Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol Seminar #4 Alex Drury
O Ymarferydd i Ymchwilydd – Persbectif ar Waith Ieuenctid
Ym mis Mawrth, rhoes Alex Drury, Cynorthwyydd Ymchwil a drodd yn Weithiwr Ieuenctid, gyflwyniad yn Seminar Ymchwil Cyfiawnder hybrid olaf y flwyddyn academaidd hon.
Dechreuodd Alex y sgwrs drwy siarad am ei chefndir yn y maes Gwaith Ieuenctid lle bu'n gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau fel allgymorth, tai â chymorth, meysydd chwarae antur, clybiau ieuenctid a datblygu cymunedol. Mae Alex yn tueddu i gymryd yr ymagwedd y dylai cymorth fod ar ffurf mynediad agored, y dylai gynnwys y gymuned, dechrau gydag ystyriaeth gadarnhaol ddiamod i'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, a chynnwys oedolion yn y broses gyfan.
Roedd gan Alex gyfoeth o brofiad mewn Gwaith Ieuenctid cyn dod i Brifysgol Wrecsam. Siaradodd Alex am rai profiadau anodd, ond hefyd rhai achlysuron gwych lle arweiniodd sbarc bach at ganlyniadau gwych y gellid eu cyflawni gyda llawer o egni a gwaith caled.
"Pan mae'n gweithio, mae fel hud!"
Mae Gwaith Ieuenctid yn ymwneud â pherthnasoedd; perthnasoedd â phobl ifanc, perthnasoedd â'r gymuned, a'r berthynas rhwng y ddau grŵp hynny. Mae'n cymryd amser i adeiladu ymddiriedaeth ac annog y bobl ifanc a'r gymuned i gredu ynddynt eu hunain.
Yna, aeth Alex ymlaen i sôn am rywfaint o waith diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i adolygu’r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Gallai ymchwil gael effaith, ond ymddengys nad oedd y llenyddiaeth a ddarllenodd Alex yn cysylltu â'r effaith a'r byd go iawn. Fodd bynnag, roedd Alex yn malio am y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru, gan wybod bod ganddo'r potensial i ddatrys llawer o broblemau mewn sector lle gall cyllid fod yn ansicr iawn.
Mae gan y prosiect cydweithredol, amlddisgyblaethol rhwng Prifysgolion Wrecsam, y Drindod Dewi Sant, a Met Caerdydd dri cham sy'n cynnwys astudiaeth ddichonoldeb (a gyhoeddwyd ar-lein), adolygiad llawn, a dadansoddiad o gost a budd. Mae aelodau eraill ar y tîm o Wrecsam yn cynnwys yr Athro Mandy Robbins o’r Adran Seicoleg a Dr Rob Leigh o’r Adran Fusnes. Mae'r astudiaeth hon yn arloesol gan nad oes data ystadegol yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer y sector gwirfoddol.
Mae rhai agweddau o'r astudiaeth yn heriol, er enghraifft, yng Ngham 1, roedd cyfradd yr ymateb i'r holiadur yn isel. Fodd bynnag, mae profiad Alex yn y sector yn hollbwysig oherwydd daw â gwybodaeth o’r byd go iawn am sut mae'r sector yn gweithio, er enghraifft mae'r tîm wedi penderfynu ar enw symlach i'r grwpiau ffocws, sef 'digwyddiadau sioe deithiol'.
Daeth Alex â’r cyflwyniad i ben gyda rhai myfyrdodau ar y prosiect a chydweithio gyda'r tîm sydd â chefndiroedd a phrofiadau gwahanol. Dywedodd Alex, fel ymarferydd, ei bod yn hawdd iddi gael barn gref ar y pwnc, a bod y farn honno’n cael ei chydbwyso gan aelodau eraill o'r tîm. Mae casglu safbwyntiau gan wahanol bobl wedi rhoi llais i'r mater. Yn bwysicach, mae Alex yn deall y gofynion cystadleuol, trwm sy'n tynnu ar academyddion eraill ac mae’n ostyngedig ynghylch y cyfle i allu gweithio ar yr ymchwil hwn fel ymchwilydd llawn amser.
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y prosiect, anfonwch e-bost at alex.drury@wrexham.ac.uk.
