Hyrwyddo Gofal a Rhoi Gofal mewn Gosodiadau Perfformiad Trochol Byw

Hydref 2025 gan Jayne Rowe
Mae cyhoeddiad y mis hwn (CYMH) ychydig yn wahanol i rifynnau diweddar ar ddau gyfrif: yn gyntaf, mae mwyafrif y cyhoeddiadau dan sylw yn erthyglau ysgrifenedig yn gyffredinol, fodd bynnag traethawd fideo yw cyhoeddiad y mis hwn. Yn ail, rydym yn dueddol o ysgrifennu blogiau CYMH o safbwynt gwrthrychol, gan drafod agweddau ffeithiol o’r cyhoeddiadau, ond rwy’n teimlo bod galw arnaf i gynnwys peth barn a phrofiad personol yn y rhifyn hwn ac fe egluraf pam.
Y testun pwnc ehangach
Cyhoeddwyd traethawd fideo Dr Grace Thomas, Uwch Gymrawd Ymchwil mewn Ymgysylltu Celfyddydol “Hyrwyddo Gofal a Rhoi Gofal mewn Gosodiadau Perfformio Trochol Byw” yn y Theatre Journal yn gynharach eleni. Yn y fideo, mae Grace yn siarad am osodiadau perfformiad trochol sy’n hyrwyddo’r cysyniad o ofal, gan roi llwyfan i’r rhai sydd angen gofal ac yn rhoi gofal, yn ogystal ag annog y gynulleidfa i deimlo eu bod wedi ymgysylltu’n emosiynol, gyda’r cyfan yn cael ei drafod drwy lens gosodiadau perfformiad trochol yn 2018 o dan y teitl “ac rydym yn ifanc unwaith eto....” sy’n canolbwyntio ar ddementia a’r effaith ar y rhai sy’n byw ag o.
Cysylltiadau’r theatr a gofal
Cyffyrddir yn fyr â hanes y gair ‘gofal’ a’i ystyr gymdeithasol a seicolegol drwy’r blynyddoedd a tharodd y dyfyniad y mae Grace yn cyfeirio ato gan y seicolegydd Dynol Rolo May "Pan nad ydym yn goflau, rydyn ni’n colli ein bodolaeth; a gofal yw’r ffordd yn ôl i fodolaeth” dant gyda mi, gan fod gofalu a dangos gofal i eraill yn bwysig iawn i’m synnwyr o fodolaeth. Yna archwilir y syniad o ofalwyr ochr yn ochr â’r heriau o amgylch diffinio gofal anffurfiol sy’n seiliedig ar y teulu, pwynt y gwnes i uniaethu ag o, a rôl bod yn rhoddwr gofal i fy nain am nifero flynyddoedd wrth iddo fynd drwy’i thaith a’i brwydrau o fyw gyda dementia.
Dyfyniad arall a’m trawodd oedd “mae’r syniad o gael ‘eich cludo’n emosiynol’ yn digwydd yn rheolaidd ym mhrofiad mynychwyr y theatr a pherfformwyr” (Hanson 2016) , wrth i mi, fel sawl un arall, gael pleser a boddhad o’r celfyddydau o ganlyniad i’r daith emosiynol gall cynhyrchwyr fynd â chi arni. Rwy’n aml yn ymgolli mewn perfformiad, gan fwynhau’r dianc a chroesawu ‘teimlo’r holl deimladau’, mae’n rhoi imi’r synnwyr o fod yn fyw a cyn fy annog i ystyried pethau o safbwyntiau gwahanol, sy’n bwerus iawn os ydych chi’n meddwl amdano. Mae Grace yn cysylltu’r niwro-wyddoniaeth y tu ôl i’r fath brofiadau a sut y gellir defnyddio’r theatr wedyn fel “cerbyd i hyrwyddo gofal i gynulleidfa”.
Cynhyrchiad trochol
Disgrifir y cynhyrchiad a’r trefniant (tri actor a dwy ardal berfformio) “ac rydym yn ifanc unwaith eto...” yn wych gan Grace, gan amlygu’r technegau trochol o recordio sain cyfweliadau air am air gyda gweithiwyr gofal a chleifion dementia o gartref gofal, a pherfformiadau byw o adrannau i King Lear, Shakespeare, gwyliwch y fideo i weld sut y gwnaeth cynulleidfaoedd ryngweithio gyda choridor, cwpwrdd storio ac ardal berfformio draddodiadol, gyda phob elfen wedi’i hystyried a’i defnyddio.
