Pontio’r Byd Academaidd ac Ymarfer: Taith fy Nghyflwyniad Poster yng Nghynhadledd BAFA yn Rhydychen
Gan Shivani Sanger Rhagfyr 2024
Yn ystod penwythnos diwethaf mis Tachwedd, cefais y pleser o gyflwyno fy ymchwil yng Nghynhadledd Cymdeithas Anthropoleg Fforensig Prydain (BAFA), a gynhaliwyd yng Ngholeg Wolfson, Rhydychen. Thema cynhadledd eleni oedd “Pontio’r Bwlch Rhwng y Byd Academaidd ac Ymarfer,” a danlinellodd yr angen am ymdrechion cydweithredol i ddatblygu anthropoleg fforensig.
Fy Nghyflwyniad Poster: Pontio Bylchau Ymchwil
Cyflwynais fy mhoster â’r teitl “Amcangyfrif Rhywedd o’r Rhanbarth Orbital-Trwynol ym Mhoblogaeth Cypriaidd Groegaidd”, wedi ei gyd-ysgrifennu gyda Dr. Erica Baer, Yvonne Fyriou, a fy ngoruchwyliwr Dr. Xenia-Paula Kyriakou. Mae’r astudiaeth hon yn ymdrin â bwlch pwysig drwy ddatblygu modelau creuanol atchweliad i wella safonau amcangyfrif rhywedd wedi’u teilwra i’r boblogaeth Cypriaidd Groegaidd. Defnyddiodd yr ymchwil ddata metrig a morffolegol o Gasgliadau Cyfeirio Ymchwil Cyprus, yn pwysleisio pwysigrwydd ymarferion fforensig lleoledig mewn adeiladu proffiliau biolegol cywir.
Teimlaf fod yr adborth a dderbyniais wedi bod yn hynod o adeiladol. Roedd gan nifer o fynychwyr ddiddordeb brwd yn y cymwysiadau posibl o fy narganfyddiadau mewn cyd-destunau Canoldirol eraill. Gwnaeth sgyrsiau ynghylch swyddogaethau nodweddion ysgerbydol penodol, fel y rhanbarthau orbital a thrwynol sbarduno safbwyntiau newydd ar gyfer rhan nesaf fy ymchwil.
Prif Uchafbwyntiau: Ysbrydoliaeth gan Arbenigwyr Byd-eang
Roedd nifer o siaradwyr rhagorol yn cymryd rhan yn y gynhadledd, gan gyfoethogi’r digwyddiad gyda’u gwaith arloesol:
- Cyflwynodd Dr. Anicée Van Engeland sgwrs graff ar “Gyfraith Dyngarol Ryngwladol a Gwyddoniaeth Fforensig”. Mae ei gwaith yn pontio’r gyfraith, hawliau dynol, a gwyddoniaeth fforensig gan amlygu swyddogaeth bwysig anthropolegwyr fforensig mewn cyd-destunau dyngarol, o ymchwiliadau beddi crynswth i fframweithiau cyfreithiol sy’n cynnal urddas y dioddefwyr.
- Cyflwynodd Dr. Jose Luis Silván Cárdenas and Miguel Moctezuma “Dadansoddi Natur i Leoli’r Diflaniad: Dylanwadu Ymarferion Ymchwil yn Jalisco, Mecsico.” Llwyddodd y cyflwyniad hwn i fynd i’r afael â sut mae systemau gwybodaeth daearyddol (GIS) a thechnegau ymchwil arloesol yn chwyldroi lleoli beddi dirgel ym Mecsico. Gwnaeth eu cyfuniad o dechnoleg gyda thystiolaethau cymunedol unieithu’n gryf â fy niddordebau innau mewn fforensig anthropoleg ddyngarol.
Rhwydweithio a Thwf Proffesiynol
Darparodd y gynhadledd gyfle gwahanol i gysylltu â chyfoedion a gweithwyr proffesiynol sy’n rhannu’r angerdd am ddatblygu anthropoleg fforensig. Yn benodol, gwerthfawrogais y Drafodaeth Bord Gron gydag aelodau o Bwyllgor Llywio BAFA, cyfeiriwyd at yr heriau ymarferol o bontio ymchwil academaidd gyda gwaith achos a chymwysiadau dyngarol.
Fel hyrwyddwr o amrywiaeth, mwynheais y drafodaeth am sut mae BAFTA wedi bod yn gwneud cysylltiadau rhyngwladol gyda sefydliadau anthropoleg fforensig eraill a phwysigrwydd cynhwysiant mewn ymchwil ac ymarfer fforensig, yn atsain y themâu sy’n ganolog i fy ngwaith ym Mhwyllgor Amrywiaeth Academi Fforensig Anthropoleg Americanaidd (AAFS). Teimlad calonogol oedd gweld cefnogaeth gynyddol ar gyfer ymgorffori safbwyntiau amrywiol mewn lleoedd academaidd a phroffesiynol.
Myfyrdodau a Diolchiadau
Roedd mynychu a chyflwyno yng Nghynhadledd BAFA yn brofiad boddhaus dros ben. Llwyddodd i atgyfnerthu pwysigrwydd fy ymchwil a’i allu i gael effaith ystyrlon ar anthropoleg fforensig. Rwy’n ddiolchgar i fy nghyd-ysgrifenwyr a chydweithredwyr am eu cefnogaeth werthfawr, ac i bwyllgor trefnu BAFA am drefnu digwyddiad cynhwysol a ysgogodd y meddwl.
Nid yn unig gwnaeth y gynhadledd hon ddarparu llwyfan i mi rannu fy ngwaith, ond hefyd fy ysbrydoli gyda syniadau a chydweithrediadau newydd i’w hystyried. Wrth i mi barhau â fy siwrne PhD, rwy’n teimlo’n gyffrous cael cyfrannu ymhellach drwy bontio’r bylchau rhwng y byd academaidd, ymarfer ac ymdrechion dyngarol.