Cyhoeddiad y Mis - Medi 2025

Hyfforddiant cydnerthedd i gefnogi athrawon
Papur newydd gan Dr Julian Ayres yn archwilio meithrin cydnerthedd er mwyn cefnogi cadw athrawon o fewn addysg ôl-orfodol.
Mae'r sector addysg ôl-orfodol yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys lefelau uchel o straen yn gysylltiedig gyda gwaith, athrawon wedi llwyr ddiffygio, a phroblemau parhaus ynghylch cadw. Mae cefnogi athrawon dan hyfforddiant i ffynnu yn ystod hyfforddiant ac i mewn i'w gyrfaoedd cynnar felly yn flaenoriaeth sydd â brys.
Mae cyhoeddiad y mis hwn, gan Dr Julian Ayres, yn archwilio sut y gall hyfforddiant cydnerthedd helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Cafodd rhaglen wedi'i theilwra'n arbennig ar gyfer myfyrwyr TAR (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) ym Mhrifysgol Wrecsam ei threialu gan yr astudiaeth, gan ddwyn ysbrydoliaeth o ymyriadau sy'n meithrin cydnerthedd mewn sectorau megis nyrsio, chwaraeon elit, a'r lluoedd arfog.
Roedd yr hyfforddiant yn cyfuno arferion meddylgarwch, ysgrifennu adfyfyriol wedi'i strwythuro a deialog gyda chyfoedion. Wedi'i ddarparu mewn amgylchedd diogel a chydweithredol, roedd yn galluogi hyfforddeion i archwilio heriau mewn ffordd agored a datblygu strategaethau ymdopi ymarferol.
Roedd y canlyniadau'n galonogol: fe wnaeth pob un o'r 13 a gyfranogodd yn rhan o'r grŵp ymyriad gwblhau'r flwyddyn gan sicrhau eu cymhwyster dysgu - canlyniad cryf i raglen a oedd yn flaenorol wedi'i hadnabod fel bod mewn perygl o fod â rhai'n gadael cyn gorffen. Chwe mis yn ddiweddarach, dangosodd holiaduron dilynol bod y cyfranogwyr yn rhoi eu strategaethau cydnerthedd ar waith yn eu rolau dysgu, gan eu helpu i reoli straen, delio gyda phroblemau sy'n eu dal yn ôl, ac adeiladu cydnerthedd yn yr ystafell ddosbarth.
Adroddodd cyfranogwyr mai'r agweddau mwyaf gwerthfawr oedd y cyfleoedd ar gyfer adfyfyrio'n ddwfn a thrafod gyda chyfoedion. Fe wnaeth hyn symud y diwylliant o fewn y garfan o gystadlu i gydweithredu, gan feithrin hunaniaeth broffesiynol gryfach a rheolaeth emosiynol.
Mae Dr Ayres hefyd yn amlygu er bod hyfforddiant cydnerthedd unigol yn effeithiol, mae'n rhaid bod newid systemig yn cyd-fynd gyda hyn. Mae heriau strwythurol - megis pwysau llwyth gwaith a diwylliannau sy'n cael eu gyrru gan berfformiad - yn parhau i fod yn rhwystrau sylweddol rhag cadw. Ar gyfer traweffaith tymor hir, mae cydnerthedd personol ac amgylcheddau sefydliadol cefnogol yn hanfodol.
Mae'r gwaith ymchwil pwysig hwn yn dangos sut y gall ymyriadau wedi'u targedu wella lles yr athro, a gwella'r gyfradd gadw, gan gynnig model a ellid ei ymestyn ar draws y sector.
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y pwnc yma, gwyliwch yn ôl ar Ddarlith Gyhoeddus Sgyrsiau Ymchwil Wrecsam Dr Ayres, ar Ddycnwch a Chydnerthedd, a darllenwch y papur llawn.