Proffil Ansawdd Tempe Lamtoro Gung

Mae Dr Isabella Nyambayo, Uwch-ddarlithydd Maetheg a Metabolaeth, a'i chydweithwyr wedi cyhoeddi papur yn ddiweddar yn ymchwilio i briodweddau Tempe Lamtoro gan ddefnyddio deunydd pacio gwahanol.  

Mae Lamtoro Gung yn blanhigyn yn nheulu Fabaceae sy'n tarddu o Dde Mecsico a Chanolbarth America ac yn ffynnu mewn hinsoddau trofannol ac isdrofannol. Mae ei hadau, sy'n llawn protein (31-46%) ac yn isel mewn braster (5.1-10%), yn cael eu bwyta mewn rhanbarthau megis Canolbarth America, Gwlad Thai ac Indonesia. Mae'r hadau hyn yn cynnwys asidau amino polar wedi'u gwefru'n negyddol, gan eu gwneud yn ffynhonnell o beptidau ACE-I, sy'n helpu i atal gorbwysedd, gyda'u priodweddau gwrth-gorbwyseddol yn cael eu gwella trwy egino. 

Defnyddir hadau Lamtoro Gung yn aml i wneud tempe, cynnyrch traddodiadol wedi eplesu. Mae'r astudiaeth hon yn edrych ar sut mae gwahanol ddeunyddiau pecynnu - plastig, dail banana, a dail tîc — a hyd eplesu yn effeithio ar ansawdd tempe Lamtoro Gung. 

Dulliau 

Roedd yr astudiaeth yn defnyddio clorian, powlenni plastig, sosban stemio, a dadansoddwr ansawdd CTX Ametek Brookfield. Ymhlith y deunyddiau allweddol roedd hadau Lamtoro Gung o Wonogiri, dail tîc o Bentref Deresan, Bantul, dail banana o Farchnad Bantul, burum (brand Padi, Indonesia), plastig polythen, blawd casafa, a dŵr distyll. 

Paratoi Hadau Lamtoro Gung: 

  1. Golchi a berwi: Hadau yn cael eu golchi a'u berwi mewn cymhareb hadau i ddŵr 1:3 am awr.
  2. Glanhau: Tynnwyd y croen, a golchwyd hadau dro ar ôl tro.
  3. Socian: Roedd yr hadau'n cael eu socian mewn dŵr am 24 awr, a'r dŵr yn cael ei newid bob 8 awr.
  4. Cymysgu â blawd Casafa: Ar ôl socian, cymysgwyd yr hadau â 25g o flawd casafa, eu coginio am awr, a'u hoeri.

Gwneud Tempe Hadau Lamtoro Gung: 

  1.  Ychwanegu burum: Ychwanegu 1g o furum at yr hadau wedi'u hoeri.
  2. Pecynnu: Lapiwyd 30 g o hadau wedi'u trin â burum mewn dail tîc, dail banana, neu blastig polythen.
  3. Eplesu: Cafodd yr hadau wedi'u lapio eu heplesu mewn deorydd am 24, 48, 72, a 96 awr ar 25-30°C.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tri math o becynnu (dail tîc, dail banana, plastig) a phedwar cyfnod eplesu, gyda phob sampl yn cael ei hailadrodd tair gwaith. Perfformiwyd profion ansawdd gyda dadansoddwr ansawdd CTX Ametek Brookfield, gan fesur caledwch, glynoldeb, gludiogrwydd, gymogrwydd, cnoadwyedd a hydwythedd.  

Canlyniadau 

Mae proffil ansawdd  tempe Lamtoro Gung yn cynnwys chwe priodoledd: caledwch, glynoldeb, gludiogrwydd, gymogrwydd, cnoadwyedd a hydwythedd. 

Caledwch: Wedi'i fesur fel yr uchafswm grym yn ystod y brathiad cyntaf mew Newtonau (N). Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn caledwch rhwng tempe wedi'i lapio mewn gwahanol ddeunyddiau ar draws y rhan fwyaf o'r dyddiau eplesu. Fodd bynnag, ar y pedwerydd diwrnod, y tempe mewn dail tîc oedd fwyaf caled oherwydd tyfiant myseliol trwchus oedd yn ffurfio màs cryno. 

Glynoldeb: Yn dynodi cryfder bondiau mewnol. Gwelwyd y glynoldeb uchaf yn y tempe wedi'i eplesu mewn dail tîc ar y trydydd a'r pedwerydd diwrnod ac mewn plastig ar y pedwerydd diwrnod. Mae hyn yn gysylltiedig â'r twf myseliol mewn rhannau mwy sy'n digwydd mewn dail tîc a banana o'i gymharu â phlastig. 

Gludiogrwydd: Ardal y grym negyddol yn ystod y brathiad cyntaf, sy'n adlewyrchu'r ymdrech sydd ei hangen i oresgyn grymoedd atyniad. Gwelwyd y gludiogrwydd uchaf mewn tempe wedi'i lapio mewn dail banana ar y trydydd diwrnod, am fod gwell cylchrediad aer o'r mandyllau yn y dail banana a thîc yn gwella twf ffwngaidd. 

Gymogrwydd: Cyfuno caledwch a chydlynoldeb, canfuwyd y gymogrwydd uchaf mewn tempe wedi'i eplesu mewn dail tîc ar y pedwerydd diwrnod. Mae'r nodwedd hon yn hanfodol ar gyfer bwydydd lled-solet fel tempe. 

Cnoadwyedd: Cyfeirio at yr egni sydd ei angen i gnoi bwydydd solet, wedi'i gyfrifo fel gymogrwydd× hydwythedd. Mae cnoadwyedd uwch yn arwydd o gynnyrch mwy trwchus. 

Hydwythedd: Mesur elastigedd y sampl. Y sampl rheoli (diwrnod 0) oedd â'r hydwythedd uchaf, heb unrhyw newidiadau sylweddol ar draws y samplau eraill. 

Casgliad 

Gall tempe Lamtoro Gung fod yn ddewis arall posib yn lle tempe ffa soia. Pecynnu gyda dail tîc i eplesu am bedwar diwrnod oedd yn arwain at yr ansawdd gorau, gyda sgoriau uchel o ran caledwch, glynoldeb, gymogrwydd a chnoadwyedd. Mae'r astudiaeth hon yn tanlinellu pwysigrwydd deunydd pecynnu a hyd eplesu er mwyn sicrhau rhinweddau ansawdd dymunol wrth gynhyrchu tempe. 

Darllenwch yr erthygl lawn.