Manylwyd hefyd ar ystyr farddonol y tu ôl i deitl y cynhyrchiad a’r cyd-destun economaidd-gymdeithasol ehangach y cynhelir y cynhyrchiad ynddo, o ran blynyddoedd o gyni ledled y DU sydd wedi effeithio ar y sector gofal a chynyrchiadau theatr a’r hyn y mae hynny’n ei olygu i gynulleidfaoedd.
Y daith
Yna cawn ein tywys ar daith ddisgrifiadol o’r hyn a brofodd y gynulleidfa:
- Y rhyngweithio cyntaf oedd sain-lun o gyfweliadau â chleifion dementia a sut y cafodd yr atgofion hiraethus a’r straeon am fyw gyda dementia eu hystumio a’u datgysylltu i adlewyrchu’r frwydr sydd gan gleifion dementia gyda meddwl gwybyddol a chof. Roedd hyn yn gymhellol iawn i mi, ar ôl gweld rhywun annwyl i mi’n cael trafferth gyda cholli cof, dryswch a heriau sy’n dod gyda hynny, dros nifer o flynyddoedd. Am ffordd wych o gynrychioli’r profiadau hynny a chysylltu â’r gynulleidfa.
- Nesaf roedd rhannau o King Lear gan Shakespeare a berfformiwyd yn barhaus gan actorion mewn cwpwrdd storio 2m2 heb wagio’r annibendod! Roed dy ffordd roedd y gynulleidfa’n cael ei hannog i ryngweithio gyda’r perfformiad yn ddychmygus ac effeithiol. Mae Grace yn siarad am y ‘synnwyr o’r annisgwyl’ yn cael ei ddefnyddio i adlewyrchu’r ansicrwydd sy’n wynebu cleifion dementia a’u teuluoedd, natur anrhagweladwy dementia, yr ymdeimlad cynyddol o unigedd wrth i daith y claf symud ymlaen a pam y gwahoddir cynulleidfaoedd i ofalu am hyn wrth ailosod cyd-destun stori Lear a Cordelia i’r gynulleidfa fodern. Doeddwn i fyth yn siŵr pa mor glir fyddai fy nain pan fyddwn yn ymweld â hi yng nghyfnodau diweddarach dementia, byth yn siŵr pa gyflwr emosiynol y gallai fod ynddo a byth yn siŵr a fyddai hi eisiau cwmni y diwrnod hwnnw (byddai hi’n rhoi gwybod yn ddigon buan os nad oedd hi eisiau, a pham ddim). Mae clywed agweddau o hynny wedi’u cynllunio’n fwriadol i’r perfformiad yn drawiadol.
- Yn olaf, roedd y lleoliad perfformio mwy traddodiadol gyda chadeiriau, Polaroidiau gwag wedi’u gwasgaru ar hyd y lleoliad a pherfformiadau o dystiolaethau air am air gweithwyr gofal. Roedd y cadeiriau wedi’u gosod i roi lle i’r gynulleidfa brosesu cynnwys y perfformiad, y Polaroidiau yn cynrychioli’r atgofion sy’n aml iawn wedi’u colli neu wedi pylu mewn cleifion a’r tystiolaethau wedi’u dewis yn ofalus i sicrhau cynrychiolaeth gywir o brofiadau’r gweithwyr gofal mewn ffordd foesegol wrth ddiddymu’r manylion mwyaf gofidus er mwyn osgoi achosi trawma i’r cynulleidfaoedd. Goleuni diddorol iawn ar yr ystyriaethau ynghylch pherfformiadau trochol.
Sylwadau clo
Bydd y pwnc, o ran dementia a phŵer y theatr, yn rhywbeth y bydd llawer yn gallu uniaethu ag o. Mae datgeliad ‘y tu ôl i’r llenni’ o’r meddwl a’r cynllunio sy’n mynd i mewn i ymgysylltu, profiadau unigol, gofod, cyflymder ac ymreolaeth aelodau’r gynulleidfa yn wirioneddol graff. Mae’r ystyriaethau ynghylch cyfrifoldebau moesegol a chynllunio sy’n ystyriol o drawma yn ysgogi meddwl.
Diolch i Grace am rannu’r traethawd hwn mewn fformat amlfodd hygyrch, gan gyfuno’r gweledol, sain a thestun a byddwn yn annog eraill i’w wylio. Cadwch lygad am ymchwil gyfredol Grace ar hygyrchedd i’r celfyddydau i bobol anabl.
Gwyliwch y fideo: