Rheoli systemau hanfodol
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Simon Everett, Uwch Ddarlithydd yn yr Amgylchedd Adeiledig ac Ymchwilydd PhD erthygl ar gyfer Health Estate Journal ar-lein ynglŷn â rheoli systemau awyru hanfodol - systemau sy'n gwasanaethu ardaloedd na allant weithredu hebddynt. Mae erthygl Simon yn mynd i'r afael â'r prif bwyntiau canlynol...
Prif Heriau ac Ystyriaethau
Systemau Awyru Hanfodol: Angenrheidiol ar gyfer rheoli pathogenau yn yr aer mewn cyfleusterau gofal iechyd. Mae llawer o systemau nad ydynt yn bodloni safonau cyfredol, gan beryglu diogelwch a chydymffurfiaeth.
Risgiau Offer Etifeddol: Mae asesu Unedau Trin Aer (AHU) yn rheolaidd yn hollbwysig i atal methiannau a allai amharu ar wasanaethau a pheryglu rheoli haint.
Cyllid a Blaenoriaethu
Ceisiadau Cystadleuol am Gyfalaf: Yn aml, mae timau Ystadau'r GIG yn wynebu heriau wrth geisio sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau seilwaith, gan fod anghenion clinigol yn aml yn cael blaenoriaeth.
Problemau Ôl-gronni: Mae gan nifer o Ymddiriedolaethau broblemau ôl-gronni sylweddol, gyda thua 41% yn unig o safleoedd yn cael eu harchwilio'n ffurfiol. Mae deall yr ôl-groniant yn hanfodol ar gyfer rheoli effeithiol.
Strategaethau Rheoli Risg
Dilysiad Blynyddol: Mae'n rhaid profi perfformiad systemau bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn bodloni'r cyfraddau newid aer gofynnol.
Asesiad Risg: Dylai'r Grŵp Diogelwch Awyru (VSG) gynnal asesiadau risg i nodi methiannau posibl a mesurau lliniaru angenrheidiol.
Mesurau Lliniaru: Er mwyn rheoli risgiau'n effeithiol, argymhellir cynnal archwiliadau'n fwy aml, cynnal mwy o brofion, a chofnodi asedau ar gofrestr risgiau'r Ymddiriedolaeth.
Cymhwysedd a Hyfforddiant Tîm
Timau a Hyfforddwyd yn Dda: Mae unigolion cymwys yn hanfodol i gynnal systemau etifeddol. Mae hyfforddiant rheolaidd a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn angenrheidiol i staff sydd ynghlwm â chynnal a chadw ac archwiliadau.
Cydweithio a Llywodraethu
Cydweithio Rhwng Adrannau: Mae sicrhau cysylltiadau cryf rhwng Ystadau, arweinwyr clinigol, ac adrannau cyllid yn hollbwysig ar gyfer rheoli risg cyfannol.
Mecanweithiau Llywodraethu: Mae sefydlu Grŵp Diogelwch Awyru cadarn a chynnal cofrestr risgiau manwl gywir yn helpu i sicrhau cyfathrebu effeithiol a gwneud penderfyniadau doeth.
Casgliad
Mae rheoli Unedau Trin Aer etifeddol yn y sector gofal iechyd yn gymhleth, ac mae angen dull rhagweithiol o gynnal a chadw a rheoli risg. Drwy weithredu argymhellion strategol, mae modd i dimau Ystadau wella dibynadwyedd systemau awyru, gan sicrhau diogelwch cleifion a staff er gwaethaf yr heriau ariannu.
I ddarllen yr erthygl lawn, mewngofnodwch neu cofrestrwch ar gyfer cyfrif rhad ac am ddim yn Health Estate Journal.