Digymell: Barn Gymysg
Yasmin Washbrook, Ebrill 2024
Roeddwn wedi bwriadu ymgeisio yn y gystadleuaeth Ymchwil Delweddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae cydraddoldeb hiliol yn thema greiddiol yn fy ymchwil, ac roedd rhannu hynny'n deimlad brawychus, felly deliais yn ôl. Yn 2023, es yn fy mlaen i gyflwyno fy nghais. Rwyf wedi bod yn ymwneud â gwaith Cydraddoldeb Hiliol dros ddwy flynedd diwethaf yn y brifysgol, ac o ganlyniad i hynny rwyf wedi dechrau teimlo'n fwy hyderus wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau lle gallaf goleddu fy hunaniaeth a phortreadu fy mhrofiadau fel person 'hil gymysg' yn agored, drwy fy ngwaith ymchwil ac wrth ymarfer. Yn y gorffennol, mae'r byd academaidd wedi anwybyddu profiadau pobl Dduon a Brown mewn gwaith ymchwil, gyda llawer llai o ddeunydd sy'n trafod profiadau byw neu naratifau personol 'grwpiau ar y cyrion'.
Y llynedd, ymrwymodd y brifysgol i gynnal proses faith a pharhaus tuag at feithrin amgylchedd mwy cynhwysol, drwy gytuno i anelu am Wobr Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil; yn sgil hyn, a phrosiectau cydraddoldeb hil parhaus sy'n digwydd ar lefel adrannol, rydw i wedi gweld mân newidiadau diwylliannol tuag at goleddu cydraddoldeb a thegwch. Rwy'n cydnabod bod rhagor o waith i'w wneud, ond ar ôl i'r gobaith yma am newid diwylliant fy sbarduno, cyflwynais "Digymell: Barn Gymysg," darn hunanethnograffig yn archwilio peth o'm profiad o fyw fel merch 'hil gymysg'. O gyflwyno fy narn, roeddwn yn gobeithio y gallwn sbarduno sgyrsiau, myfyrdodau a gweithredu pellach yn gysylltiedig â chydraddoldeb hil a helpu eraill i deimlo'n gyffyrddus yn gwneud yr un peth. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, er fy mod yn gwerthfawrogi hynny; ond yn syml, roedd cael rhywun yn derbyn fy nghais yn dilysu fy ymdeimlad o berthyn a gwerth fy nghyfraniadau i'r maes hwn.
Cael Hyd i’n Llais: Hunanethnograffeg a Hunanethnograffeg Cydweithredol
Mae Hunanethnograffeg a Hunanethnograffeg Cydweithredol yn enghreifftiau o fethodolegau sy'n helpu i rymuso lleisiau sydd ar y cyrion mewn gwaith ymchwil. Mae'r dulliau hyn yn lleoli'r ymchwilydd/wyr fel cyfranogwr/wyr, gan eu galluogi i gynniggwrth-naratifau sy’n herio'r safbwyntiau sy'n drech yn eu profiadau byw (Washbrook a Beacon, 2022). Mae Hunanethnograffeg a Hunanethnograffeg Cydweithredol yn defnyddio dulliau sy'n galluogi'r cyfranogwr/cyfranogwyr ymchwil i gynhyrchu cyfoeth o ddata ansoddol, y gellir eu harchwilio a'u dadansoddi gyda llai o risg o gamddehongli. Mae hyn yn wahanol i ffurfiau ymchwil traddodiadol, lle bydd yr ymchwilydd yn eistedd 'y tu allan' i'r ffenomen y mae'n ei hastudio (Chang, et al., 2016).
Fy Ngwaith Celf "Digymell: Barn Gymysg"
Mae fy nelwedd, "Digymell: Barn Cymysg," yn defnyddio egwyddorion hunanethnograffeg. Roedd deunyddiau myfyriol yn helpu cyfranogwyr yr ymchwil (gan gynnwys fi fy hun) i archwilio'u profiadau byw fel merched 'hil gymysg' o blentyndod hyd at fod yn oedolyn, drwy gynhyrchu data, datblygu arteffactau a dadansoddi themâu. Mae'r gwaith celf sy'n deillio o hyn yn crisialu "barnau digymell" - labeli, cwestiynau a chanfyddiadau - sy'n adlewyrchu ein profiadau o ganfyddiadau cymdeithas. Mae'r darn hwn yn enghraifft bwerus o ymchwil wedi'i harwain gan rywun sydd "ar y tu mewn", sy'n sbarduno dadansoddiad o'r agweddau ar ein realiti sy'n debyg ac yn wahanol. Mae'r ddelwedd yn portreadu canfyddiadau ac iaith amhriodol yn gysylltiedig â phrofiadau 'hil gymysg'. Drwy arddangos y "barnau digymell", mae'r gwaith celf yn amlygu pwysigrwydd gwrth-naratifau i fwrw goleuni ar y materion hyn. Drwy fy ngwaith gyda phrosiect y Siarter Cydraddoldeb Hil (REC) yn y brifysgol, rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio gwrth-naratifau ochr yn ochr â dadansoddi data, yn ansoddol ac yn feintiol. Nod y dull cyfunol hwn fydd llywio camau gweithredu diriaethol o fewn cynllun yr REC, gan ysgogi newid ystyrlon tuag at gydraddoldeb hil yn y pen draw.
Y broses gyflwyno: Chwalu'r hud
Ar wahân i'm twf personol, gwnaeth ffactor arall fy annog i ymgeisio yn y gystadleuaeth. Ar ôl cwrdd ag enillydd y llynedd am sgwrs fer, gwelais fod y broses yn llawer llai brawychus nag yr oeddwn wedi'i ddychmygu. Roedd yn golygu newid maint fy nelwedd, ei huwchlwytho a'i chyflwyno gyda chrynodeb drwy e-bost.
Mae'r gystadleuaeth yn helpu i ymdrin â her gyffredin yn y byd academaidd - prinder amser i ymgysylltu ag ymchwil cydweithwyr. Mae dangos cyflwyniadau gweledol yn yr oriel yn fodd i greu cysylltiadau cyflym rhwng meysydd ymchwil. Mae hi wedi bod yn brofiad gwerth chweil cael gweld fy ngwaith yn cael ei gydnabod a'i arddangos ochr yn ochr â gwaith pobl eraill. I unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan - peidiwch ag oedi! Rhannwch eich gwaith caled (a gallech chi ennill gwobr ariannol).