Ystafell Ddosbarth y Goedwig

Awst 2025, Amanda Derry MA AiH
Gwaith maes Celfyddyd mewn Iechyd Prifysgol Wrecsam. Lleoliad: Ysgol y goedwig Campws Llaneurgain, a amlinellir ar Xplore!
Gyda James Kendall o Ystafell Ddosbarth y Goedwig, Wrecsam:
'Drwy ein hangerdd, ein brwdfrydedd a'n
profiad rydym yn helpu pobl i gysylltu gyda byd natur, teimlo'n iachach a chael profiadau ystyrlon drwy weithgareddau positif a chware creadigol.'
- Ystafell Ddosbarth y Goedwig, 2023
Am ddwy awr cawsom flas o addysg y goedwig gan gynnwys:
- Ymarfer 5 Synnwyr
- Cael te o amgylch y tân
- Gwrando ar Donnau Planhigion
- Gwneud rhaff o ddanadl poethion
Ymarfer 5 Synnwyr (Meddylgarwch):
- Llygaid tylluanod – edrych ar ein cyrion
- Blas Gwiber - mwyar duon, te
- Arogl Mochyn Daear - y ddaear, gwrtaith (gwrtaith tŷ bach) sych a dail ffres, mwg (o dân y gwersyll)
- Cyffyrddiad gwiwer - brigau, rhisgl, dail, coeden
- Clyw Carw - adar, gwynt
Waled amlen:
Creais amlen waled er mwyn cadw darnau o ddefnydd, ffotograffau o'r sesiwn yn y goedwig, pethau roeddwn wedi'u casglu. Gallai'r rhain gael eu defnyddio ar gyfer dyddlyfr celf neu eu cadw fel casgliad
Gwneud rhaff danadl poethion:
Gan wisgo menig amddiffynnol, pigwch goesyn tal o ddanadl poethion
Rhedwch eich llaw i fyny ac i lawr y coesyn er mwyn tynnu'r dail a'r pigau i ffwrdd
Profwch nad oes gan y coesyn unrhyw bigau drwy ei flasu gyda'ch tafod (os meiddiwch chi!)
Gwasgwch y coesyn yn wastad nes ei fod yn ymrannu (gellir defnyddio morthwyl pren yn ysgafn) ac yna rhedwch hoelen fach er mwyn ymestyn yr ymraniad yr holl ffordd i'w ddiwedd.
Torrwch ddarn o'r bywyn i ffwrdd a'i dynnu i ffwrdd, gan dynnu'r ffibrau oddi arno
Croeniwch haen allanol y coesyn ar i lawr, a dylent ymddangos fel edefion (mae edefyn gwyrdd yn well nag un brown, pan mae'r danadl poethion yn dod yn sychach tuag at yr hydref)
Troellwch yr edefion gyda'i gilydd hyd nes eu bod yn bochio tuag atoch ac yna eu troi o amgylch; troellwch y rhaff gan ddod ag ef drosto ac i fyny tuag atoch
Gellir plethu'r edefion yn ogystal
Gall edau danadl poethion gael ei ddefnyddio fel cotwm a ddefnyddir yn y broses o wneud dillad ac mae'n fwy cynaliadwy na chotwm. Fodd bynnag, does dim proses awtomatig ar gyfer
cynhyrchu edefion danadl poethion sydd angen ei wneud â llaw, felly mae'n broses hir.
Am fwy o wybodaeth:
'Mae technolegau troelli newydd, croes-fridio planhigion, a phryderon cynyddol ynghylch costau amgylcheddol tyfu cotwm confensiynol yn gwneud danadl poethion yn ddeunydd amgen posib ar gyfer cwmnïau tecstiliau.'
-Mari Stuart a Gwneud Casglu Tyfu, 2023
Gwrando ar Plant Wave:
'Mae Plant Wave yn ddyfais newydd syml sy'n galluogi i chi 'glywed' planhigion - ac mae pob un yn wahanol. Ar yr un pryd gallwch hefyd greu ffrwd gyson o gerddoriaeth ymlaciol. Mae'n gweithio ar unrhyw fath o blanhigyn byw.'
- Think Tree, 2025
Bydd gan bob planhigyn wahanol sain. Fe wnaethom wrando ar gerddoriaeth wedi'i greu gan sycamorwydden, oedd yn ymddangos fel tonnau sain ar sgrin. Cafodd dau electrod eu cysylltu gyda dwy ran o'r planhigyn e.e. dwy ddeilen. Roedd y rhain yn cysylltu gyda dyfais oedd yn adnabod amrywiadau trydanol, wedi'u trosi i draw oedd yn trosi i gerddoriaeth.
Mae yna fuddion wrth greu celf a chrefft mewn amgylchedd naturiol, lle mae deunyddiau wrth law gyda'r ysbrydoliaeth ychwanegol o fod mewn amgylchedd naturiol. Er enghraifft, mae ffyn teithiau yn cael eu gwneud o eitemau sy'n cael eu casglu ar daith gerdded natur sy'n adrodd hanes y profiad. Yn draddodiadol, ar gyfer plant mae ysgolion coedwig, ond mae addysg y goedwig yn brofiad addysgol ar gyfer oedolion yn ogystal.
CYFEIRIADAU:
Outdoor Tribe (2025), Forest School Adults | Outdoor Tribe. Ar gael o: https://www.outdoortribe.co.uk/forest-school-for-adults/. [Cyrchwyd 7fed Medi, 2025.]
Stuart, M. a Make Gather Grow (2023), Nettle Fiber Processing. Ar gael o: https://www.motherearthnews.com/diy/turning-nettles-into-textiles-zbcz2101/. [Cyrchwyd 3ydd Medi, 2025.]
Think Tree (2025), Technology - Device allows you to hear plants ‘play music’. Available from: https://thinktreehub.com/technology-device-allows-you-to-hear-plants-play- music/. [Accessed 3rd September, 2025.]
Woodland Classroom (2023), About us - Woodland Classroom. Ar gael o: https://woodlandclassroom.com/about-us/. [Cyrchwyd 3ydd Medi, 2025.]