Ymchwilio i Ffydd, Risg ac Ystyr: Diwrnod Ymchwil Seicoleg Crefydd ym Mhrifysgol Wrecsam

Mandy introducing the session with students sitting at a table

Cynhaliodd Prifysgol Wrecsam Ddiwrnod Ymchwil Seicoleg Crefydd ysbrydoledig yn ddiweddar, gan ddod ag ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw a’n cymuned academaidd ein hunain ynghyd i archwilio sut mae credoau yn siapio’r profiad dynol. Wedi’i noddi gan Cyfiawnder: Sefydliad Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol, nid yn unig yr oedd y digwyddiad yn cefnogi trafodaethau sy’n ysgogi'r meddwl, ond roedd hefyd yn ymgorffori ymrwymiad y brifysgol i gydweithrediad a chynhwysiant - gan ariannu costau teithio a llety i’n gwesteion nodedig hyd yn oed.

Rhannodd ein siaradwyr, Dr Christopher Silver o Sewanee: The University of the South, UDA, a Dr Robert Arrowood o University of Virginia's College at Wise, fewnwelediadau pwerus o rannau gwahanol iawn o’r maes.

Faith on the Edge: The Lived Experiences of Serpent Handlers

Dechreuodd Dr Silver - sy’n meddu ar EDd A PhD ac yn defnyddio dull ymchwil eclectig - gyda golwg ddifyr ar drin seirff o fewn cymunedau Pentecostaidd yn Appalachia.

Yn cael ei weld fel arferiad peryglus a hen ffasiwn gan bobl o’r tu allan, mae trin seirff yn weithred o ffydd llawn ystyr i'w ymarferwyr, sy’n deillio o ddehongliad llythrennol o Feibl y Brenin James. Archwiliodd ymchwil Dr Silver - ar sail 20 o ymweliadau safle, cyfweliadau, dadansoddiadau cyfryngau ac ethnograffeg - sut mae'r cymunedau hyn yn diffinio risg mewn termau moesol, ysbrydol, ac o ran bywoliaeth a thelerau cyfreithiol.

Er ei fod yn anghyfreithlon yn y rhan fwyaf o daleithiau UDA, mae'r arferiad yn parhau fel prawf o ymroddiad, ac mae brathiad yn cael ei fframio fel “ewyllys Duw” gan y rheiny sy’n credu. Mae ei waith yn herio stereoteipiau yn y cyfryngau ac yn ein gwahodd i ailfeddwl ein rhagdybiaethau ynghylch rhyddid crefyddol, hunaniaeth ddiwylliannol a gwydnwch traddodiadau.

Chris presenting in front of a board

Confronting Life’s Biggest Questions: Existential Psychology in Focus

Nesaf, aeth Dr. Arrowood â ni’n ddwfn i fyd seicoleg fodolaethol - y gangen o seicoleg sy’n ymdrin â chwestiynau sylfaenol bodolaeth ddynol: Pwy ydw i? Ble ydw i? Beth sy'n digwydd ar ôl i mi farw?

Gan ddefnyddio safbwyntiau esblygiadol a degawdau o ymchwil, eglurodd sut mae bodau dynol wedi datblygu “mecanweithiau amddiffyn’ seicolegol i warchod ein hunain rhag gorbryder parhaus ynghylch ein bodolaeth. Dadleuodd fod crefydd, diwylliant a chredoau ar y cyd yn rhoi anfarwoldeb symbolaidd, gan ein helpu i ddod o hyd i ystyr, a chynnig gwarchodaeth rhag ofni marwolaeth.

Cyflwynodd gysyniad difyr “ceiswyr” — unigolion sy’n chwilio’n barhaus am ystyr ac yn herio marwoldeb yn fwy agored, yn aml gydag effeithiau unigryw ar eu llesiant a’u safbwynt o’r byd. Mae ei waith yn arddangos sut mae ein credoau, p’un a ydynt yn grefyddol neu’n seciwlar, yn dylanwadu ar ein hymddygiad, ein cysylltiadau cymdeithasol a hyd yn oed y modd yr ydym yn marchnata cynhyrchion fel gwasanaethau angladdau.

rob presenting in a blue check shirt

Diwrnod o Gydweithredu a Mewnwelediad

Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaethau bord gron difyr, gan roi'r cyfle i fynychwyr sgwrsio’n uniongyrchol â’n gwesteion arbenigol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Dr Silver a Dr Arrowood am rannu eu hamser, eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd mor hael. Ysgogodd eu natur agored gwestiynau i brocio’r meddwl, gan ysbrydoli syniadau newydd ac annog cysylltiadau ar draws disgyblaethau. Parhaodd sgyrsiau ymhell y tu hwnt i'r sesiynau a drefnwyd, gan brofi ansawdd ein siaradwyr a’r chwilfrydedd sy’n cymell cymuned ein prifysgol.

rob and chris at a table of attendees

Un enghraifft yn unig yw'r Diwrnod Ymchwil Seicoleg Crefydd o’r modd y mae Prifysgol Wrecsam yn dod ag arbenigedd byd-eang i’n campws, gan greu cyfleoedd am drafodaethau ystyrlon rhwng ysgolheigion, myfyrwyr a'r cyhoedd.

Rydym yn adeiladu prifysgol sy’n gysylltiedig yn rhyngwladol - lle mae syniadau dewr, safbwyntiau amrywiol ac ymchwil gydweithredol yn ffynnu. P’un a ydych yn fyfyriwr, yn academydd neu’n aelod chwilfrydig o'r cyhoedd, rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’r daith hon.

Rob Mandy Chris standing in front of wrexham uni sign