Content Accordions
-
Seminarau yn y gorffennol
“Played like a deck of cards” – Dadansoddi disgwrs mewn adroddiadau Gweithwyr Ieuenctid ynglŷn â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Chwefror 2024
Ar gyfer ein trydedd Seminar Ymchwil Cyfiawnder, cyflwynodd Hayley Douglas, Uwch-ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, eu gwaith ymchwil PhD yn ymwneud ag adroddiadau gweithwyr ieuenctid ynglŷn â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma. Dyma achlysur hynod bwysig i Hayley, oherwydd nid oedd wedi rhannu eu canfyddiadau o’r blaen!
Dechreuodd Hayley y sesiwn trwy ateb y cwestiwn: beth yw gwaith ieuenctid? Ond nid oedd ateb syml i’w gael i’r cwestiwn syml hwn. Mae gwaith ieuenctid yn broffesiwn sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc ac mae’n defnyddio ymarfer gwrthormesol. Ond yn aml, nid yw pobl yn siŵr beth yw natur y rôl. Caiff y proffesiwn ei seilio ar egwyddorion hollbwysig fel ymgysylltu gwirfoddol, pobl ifanc yn gwneud dewisiadau cytbwys ynglŷn â’u bywydau, a phwysigrwydd dysgu gydag eraill a dysgu trwy brofiad. Yn gyffredinol, mae gwaith ieuenctid yn tueddu i ysgogi newid cymdeithasol a strwythurol ar lefel ehangach. Dylai ‘derbyn’ fod yn rhan hollbwysig o waith ieuenctid, a dylai gweithwyr ieuenctid gydnabod asedau pobl ifanc.
Dangoswyd i’r gynulleidfa amrywiaeth o fodelau gwaith ieuenctid a gaiff eu siapio gan gyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae’r rhan fwyaf o fyd y Gorllewin yn defnyddio syniadau mwy cadarnhaol, sy’n golygu bod pethau’n cael eu mesur mewn niferoedd (e.e. mae gan 29% o drigolion y DU gi anwes), a phan feddyliwn am broblemau a allai ddod i ran pobl, awn ati’n syth i ‘drin’ y problemau hynny. Weithiau, mae gwybod bod rhywun â phŵer yn eich trin yn gallu peri ichi deimlo’n ddi-rym, felly mae gwaith ieuenctid yn anelu at droi’r model hwn â’i ben i waered, gan ‘rymuso’ yn hytrach na ‘thrin’.
Cysylltwyd yr esboniad hwn â gwaith helaeth yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, a ddechreuodd yn y 90au. Daeth y gwaith cychwynnol hwn o hyd i gysylltiadau rhwng profiadau negyddol yn ystod plentyndod (fel cam-drin ac esgeulustod) ac iechyd gwael a chlefyd ymhlith oedolion. Astudiaeth epidemiolegol oedd hi, a oedd yn canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd, a rhoddodd gipolwg inni ar gysylltiad cydberthynol – hynny yw, ni chwiliodd yr ymchwilwyr am gysylltiad achosol. Er enghraifft, ceir gwaith ymchwil sy’n dangos cysylltiad cydberthynol cryf rhwng marwolaeth yn sgil cynfasau gwely clymog a bwyta caws. Daethpwyd o hyd i gysylltiad, ond go brin bod gan y naill unrhyw beth i’w wneud â’r llall – cyd-ddigwyddiad pur ydyw.
Yna, cyflwynodd Hayley safbwyntiau beirniadol ar fesur Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod gyda chyfres fechan o gwestiynau a ddefnyddir weithiau i ragfynegi a ddaw canlyniadau gwaeth mewn bywyd i ran person ifanc ar ôl iddo dyfu i fyny. Ni fwriadwyd i’r gwaith ymchwil gwreiddiol gael ei gymhwyso at unigolion – gwaith ymchwil yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ydoedd, a oedd yn edrych ar ddata ar lefel y boblogaeth.
Wedyn, esboniodd Hayley fethodoleg yn ymwneud â dadansoddi disgwrs ac iaith. Y modd y gall iaith adeiladu’r byd. Y rheolau anysgrifenedig sy’n perthyn i iaith. Y modd y mae iaith yn ddibynnol ar y cyd-destun er mwyn dehongli ystyr. Dywedodd Hayley fod dadansoddi disgwrs yn troi’r cyfarwydd yn ‘ddieithr’, ac y dylai dadansoddi disgwrs fod yn wleidyddol bob amser.
Cynhaliodd Hayley gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda gweithwyr ieuenctid ynglŷn â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma, ac yna cynhaliodd ddadansoddiad disgwrs ar drawsgrifiadau’r cyfweliadau. Er bod y gweithwyr ieuenctid wedi dweud eu bod o’r farn fod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn ddi-fudd ac nad ydynt yn cynnig effeithiau gwirioneddol i bobl ifanc yn y presennol, pan ddefnyddiwyd dadansoddi disgwrs cafwyd darlun gwahanol. Yn hytrach nag edrych ar beth a ddywedwyd ac ystyried sut y câi’r iaith ei defnyddio, dangoswyd bod Gweithwyr Ieuenctid yn defnyddio iaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (iaith feddygol, sy’n unigolyddu materion yn ymwneud â thlodi) i greu eu hunaniaeth broffesiynol ac esbonio beth yw gwaith ieuenctid i eraill.
Gan ddangos un enghraifft o gyfweliad a gynhaliwyd gydag un gweithiwr ieuenctid, tynnodd Hayley sylw at y geiriau gwahanol yn y darn a oedd yn adlewyrchu gwahanol ystyron, neu ddisgyrsiau. Er enghraifft, mae’r gair ‘helpu’ yn awgrymu bod y gweithiwr ieuenctid yn ei roi ei hun mewn rôl wasanaethu, gan dybio bod pobl ifanc angen gwelliannau. Mae hyn yn groes i werthoedd gwreiddiol gwaith ieuenctid.
Daeth Hayley â’r seminar i ben trwy grynhoi’r modd y mae gweithwyr ieuenctid mewn sefyllfa anffodus yn yr ystyr eu bod yn gorfod mynd yn groes i’w delfrydau a ‘rhoi tic mewn blychau’ er mwyn sicrhau cyllid i barhau â’u gwaith rhagorol. Dywedwyd y gallai hyn arwain at gryfhau’r anghydraddoldeb y dymuna gweithwyr ieuenctid ei herio.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor neu weithio gyda Hayley, anfonwch e-bost at Hayley.douglas@wrexham.ac.uk.
Adolygiad llenyddiaeth a gwerthusiad o fodelau a fframweithiau gofal cenedlaethol sy’n darparu gofal i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yng Nghymru
Ionawr 2024
Yr ail Gyfiawnder: Cyflwynwyd seminar y Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol gan Dr Dawn Jones ym mis Ionawr. Rhoddodd Dawn drosolwg hynod ddiddorol o statws y llenyddiaeth iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch modelau a fframweithiau gofal ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu.
Cefndir
Ariannwyd Dawn gan Gwelliant Cymru i gynnal y dadansoddiad data eilaidd hwn gan edrych ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a’u gwerthuso. Roedd adolygiad cwmpasu blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod problemau gyda gweithredu modelau gofal, gyda diffyg cydbwysedd rhwng yr hyn a oedd i fod i gael ei ddarparu a’r hyn a oedd yn cael ei ddarparu i deuluoedd.
Canfuwyd bod rhai pocedi o ragoriaeth ledled Cymru, lle rhoddwyd yr arferion gorau ar waith a lle’r oedd teuluoedd yn derbyn gofal a gwasanaethau da, ond roedd tystiolaeth hefyd o arferion gwael. Mae polisïau presennol yn rhagnodi integreiddio o wahanol wasanaethau yn y sectorau iechyd a gofal i ddarparu gwasanaeth di-dor a chyfannol i deuluoedd, sydd wedi’i ymgorffori mewn egwyddorion cyd-gynhyrchu. Fodd bynnag, roedd gofal yn aml yn dameidiog i lawer o deuluoedd, neu roedd diffyg modelau gofal i ddechrau.
