Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil | Tachwedd 2025


Arddangosodd y Digwyddiad Agored ar 12 Tachwedd 2025 ymchwil cyffrous ar draws meysydd gofal iechyd, iaith a Deallusrwydd Artiffisial, wedi’i gadeirio gan yr Athro Alec Shepley.
Chris Bellis - Annog Ymchwil mewn Ffisiotherapi
Cyflwynodd Chris Bellis, Darlithydd mewn Ffisiotherapi, boster yn manylu ar y prosiect ymchwil ar raddfa fach, sy’n cael ei ariannu drwy gymrodoriaeth RCBC Cymru. Y prosiect hwn oedd cam cyntaf Chris ar yr ysgol ymchwil, a’i gynnig cyntaf ar ymchwil ansoddol.
Nod yr astudiaeth oedd archwilio sut oedd ffisiotherapyddion oedd newydd raddio yn pontio i waith ymarfer. Dechreuodd Chris gydag adolygiad cwmpasu a chanfu fod prinder llenyddiaeth yn y DU, gydag un arolwg blaenorol yn unig i adeiladu arno. Roedd y prosiect yn cynnwys cyfweliadau â thri ffisiotherapydd profiadol, a rannodd eu profiadau o weithio gyda graddedigion newydd.
Themâu allweddol:
- Parodrwydd i ymarfer - pa mor barod oedd graddedigion ar gyfer gwaith yn y byd go iawn
- Pontio’r bwlch - y newid o hyfforddiant academaidd i ymarfer proffesiynol
- Croeso i'r byd go iawn - yr heriau sy’n wynebu graddedigion newydd
Cyflwynwyd y poster mewn cynhadledd ffisiotherapi yng Nghasnewydd hefyd, gan dynnu sylw at heriau recriwtio staff i’r GIG a rhannu mewnwelediadau i gefnogi ffisiotherapyddion ar ddechrau eu gyrfa.
Dmitrii Iarovoi – Tuedd Hanesyddol a Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Archwiliodd Dmitrii Iarovoi, Ymchwilydd PhD mewn Cyfrifiadura dueddiadau hanesyddol mewn AI, gan gyflwyno ei ymchwil mewn cynhadledd yng Nghasnewydd ym mis Awst. Gofynnodd i fynychwyr ddychmygu ymweld â chastell, gan ddefnyddiol ChatGPT i ateb cwestiynau hanesyddol. Pwysleisiodd gwaith Dmitrii y gallai Deallusrwydd Artiffisial rith-weld neu ddangos tuedd, gydag atebion yn aml yn anghyson a hunaniaeth ranbarthol yn dylanwadu arnynt.
Nododd Dmitrii bod gan fodelau iaith mawr (LLMs) botensial dyblyg: gallant gyfoethogi dehongliad hanesyddol ond gallant hefyd gyflwyno tuedd yn anfwriadol. Mae'r ymchwil hwn yn pwysleisio’r angen am ystyriaeth ofalus wrth ddefnyddio AI mewn cyd-destunau addysgiadol neu ddiwylliannol.
Thomas Starr-Marshall - Delweddu Uwchsain o Lafariaid Cymraeg
Rhannodd Thomas Starr-Marshall, Darlithydd mewn Therapi Iaith a Lleferydd, ei waith ar ddelweddu uwchsain llafariaid Cymraeg, a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod ym mis Awst. Gan gasglu data gan 45 o gyfranogwyr, archwiliodd Thomas chwe gair Cymraeg a oedd yn cynrychioli’r gwahaniaethau cynnil rhwng safle’r tafod ac ynganiad rhwng gogledd a de Cymru.
Gan ddefnyddio chwiliedydd uwchsain ochr yn ochr â chamera blaen, delweddodd Thomas symudiad y tafod a siâp crwn y gwefusau, manylion a astudiwyd yn acwstig yn unig yn flaenorol. Mae gan y canfyddiadau ddefnyddiau pwysig:
- Cefnogi therapi iaith a lleferydd i blant gydag anhwylderau lleferydd
- Helpu dysgwyr Cymraeg i ddeall safle’r tafod er mwyn ynganu’n gywir
Rhoddodd y Digwyddiad Agored gyfle gwych i weld ymchwil ar waith, gyda phrosiectau’n amrywio o newidiadau gofal iechyd i foeseg AI a gwyddorau ieithyddol. Mae’n gyfle gwych i gyflwyno eich gwaith i gynulleidfa gyfeillgar, galonogol.
Diolch i bawb a ddaeth ac a gyfrannodd at y trafodaethau - welwn ni chi tro nesaf!