Dechreuwch eich taith gyda’r Glirio.

O bryd i'w gilydd, y penderfyniadau gorau yw’r rhai na wnaethoch eu cynllunio.

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym o’r farn y dylai eich taith ymestyn y tu hwnt i ennill gradd yn unig. Mae’n ymwneud â chanfod eich diddordebau, gwneud ffrindiau oes, ac addysgu sy’n eich ysbrydoli bob cam o’r ffordd.

Dewch o Hyd i’ch Cwrs
Students in accommodation

Eich cartref oddi cartref

Mwynhewch dawelwch meddwl gyda diogelwch 24/7, Wi-Fi am ddim, a pharcio ar y safle. Mae ein llety myfyrwyr hefyd yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad cyfleus ar y safle. O fewn pellter cerdded i siopau a chanol y ddinas, bydd popeth sydd ei angen arnoch dafliad carreg i ffwrdd. Yn ogystal, gyda chysylltiadau trên i Gaer, Lerpwl, a Manceinion 5 munud i ffwrdd ar droed, nid oes ffordd haws o grwydro’r rhanbarth.

Cysur, cyfleustra, cymuned, i gyd mewn yn un lle.

Pentref Myfyrwyr Wrecsam

Ariannu eich dyfodol

Peidiwch â gadael i bryderon ariannol eich rhwystro, rydym wedi casglu popeth sydd ei angen arnoch i lywio drwy'r broses glirio'n hyderus.

Os ydych chi’n gwneud cais am un o’n graddau Nyrsio neu Berthynol i Iechyd, efallai eich bod yn gymwys am fwrsariaeth lawn y GIG i ariannu’r cwrs hwn (Telerau ac Amodau’n Berthnasol)

Cyllid israddedig Cyllid y GIG
Matt

“Mae astudio ar gyfer fy ngradd yma ym Mhrifysgol Wrecsam wedi bod yn un o ddewisiadau gorau fy mywyd.”

Matthew Ffisiotherapi
female student on laptop

O Banig Munud Olaf i’r Radd Ddelfrydol: Fy Nhaith i drwy’r broses Glirio

Gall y broses Glirio deimlo’n llethol, ond nid ydych ar eich pen eich hun. Darllenwch flog Maham i ddysgu sut y bu iddi wneud ei phenderfyniad, sut oedd y broses mewn gwirionedd, a sut y daeth hi o hyd i’r llwybr cywir.

Darllenwch Flog Maham
International Student on a laptop

Myfyrwyr Rhyngwladol: Mae Eich Taith Prifysgol Wrecsam yn Dechrau Yma

Ystyried astudio yn y DU fel myfyriwr rhyngwladol? O ddewis eich cwrs a deall gofynion mynediad, i fisas, ffioedd a gwneud eich hun yn gartrefol, rydym yn trafod popeth sydd angen ichi ei wybod i wneud eich taith mor ddidrafferth â phosibl.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Cwestiynau am y broses Glirio?

Mae ein tîm Derbyniadau arbenigol wedi llunio atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am y broses Glirio, gan eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir a gwneud penderfyniad cadarnhaol sy’n addas i'ch llwybr chi.

Atebwyd Eich Cwestiynau Clirio

Sgwrsiwch â’n Tîm Clirio

Mae llinell gymorth ein proses Glirio ar agor Llun i Gwener, 9yb tan 5yp. 

Diwrnodau Agored sydd ar ddod.

Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.

Porwch ein holl ddiwrnodau agored a digwyddiadau.

15 Awst 2025

Israddedig
Archebwch Nawr

20 Medi 2025

Israddedig
Archebwch Nawr