Prifysgolion Gogledd Cymru

Cynhaliodd Brifysgolion Gogledd Cymru gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Brifysgolion Wrecsam, Bangor ac Aberystwyth ddydd Gwener 29 Medi. Cafodd y cyfarfod ei gynnal gan Brifysgol Bangor, ac roedd yn gyfle i adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, a Grŵp Ymchwil CoMManDO Prifysgol Wrecsam arddangos gwaith a nodi meysydd ar gyfer cydweithredu.

Nod y diwrnod oedd atgyfnerthu cysylltiadau rhwng tair Prifysgol Gogledd Cymru o fewn disgyblaethau ffiseg, peirianneg, gwyddoniaeth ddeunyddiau a chyfrifiadura, er mwyn cynhyrchu mwy o fàs critigol a gwaith tîm ar draws y Prifysgolion. 

Ar y diwrnod, arweiniodd yr Athro Alison McMillan a'r Athro Richard Day gyflwyniadau gan Brifysgol Wrecsam a oedd yn arddangos arbenigedd a phrosiectau ymchwil parhaus ein hymchwilwyr a’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Roedd hefyd sesiwn boster bwrpasol, lle rhoddodd Dr Karen Heald gyflwyniad ar bwnc rhyngddisgyblaethol cysylltiadau rhwng technoleg ac amser.

Wrth symud ymlaen, bydd cyfarfodydd Teams rheolaidd a chyfarfod mwy yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chydweithrediadau â diwydiant yn cael eu gwahodd. Roedd sawl llwybr posibl lle’r oedd modd cynnal cydweithrediadau ystyrlon, yn enwedig gyda gwaith modelu, archwilio gofod ac ymchwil deunyddiau Aberystwyth. 

Dywedodd yr Athro Alison McMillan, arweinydd CoMManDO ac Athro yn y maes Technoleg Awyrofod,

“Roedd cyflwyniadau Bangor ac Aberystwyth yn hynod ddiddorol. Gadewais yn llawn syniadau ar gyfer fy ngwaith modelu cyfrifiadurol.”

Dywedodd yr Athro Richard Day, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil ac Athro Peirianneg,

“Roedd y digwyddiadau hyn mor ddiddorol ac adeiladol, gydag ymdeimlad cryf o fod eisiau cydweithio fel prifysgolion tuag at nodau cyffredin mewn perthynas â dyfodol niwclear, yn ogystal ag yn ehangach.”