O Fyfyriwr Peirianneg i Weinidog Llywodraeth: Taith Jack Sargeant AS o Brifysgol Wrecsam i’r Senedd

 

Mae gyrfa Jack Sargeant AS wedi bod yn gwbl ysbrydoledig. Fel cyn-fyfyriwr balch Prifysgol Wrecsam, fe wnaethon gael sgwrs ag ef i glywed sut wnaeth ei astudiaethau ddatblygu’r seiliau ar gyfer y gwaith mae’n ei wneud heddiw.

Astudiodd Jack Beirianneg Ddiwydiannol ym Mhrifysgol Wrecsam wrth weithio fel prentis mewn busnes gweithgynhyrchu yng Nghei Connah, gan gydbwyso profiad ymarferol yn y diwydiant ag addysg bellach. Erbyn heddiw, mae'n Weinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae ei daith yn esiampl bwerus o sut gall addysg uwch hygyrch a hyblyg drawsnewid bywydau, a sut mae Prifysgol Wrecsam yn parhau i gefnogi a siapio ei chyn-fyfyrwyr ymhell ar ôl eu hastudiaethau.

Dewis Prifysgol Wrecsam

Ymunodd Jack â Phrifysgol Wrecsam yn ystod ei brentisiaeth peirianneg, gan gwblhau’r Radd Sylfaen mewn Peirianneg Ddiwydiannol cyn mynd yn ei flaen i’r cwrs blwyddyn BEng (Anrh) Peirianneg Ddiwydiannol (Atodol) a graddio yn 2016. Gan fyw dim ond 30 munud i ffwrdd, roedd Prifysgol Wrecsam yn cynnig y cydbwysedd delfrydol rhwng gwaith, bywyd cartref ac astudiaeth lefel uwch: “Roeddwn yn falch fy mod yn gallu ennill cyflog wrth i mi ddysgu... bod yn y gwaith, bod gartref, ac yna teithio dim ond 30 munud i lawr y ffordd i Wrecsam i astudio ar y lefel honno. Gallwn i wir ei argymell i unrhyw un.”

Soniodd hefyd am gymaint sydd gan y ddinas i’w gynnig. Gyda datblygiadau newydd a thwf cynyddol, roedd Wrecsam yn teimlo fel lle a oedd yn symud yn ei flaen.

Gyrfa Peirianneg

Dechreuodd gyrfa peirianneg Jack ar lawr gwaith busnes gweithgynhyrchu, gan roi profiad ymarferol cryf iddo. Mae’n teimlo fod cyfuno hyn ag astudiaeth academaidd ym Mhrifysgol Wrecsam wedi’i helpu i fynd yn ei flaen i swyddi uwch: “Fe wnaeth gwneud y radd sylfaen fel rhan o fy mhrentisiaeth fy ngalluogi i fynd i mewn i’r swyddfeydd a chael rôl mewn peirianneg,” ychwanegodd “yna galluogodd y cwrs-BEng atodol i mi fynd ymhellach.

Golygai ymhellach gamu mewn i swydd ymchwil a datblygu mewn cwmni modurol byd-eang: “Fe wnaeth fy ngalluogi i gymryd y sgiliau i mi eu dysgu ar y llawr gwaith fel prentis, ynghyd â’r sgiliau technegol y gwnes i eu dysgu yma yn Wrecsam, â’u rhoi at ei gilydd i ddatblygu’n broffesiynol.”

Pontio o Beirianneg i fod yn Weinidog

Yn 2018, safodd Jack yn etholiad y Senedd a daeth yn Aelod Seneddol (AS) ieuengaf erioed Alyn a Glannau Dyfrdwy. Bellach, mae ganddo rôl yng Nghabinet Llywodraeth Cymru fel Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

Mae’n rôl sydd â llawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys goruchwylio cyllideb prentisiaethau werth £140 miliwn, cyd-gadeirio’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, llywio polisi cenedlaethol ynghylch sgiliau, diwylliant, treftadaeth a’r diwydiannau creadigol, a chefnogi blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol ledled Cymru.

Yr hyn sy’n gwneud ei benodiad yn arbennig o ystyrlon yw’r llwybr a gymerodd. Gyda gyrfa mewn peirianneg a chefndir fel prentis a gafodd ei ddatblygu ym Mhrifysgol Wrecsam, mae’n dod âphrofiad ymarferol i benderfyniadau sy’n effeithio dyfodol y gweithlu: Rwy’n credu mai fi yw'r Gweinidog cyntaf - yn sicr o fewn y Llywodraeth Cymru - sydd wedi bod yn brentis ei hun, i fod yn gyfrifol am brentisiaethau yng Nghymru, dywedodd ei fod yn credu’n gryf ein bod angen gweld mwy o hynny yn y dyfodol.

