Y modd yr ydym yn sicrhau eich bod yn rhan o rywbeth arbennig ym Mhrifysgol Wrecsam
Mae Prifysgol Wrecsam yn brifysgol heb ei thebyg.
Rydym wedi’n gwreiddio yn ein cymuned o fyfyrwyr, ac wedi’n grymuso gan gynnydd ein graddedigion llwyddiannus.
Mae ein hethos yn amlinellu pam fod ein cyrsiau gradd, y profiad a’r cyfleoedd a gynigiwn i fyfyrwyr yn hollol unigryw. Mae pob neges bwerus yn ein gwneud yn wahanol, ac yn crynhoi’r hyn sy’n gwneud Prifysgol Wrecsam yn lle arbennig i chi astudio.
Addysg drawsnewidiol, cyfle aruthrol
Mae ein graddau’n ystyried dysgu o safbwynt ymarferol a galwedigaethol. Rydym yn credu mai’r modd gorau i chi ddysgu yw trwy fynd i'r afael â phethau o’r cychwyn, a thrwy roi’r theori a ddysgir gennych yn sgil eich gradd ar waith mewn sefyllfaoedd sy’n adlewyrchu’r byd go iawn.
Mae ein haddysg drawsnewidiol yn eich arfogi â’r sgiliau a fydd yn ymestyn y modd yr ydych yn meddwl trwy gydol eich cwrs gradd, ac ymlaen i’r byd proffesiynol y tu hwnt.
Mae’r rhaglenni a gynigir gennym yn dilyn trywydd a fydd yn arwain at yrfaoedd, ac maent wedi’u dylunio gyda’r nod o’ch gwneud yn gyflogadwy. Byddwch yn gadael y brifysgol yn gwbl gymwys gyda’r sgiliau a’r profiadau a fynnir i ganfod gyrfa yn eich maes dewisedig. Yn ôl data arolwg myfyrwyr gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), mae’r ymagwedd hon yn gweithio, gan fod 83.8% o raddedigion Wrecsam o flwyddyn academaidd 2020/21 mewn cyflogaeth lawn amser, am dâl. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU o 81.5%, ynghyd â chyfartaledd Cymru o 79.4%, ac rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth gyrfaoedd sydd wedi ennill sawl gwobr.
Mae gennym gysylltiadau cryf a byd diwydiant, y cewch y cyfle i fanteisio arno trwy ymweliadau, profiad gwaith, a sgyrsiau gan arbenigwyr. Ar rai cyrsiau, fe gewch yr opsiwn ychwanegol i gael blwyddyn o brofiad gwaith ym myd diwydiant fel rhan o’ch gradd.
Mae ystod aruthrol o gyfleoedd ar gael yn Wrecsam trwy ein hymagwedd drawsnewidiol ac ymarferol tuag at addysg.
Wedi’n gwreiddio yn y gymuned, a’n grymuso gan gynnydd
Mae gennym gymuned fyfyrwyr gref ym Mhrifysgol Wrecsam, ac mae ein darlithwyr ymroddedig yn ymfalchïo mewn darparu awyrgylch croesawgar wrth i chi ddysgu gyda ni.
Cafwyd cydnabyddiaeth am ein hymroddiad i gyflenwi darpariaeth addysgiadol atyniadol, gan y cawsom ein cynnwys o fewn y 10 prifysgol sydd ar ben y rhestr yn y DU am Ansawdd ein Dulliau Haddysgu yng nghanllaw The Times and Sunday Times Good University Guide, 2024. Mae ein darlithwyr yn darparu addysg o ansawdd uchel, ynghyd â lle croesawgar i fyfyrwyr ddatblygu eu diddordebau eu hunain, yn ogystal â dysgu.
Dywedodd Olivia Horner, myfyriwr darlunio: "Dwi’n wirioneddol frwdfrydig am Brifysgol Wrecsam, gan ei bod yn lle diogel i mi gael bod fy hun a bod yn greadigol. Rhywbeth a oedd yn bwysig i mi wrth ddod i brifysgol oedd meintiau’r dosbarthiadau, gan fy mod yn brwydro efo gorbryder, ond mae’r dosbarthiadau bach yma yn rhyfeddol, ac yn ein galluogi ni i gael amser gyda’n tiwtoriaid ar sail 1 i 1. Mae’r ymdeimlad o gymuned yma yn rhagorol.”
