Profiadau rheini a gofalwyr o gael gafael ar Wasanaethau yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant ag anableddau dysgu

Children crafting

Chwefror 2023 

Unwaith eto, mae Dr Dawn Jones wedi llwyddo i gael cyllid gan Gwelliant Cymru i fwrw ymlaen â’i phrosiect ymchwil sy’n ymwneud ag adolygu modelau gofal cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Y llynedd, cafodd Dawn £14,000 ar gyfer mynd i’r afael â gwaith gwerthuso. Gallwch ddarllen yr adroddiad llwyddiannus yma. 

Y tro hwn, mae Dawn wedi cael £10,000 o arian ychwanegol ar gyfer cynnal gwaith ymchwil gwreiddiol sy’n seiliedig ar ganfyddiadau’r adolygiad, a ddangosodd fod llawer o rieni a gofalwyr plant ag anableddau dysgu yn teimlo’n ddi-rym. Mae casgliadau’r prosiect yn awgrymu bod angen mynd i’r afael â rhagor o waith i ymchwilio i’r modd y mae’r grŵp hwn o bobl yn gwneud synnwyr o’r fframweithiau a’r modelau gofal cenedlaethol a roddir ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru. Felly, bydd Dawn yn archwilio’r modd y caiff darpariaethau gofal eu profi a’u darparu o safbwynt rhieni a gofalwyr.  

Bydd Dawn yn cynnal dau grŵp ffocws ar-lein, lle ceir cyfle i ddatblygu themâu dan arweiniad y cyfranogwyr; bydd hyn yn sicrhau y bydd y cyfranogwyr yn teimlo perchnogaeth dros y trafodaethau. Mae gwaith ymchwil cyfredol yn y maes hwn yn tueddu i gynnwys data ystadegol sy’n mesur ‘perfformiad’ ymddangosiadol modelau a fframweithiau, ond nid yw’n cynnwys dyfnder y gellir esgor arno trwy fynd ati i siarad â phobl, cofnodi eu profiadau a gwrando arnynt yn astud. 

Mae Gwelliant Cymru, sef gwasanaeth gwella Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn awyddus i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at ganfyddiadau Dawn. Yna, bydd modd llywio’r Weledigaeth Genedlaethol ar gyfer Anableddau Dysgu yng Nghymru a’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anableddau Dysgu, yn ogystal â chynghori amryfal Gymunedau Ymarfer ledled Cymru. 

Edrychwn ymlaen at ddilyn cynnydd Dawn wrth i’r gwaith ymchwil ddatblygu. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at dawn.jones@wrexham.ac.uk.