Dod â Meddylfryd Peiriannydd i Lywodraeth

Mae Jack yn bendant fod ei gefndir mewn peirianneg yn parhau i siapio’r ffordd y mae’n gweithio: “Mae bod yn beiriannydd bob amser yn dod gyntaf - mae bob amser yng nghefn eich meddwl; rydych chi’n dysgu sgiliau, mae datblygu parhaus yno bob amser.” Mae Peirianwyr wedi arfer datrys problemau, ac mae Jack yn cymhwyso’r un rhesymeg at lunio polisi: “Rydym yn edrych ar broblemau gyda meddwl sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn hytrach na ‘mae problem yma, ac nid ydym yn gwybod beth i’w wneud am y peth.’ Pan fyddaf yn gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth, byddaf yn cymhwyso’r technegau a’r sgiliau hynny. Rwyf bob amser yn chwilio am yr ateb, ac yna sut y gallwn ei wella ymhellach.”

Hoff Atgofion ym Mhrifysgol Wrecsam

Pan mae Jack yn hel atgofion am ei gyfnod ym Mhrifysgol Wrecsam, y gwydnwch a’r hyder y bu iddo eu datblygu sy’n sefyll allan fwyaf. Mae’n rhoi'r clod inatur ymarferol peirianneg a chefnogaeth y Brifysgol am ddatblygu ei ymagwedd tuag at heriau: Mae’r gwydnwch rydych chi’n ei ddysgu o fod yn beriannydd, ac o’ch addysg yma yn Wrecsam, yn sicr yn helpu i’ch datblygu, myfyriodd. Ar hyd y ffordd, bu iddo hefyd wneud ffrindiau da sy’n parhau i fod yn bwysig iddo hyd heddiw. Gan astudio ochr yn ochr â chyd-brentis, Mike, mae'r ddau wedi parhau i fod yn agos ers hynny: “Mae Mike yn dod i fy mhriodas yn yr haf, ac rwyf innau’n mynd i'w briodas ef ychydig wythnosau cyn hynny. Beth gewch chi’n well na hynny.”

Chwaraeodd y profiad ehangach yn Wrecsam ran sylweddol hefyd wrth fagu ei hyder. “Mae Wrecsam wir yn ddinas ar gynnydd. Mae llygaid y byd ar Wrecsam. Rydych chi’n cael eich ysbrydoli o fod yma - mae’n rhoi’r gallu i chi fynd eich blaen i fod yn fersiwn gorau ohonoch chi’ch hun.”

Roedd dychwelyd i'r campws fel gweinidog yn teimlo’n arbennig o ystyrlon, a nododd agor Canolfan Beirianneg y Brifysgol, CanfodAu gylch llawn iddo: “Mae hi’n 10 mlynedd ers i mi astudio yma, ond mae cael dod yn ôl a gweld y pethau gwych sy’n digwydd - mae’n grêt.”

Cyngor i Fyfyrwyr y Dyfodol

Mae cyngor Jack i unrhyw un sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Wrecsam yn syml ac yn frwdfrydig: “Mwynhewch. Profwch bopeth sydd ar gynnig,” meddai. “P’un a ydych yn fyfyriwr llawn-amser, rhan-amser, yn dod o gefndir diwydiant fel y fi, neu’n dod i mewn i’r peth yn hwyrach mewn bywyd - gwëwch ffrindiau oes, gwnewch eich gorau glas. Bydd yn ddewis da i chi.”

Myfyriodd hefyd ar y cynnydd a’r twf sy’n digwydd yn y brifysgol yn ogystal ag yn y ddinas ei hun: “Mae’r ddinas yn gwneud pethau da ar hyn o bryd, ac mae’r brifysgol yn rhan fawr o hynny. Mae gennych y clwb pêl-droed drws nesaf, yr holl bethau sy’n mynd ymlaen yng nghanol y ddinas, Tŷ Pawb sy’n wych ar gyfer diwylliant lleol... mae llawer i’w gynnig.”

 

Mae stori Jack yn dangos sut gall y gefnogaeth, y sgiliau, a’r cyfleoedd cywir siapio eich dyfodol, a sut gall profiad ym Mhrifysgol Wrecsam aros gyda chi ymhell ar ôl i’ch astudiaethau ddod i ben.

 

Os ydych yn barod i ddechrau ar eich taith eich hun, ystyriwch ein graddau Peirianneg a’n llwybrau astudio hyblyg yn ystod ein diwrnod agored nesaf, lle gallwch weld ein cyfleusterau, mynychu cyflwyniadau pwnc, a sgwrsio â myfyrwyr presennol ynglŷn ag astudio yma.