Dull
Tasg Dawn oedd ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth i ddarparu sylfaen dystiolaeth drylwyr i adeiladu arni gydag ymchwil sylfaenol yn y dyfodol. Y gwahaniaeth gyda’r adolygiad hwn oedd bod Dawn wedi mabwysiadu fframwaith realydd beirniadol, sy’n golygu bod Dawn, yn hytrach na darparu ystadegau a chanrannau, wedi ymdrwytho yn y llenyddiaeth, gan ei dehongli a’i gwerthuso yn hytrach na dim ond crynhoi yn unig. Archwiliodd Dawn beth oedd yn mynd yn iawn neu’n anghywir yn y sector, gan nodi unrhyw strategaethau a oedd yn canolbwyntio ar atebion a oedd yn gweithio, ond hefyd edrych ar y llenyddiaeth lwyd a’r dystiolaeth a’r hanesion ar lawr gwlad ar ffurf ffilmiau a blogiau.
Canfyddiadau
Dylunio a Darparu Modelau Gwasanaethau Integredig
- Roedd gan yr holl wasanaethau ymrwymiad eang i fframweithiau integreiddiol, sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Mae problemau gyda gweithredu
- Collir y weledigaeth yn rhywle ar hyd y ffordd
- Nid yw’r ddwy asiantaeth yn mynychu cyfarfodydd aml-asiantaeth ac weithiau ceir gelyniaeth rhwng y rhai sy’n bresennol, sy’n gallu arwain at oedi mewn gofal a dryswch ynghylch penderfyniadau ariannol
- Mae cael gweithiwr proffesiynol hygyrch penodol sy’n gallu cydlynu ar gyfer teuluoedd ac sydd â gwybodaeth ar draws sectorau yn ddefnyddiol
- Mewn rhai awdurdodau lleol, mae gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ffyrdd gwahanol o weithio, er enghraifft; gallai’r oedran y byddai plentyn neu berson ifanc yn trosglwyddo i wasanaethau oedolion fod yn 16 mewn un sir, ond yn 25 mewn sir arall.
- Gall sectorau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd weithio yn ôl gwahanol oedrannau o drosglwyddo i wasanaethau oedolion, gan arwain at ddarpariaeth gwasanaeth a all fod yn gymhleth i’w rheoli ar gyfer teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
Sylfaen Sgiliau a Gwybodaeth ledled Timau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Mae gan sectorau feddylfryd gwahanol am anghenion ledled iechyd a gofal cymdeithasol, e.e. dehonglir addasiadau rhesymol fel hygyrchedd i’r amgylchedd ffisegol gan weithwyr iechyd proffesiynol, ond maent yn adlewyrchu anghenion cymdeithasol dyfnach gan sectorau gofal cymdeithasol
- Yn aml, mae yna amharodrwydd i fod yn agored a thrafod gwahanol ganfyddiadau neu fodelau
- Mae gweithwyr allweddol a enwir yn ffactor allweddol i hwyluso canlyniadau da
Ymgysylltiad Dilys gyda Chydgynhyrchu
- Cael gwybod yn gyson beth yw anghenion parhaus yr unigolion
- Mae diffyg ymgysylltu ystyrlon
- Dylai cydgynhyrchu fod yn ddigwyddiadau rheolaidd yn hytrach na digwyddiadau untro
- Mae angen mecanweithiau mwy hygyrch i gefnogi’r gwaith o gyfleu anghenion yn barhaus, e.e. mae’r rheini sydd ag anghenion mwy cymhleth yn cael eu hanwybyddu a’u heithrio.
Casglu Data
- Mae’r gwaith o gasglu data yn dameidiog
- Anghysondeb rhwng sut mae sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn diffinio anabledd dysgu a sut maent yn mesur anableddau dysgu; mae gwahanol sectorau yn mesur gwahanol gysyniadau heb unrhyw gydlyniad
- Mae’r rhai sydd ag anableddau dysgu yn dweud y dylid casglu data’n fwy rheolaidd yn hytrach na thaflen adborth ar ôl mynychu digwyddiad untro
Crynodeb
Gorffennodd Dawn drwy ddweud bod pawb sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol eisiau i bethau weithio i’r teuluoedd a’r plant ag anableddau dysgu, a’u bod am i ofalwyr a theuluoedd fod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gofal a phenderfyniadau; mae’r weledigaeth yn cael ei rhannu, ond mae safbwyntiau gwahanol ar y ffordd orau o gyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
Y neges yw y dylai pob gwasanaeth fod yn ystyried ‘hawliau ac nid gwasanaethau,’ gan ganolbwyntio ar yr unigolyn o’r cychwyn cyntaf a chynnal y persbectif hwn. Awgrymwyd hefyd y gallai rhieni a gofalwyr hyfforddi’r gweithwyr proffesiynol a chynnig eu safbwyntiau gwerthfawr.
