Ash Russell
Teitl y Cwrs: BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed & Arbenigwr Perfformiad
Beth oeddech chi'n ei wneud cyn dod i Brifysgol Wrecsam?
Roedd fy amser yng Nglyndŵr yn arbennig ac fe ddysgais i lawer o wybodaeth ddamcaniaethol ond hefyd fe ges i gyfle i’w gymhwyso. Roedd y gefnogaeth a’r arweiniad hefyd mor dda wrth inni ddefnyddio’r wybodaeth mewn amgylcheddau cymhwysol, felly doeddwn i ddim yn mynd i mewn heb fy addysgu neu’n ddall. Fe wnaeth y wybodaeth a’r ffordd y cafodd ei chyflwyno fy ngalluogi i ddatblygu ymhellach fy niddordeb mewn hyfforddi pêl-droed, gwyddor chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn gyffredinol yn ogystal â’m galluogi i ennill bathodynnau hyfforddi fel cymwysterau ychwanegol.
Beth wnaeth eich denu chi i Brifysgol Wrecsam?
Rydw i wedi byw yn Wrecsam gydol fy mywyd, ac wedi gweld Wrecsam o’r cychwyn cyntaf fel prifysgol y gallwn i ddychmygu fy hun ynddi. Wrth imi fynd drwy dudalennau UCAS a sgrolio i weld pa gyrsiau oedd o ddiddordeb i mi, fe welais fod y brifysgol yn arbenigo mewn gradd newydd yn ymwneud â Phêl-droed a Hyfforddi ac roedd hwn yn gwrs oedd yn apelio’n fawr iawn i mi. Ar ôl siarad gydag arweinydd y rhaglen a thrafod y cwrs, roeddwn i’n gwybod mai dyma oedd y cwrs i mi.
Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?
Roedd y sgwrsio gyda’r garfan yn arbennig ac rwy’n siŵr y bydd Chris a Sara yn dweud yr un peth am hynny. Roedd y diwrnod yr aethom ni i Gampws Etihad am daith a thrafodaeth yn agorwr llygaid, gan ddangos i mi beth allwn i fod o weithio’n galed a llwyddo. Roedd y cyfleuster a lefel y manylion yr oedden nhw’n gweithio iddi yn anhygoel ac rwy’n cofio cymryd 100oedd o luniau i fynd yn ôl gyda mi i’w dadansoddi - diwrnod addysgiadol iawn.
A fyddech chi'n argymell dilyn cwrs ym Mhrifysgol Wrecsam, a pham?
Mi fuaswn i’n bendant yn argymell gradd ym Mhrifysgol Wrecsam gan fod y cyfleusterau, y tiwtoriaid a’r wybodaeth y byddwch chi’n eu derbyn i gyd yn wych. Mae’r cyfleoedd a gewch yn unigryw ac yn eich paratoi ar gyfer dyfodol o fewn eich diwydiant, beth bynnag yw hynny.
Beth ydych chi wedi'i wneud ers graddio a beth mae eich swydd bresennol yn ei olygu?
Teitl fy swydd bresennol yw ‘Arweinydd Cyfnod Sylfaen’ (Foundation Phase Lead) gydag Academi New Saints ac yn fy swydd rydw i’n hyfforddi a goruchwylio grwpiau oedran yn yr academi o’r rhai Dan 7 i Dan 11. Rydw i’n trefnu gwyliau, twrnameintiau a gemau ac yn sicrhau bod gan chwaraewyr ystod o fformatau a chyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau. Rydw i hefyd yn cefnogi hyfforddwyr o fewn y cyfnod ac yn cwblhau tasgau gweinyddol amrywiol i sicrhau bod yr holl ddata ar gyfer pob chwaraewr yn gyfredol (cynlluniau lleoli unigol, cofrestr presenoldeb ac ati). Yn ogystal â hyn, rydw i’n cefnogi ac yn adrodd yn ôl gyda gwybodaeth i fy Mhennaeth Hyfforddi a Phennaeth yr Academi.
Rydw i’n arwain 2 grŵp oedran o fewn yr Academi hefyd, un yn fy nghyfnod fy hun ac un grŵp oedran hŷn. Rydw i’n hyfforddi grwpiau ar gyfer 3 cytundeb hyfforddi a 2 gêm (1 i bob tîm) yr wythnos, ac felly’n brysur iawn.
Beth yw uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?
Mae ‘na lawer, am ein bod ni’n hynod ffodus yn TNS ein bod ni wedi cael cyfle i chwarae mewn twrnameintiau ar draws y byd, yn erbyn clybiau adnabyddus yma a thraw. Rydym ni wedi chwarae Barcelona mewn twrnamaint o’r enw ‘Jamon Cup’ yn Calamocha, Sbaen gyda’r tîm Dan 13 sydd gennym ar hyn o bryd, a hefyd wedi cael gwahoddiad i chwarae’r rhan fwyaf o’r clybiau mawr yn Lloegr, megis Lerpwl, Everton, Man United, Man City a mwy. Mae’r rhain yn ddiwrnodau gwych bob tro.
Heblaw am y gemau, rhai o’r uchafbwyntiau mwyaf yw’r datblygiad welwch chi yn y bobl hynny rydych yn gweithio gyda nhw. Yn y clwb rydw i wedi arwain un grŵp penodol ers ymuno, ac yn y grŵp yma roedd gennym ni 3 chwaraewr a symudodd i glybiau CAT-1 a 2 arall yn symud i academïau CAT-2 a CAT-3, mae hyn, yn fy marn i, ynghyd â 10 o chwaraewyr yn cael eu dewis ar gyfer gemau rhanbarthol Gogledd Cymru FAW, wedi bod yn llwyddiant mawr ar gyfer y clwb, ac yn rhywbeth rwy’n ymfalchïo ynddo.
Sut mae astudio yma yn eich helpu chi?
Rhoddodd y radd yng Nglyndŵr yr holl wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysol i’m galluogi i fod yn hyderus wrth weithio yn y byd go iawn. Roedd hyn yn ogystal â rhoi llawer o gyfleoedd i mi ddadansoddi unigolion lefel elît eraill o fewn y diwydiant, gan roi rhywbeth imi anelu ato. Heb y radd fyddwn i’n bendant ddim ble rydw i nawr oherwydd cyn y radd roeddwn i’n hyfforddwr Lefel 1 yn helpu tîm pêl-droed fy mrawd am nad oedd gen i unrhyw beth arall i’w wneud.
“Os ydych chi’n caru’r hyn rydych yn ei wneud, wnewch chi fyth gweithio diwrnod yn eich bywyd”. Os ydych chi’n fy adnabod i, mae hynny braidd yn ddwfn, fodd bynnag mae yn crisialu’r holl beth i mi, ac fe wnes i fwynhau pob moment yn ystod fy ngradd yng Wrecsam ac rydw i wedi parhau i wneud hynny yn fy mhroffesiwn nawr.
Ash Russell