Mae ein cymuned myfyrwyr yn eich grymuso chi i fwrw ymlaen â’ch astudiaethau, yn ogystal â’ch gyrfa y tu hwnt i hynny.
Sbardunwch newid
Yn Wrecsam, rydym yn sbarduno newid ym mywydau ein myfyrwyr ac o fewn ein hamgylchedd dysgu.
Buddsoddi yn eich dyfodol yw ein prif flaenoriaeth, a ddangosir trwy gyfrwng ein strategaeth £80 miliwn i wella ein rhanbarth lleol a’n holl gampysau, i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y cyfleusterau a’r amgylchedd dysgu gorau. Mae gennym fannau dysgu cymdeithasol, cyfleusterau addysgu a mannau dysgu awyr agored newydd sbon, sy’n addas ar gyfer unrhyw arddull astudio.
Mae ein mannau dysgu yng nghoridor B wedi cael eu hadnewyddu’n gyfan gwbl, gyda chyfarpar AV ardderchog, gweithfannau hygyrch a dyluniadau glân. O ystafelloedd dosbarth a darlithfaoedd, i’n hystafelloedd SCALE-UP a Moot Court, mae pob lleoliad wedi’i ddylunio’n arbennig i ddiwallu anghenion dysgu ein myfyrwyr. Rydym wedi datblygu mannau ar gyfer pynciau penodol, gan gynnwys labordai gwyddoniaeth newydd, Canolfan Datblygu Pêl-droed Genedlaethol Parc y Glowyr, a’n hystafell glinigol ar gyfer Nyrsio Milfeddygol. Rydym hefyd wedi datblygu Ardal Arloesi Iechyd ac Addysg (HEIQ), sy’n cynnwys Canolfan Efelychu Iechyd ar gyfer darparu profiadau dysgu ymarferol. Caiff myfyrwyr Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd Perthynol y cyfle i brofi efelychiadau o senarios sy’n adlewyrchu’r byd go iawn, cyn iddynt fentro ar leoliad profiad gwaith ac i mewn i’r byd proffesiynol.
Mae sbarduno newid yn ein campysau yn sicrhau’r ddarpariaeth orau i’ch caniatáu chi i lwyddo ac i sbarduno newid yn eich dysgu eich hun. Rydym yn ymroddedig i fynd ati’n gyson i weithio tuag at wella eich profiad chi fel myfyriwr trwy greu mannau dysgu dynamig ac atyniadol, i’ch helpu i lwyddo.
Ysbrydoli a galluogi trwy addysg uwch
Mae Prifysgol Wrecsam yn gwbl wahanol i brifysgolion eraill gan ein bod yn darparu llwyfan i roi llais i chi fel myfyriwr ysbrydoledig. Trwy bleidleisiau ein myfyrwyr ein hunain yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2023, fe’n rhoddwyd ni ar frig y rhestr o brifysgolion yng Nghymru am hyrwyddo Llais ein Myfyrwyr. Cewch ddweud eich dweud am eich dysgu, a byddwn yn gwrando ar eich barn wrth i chi astudio gyda ni yma yn Wrecsam.
Cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau o safbwynt cynhwysiant cymdeithasol yn Lloegr a Chymru gan ganllaw The Times and Sunday Times Good University Guide 2024, am chwe blynedd yn olynol. Rydym yn galluogi myfyrwyr i gyflawni mewn addysg uwch, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae ein gwasanaethau cynhwysiant a’n gwasanaethau cefnogi myfyrwyr yn sefydlu ein hymrwymiad hirsefydlog eithriadol i gynnal profiad dysgu cynhwysol yn Wrecsam.
Mae ein hymagwedd ymarferol tuag at ddysgu, ein cymuned groesawgar o fyfyrwyr, ein campysau sy’n esblygu, a’n hymroddiad i gynhwysiant yn ein gwneud yn wahanol. Cymrwch olwg ar ein hamrywiaeth o gyrsiau, a byddwch yn rhan o’r profiad dysgu unigryw hwn ym Mhrifysgol Wrecsam.