneud y dyfodol dymunol hwnnw’n rhywbeth y gellir ei gyflawni, ac wedyn gyrru’r broses o gyrraedd yno unwaith eto’n dod o dan faes peirianneg.  Mae camau 6 a 7 wedi eu huwcholeuo mewn gwyrdd, i ddynodi er y gallai’r gweithgaredd gael ei arwain gan beirianwyr, y byddai angen iddo gael ei gyflawni drwy gyd-greu’n barhaus gyda’r artistiaid a’r cymunedau.

Wrth gyfleu’r meddyliau hyn, fe awgrymais y gallai’r broses InTIME gael ei chymhwyso i fywyd rhywun ei hun, megis wrth ystyried newidiadau mewn gyrfa.  O ystyried yr angen ar frys i weithredu dros newid hinsawdd, gallai fod yn amserol i ystyried newidiadau mewn ffordd o fyw wedi’u halinio gyda hyn.  Nid yw “anghytgord gwybyddol” yn gysyniad peirianneg yn union, ond wrth chwilio am hapusrwydd personol, un cam mawr yw cymodi gyda gwerthoedd personol rhywun gyda’r dewisiadau bywyd maent yn eu gwneud.

Deilliannau Dysgu
Y deilliant dysgu i mi oedd, hyd yn oed ymysg y rhai y gellid tybio y byddai ganddynt wybodaeth sylfaenol o wybodaeth ymlaen llaw, bod rhai sy’n anwybodus.  Cefais fy synnu o ddysgu bod yna rai peirianwyr nad ydyn nhw’n cydnabod bod y newidiadau (er yn fach) i grynodiad CO2 yn yr atmosffer, sy’n cael ei ddefnyddio gan weithredoedd dynol, ar drothwy dadsefydlogi cydbwysedd hinsawdd y planedau.  Rydym i gyd wedi gweld y ‘memes’ ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda’u cam-wybodaeth a’u parodrwydd i wrthod credu: Ro’n i wedi fy syfrdanu o glywed peirianwyr yn ailadrodd y rhain wrthyf i yn ystod y sesiwn Cwestiwn ac Ateb. Os yw gweithwyr proffesiynol mewn Gwyddoniaeth Technoleg, Peirianneg, a Mathemateg (STEM) yn ailadrodd y fath gam-wybodaeth fel dogma a hynny’n eang, yna does ryfedd bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r boblogaeth sy’n pleidleisio wedi drysu.
Efallai y gallaf i ddwyn cymhariaeth gyda’r cysyniad o “ragfarn” mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).  Dyw llawer sy’n mynd at hyfforddiant EDI ddim yn credu yn y dechrau bod ganddynt ragfarn: dim ond wrth archwilio goblygiadau tybiaethau neu ddisgwyliadau, y maent yn sylweddoli bod eu gweithredoedd neu ymddygiadau yn gynhenid annheg.  Er enghraifft, dewis lleoliadau ar gyfer cyfarfodydd, neu amseroedd y dydd, sy’n ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl gyfranogi nag eraill.

Yn yr un modd, dechreuais bendroni p’un a allai “rhagfarn” fodoli o fewn ymarferwyr STEM?  Un o’r marcwyr o gyflawniad proffesiynol i beiriannydd yw dal statws Peiriannydd Siartredig neu Gorfforedig.  Mae yna lwybrau tebyg ar gyfer gweithwyr proffesiynol STEM eraill.  Mae adnewyddu statws yn digwydd yn flynyddol, yn seiliedig ar yr egwyddor o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD).  Nawr, gallai ffocws y Datblygiad Proffesiynol Parhaus hwnnw fod mewn arbenigedd peiriannydd: er enghraifft, gwella neu ddiweddaru gallu rhywun mewn Peirianneg Gyda Chymorth Cyfrifiadur.  Mae’r rhagfarn yn dod o ddrysu gwybodaeth arbenigol gyda chymhwysedd proffesiynol cyffredinol.  Efallai y dylai bod cyfarwyddyd i gynnwys mwy o agweddau cymdeithasol a strwythuredig? 

Y camau nesaf?
Byddaf yn hyrwyddo adolygiad o ganllawiau a phrosesau Datblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn sefydliadau STEM.  Dyw unrhyw fath o system gred ar unigolyn ddim yn ddichonadwy, ond dylai aelodau o sefydliadau STEM gael eu hannog i sicrhau bod ganddynt y lefel gofynnol o wybodaeth a dealltwriaeth o broblemau strwythurol sylweddol.  Mae Newid Hinsawdd a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn broblemau strwythurol sylweddol, ac mae yna eraill fwy na thebyg.  Gallai’r system Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ynghyd â chymeradwyaeth wedi’i hasesu ar gyfer adnewyddu statws Siartredig, fod yn fodd o sicrhau bod hyn yn digwydd.

Nid dim ond beth rydym yn ei wybod sy’n cyfrif, ond yr hyn rydym ni’n cydnabod nad ydyn ni’n ei wybod.