Nesaf, mae Dawn yn gobeithio siarad â theuluoedd a phlant i gasglu barn a safbwyntiau a sut brofiad yw gwasanaethau iechyd a gofal iddyn nhw. Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil, cysylltwch â dawn.jones@wrexham.ac.uk.
"Empowered Compassionate Practice"
Ym mis Tachwedd, rhoddodd Dr Sharon Wheeler gipolwg hynod ddiddorol i ni ar fyd tosturi. Teitl Sharon oedd “Empowered Compassionate Practice” a chadeiriwyd y sesiwn gan Dr Caroline Hughes, a gyflwynodd Sharon ac a gymerodd gwestiynau ar y diwedd.
Agorodd Sharon gyda thri chwestiwn pwysig o stori fer gan Leo Tolstoy:
- Pryd mae'r amser pwysicaf?
- Pwy yw'r unigolyn pwysicaf?
- Beth yw'r peth pwysicaf y dylem fod yn ei wneud?
Dyfalodd y gynulleidfa ddau o’r tri yn gywir, a'r atebion oedd yr amser pwysicaf yw nawr, yr unigolyn pwysicaf yw'r sawl rydych chi gyda, a'r peth pwysicaf i'w wneud yw gofalu.
Cyflwynodd Sharon ymchwil ar les yn y gweithle yn y sector iechyd a gofal, gan ddangos ystadegau amlwg bod dros 46% o ymatebwyr yn teimlo’n sâl o ganlyniad i straen gwaith. Mae staff, yn enwedig yn y GIG, yn aml yn gweld trawma eithafol ac yn aml mae’r gwaith emosiynol sydd ei angen yn cael ei gymryd yn ganiataol. Tair dadl berswadiol i fuddsoddi mewn iechyd a lles yw ar gyfer dyletswydd foesol, ar gyfer recriwtio a chadw, a hefyd elw ariannol.
Felly beth yw tosturi? Mae tosturi yn ymwybyddiaeth o ddioddefaint eich hun ac eraill, ynghyd ag awydd i'w leddfu.
Mae Sharon yn mynd ymlaen i siarad am flinder tosturi o fewn gofal tosturiol a sut mae tystiolaeth glinigol neu astudiaethau achos cyfyngedig yn disgrifio sut mae hyd yn oed yn cael ei weithredu. Ymddengys hefyd fod bwlch rhwng tosturi gwybyddol ac ymddygiad tosturiol, lle mae dealltwriaeth o dosturi yn bodoli ond nad yw'n cael ei roi ar waith.
Roedd Sharon yn gwahaniaethu’n glir rhwng tosturi ac empathi, gan awgrymu bod empathi yn arwain at ofid gydag un yn teimlo empathi at un arall, tra bod tosturi yn gallu goresgyn hyn yn negyddol trwy fframio sefyllfaoedd yn gadarnhaol.
Nesaf, mae Sharon yn amlinellu eu prosiect ymchwil eu hunain o gynnal 20 o gyfweliadau â rhagnodwyr cymdeithasol, sy’n aml yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio y tu allan i’r GIG. O’r canlyniadau, creodd Sharon fodel rhesymeg fanwl, sy’n caniatáu i’r darllenydd ddeall y gwahaniaethau rhwng empathi a thosturi, yn ogystal â hunan-dosturi.
Ni allwn aros i'r model rhesymeg llawn gael ei gyhoeddi fel erthygl academaidd sy'n sicr o greu newid dylanwadol.
Diolch i chi, Sharon, am ddechrau gwych i’r Gyfres o Seminarau Ymchwil Cyfiawnder. Nesaf, mae gennym Dr Dawn Jones a fydd yn amlinellu ei gwaith o werthuso modelau a fframweithiau gofal cenedlaethol ar gyfer darparu gofal i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yng Nghymru ar 9 Ionawr, 2024.