(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Fywyd Gwyllt Prydain
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
12 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd ein hecolegwyr ac arbenigwyr cadwraeth yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth ac ystod y mamaliaid, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid sy’n byw ym Mhrydain. Cewch ddysgu pam fod gan Brydain yr ystod o rywogaethau sydd ganddi a dod i ddeall sut mae hyn wedi newid dros amser yn sgil cyflwyno nifer o rywogaethau newydd ac eraill yn marw.
Prif nodweddion y cwrs
Bydd ein hecolegwyr ac arbenigwyr cadwraeth yn eich cyflwyno chi i amrywiaeth ac ystod y mamaliaid, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid sy'n byw ym Mhrydain. Byddwch yn dysgu pam fod gan Brydain yr ystod o rywogaethau sydd ganddi a dod i ddeall sut mae hyn wedi newid dros amser gyda nifer o rywogaethau yn cael eu cyflwyno ac eraill yn cael eu colli. Canfyddwch ddosbarthiad ac ecoleg y rhywogaethau hyn a dysgwch y nodweddion ac arwyddion a fydd yn eich helpu chi i'w hadnabod yn eu cynefin.
Cewch eich arwain ar daith rithwir o'r ardal leol i weld amrywiaeth o rywogaethau prin a rhywogaethau sydd mewn perygl. Byddwch yn canfod pa rywogaethau sy'n byw yng nghaeau, gwrychoedd a choetiroedd y rhanbarth, gan gynnwys pathewod, gwiwerod coch a moch daear. Yn ogystal, cewch ddysgu am y twyni tywod, sydd ag arwyddocâd rhyngwladol, ar hyd arfordir gogledd Cymru a dysgu am fadfallod cyffredin a madfallod y twyni, môr-wenoliaid bach a llyffantod cefnfelyn.
Cewch ddysgu gyda hyfforddwyr cymwys a phrofiadol:
- Denise Yorke MSc BSc (Anrh) FHEA MCIEEM, Uwch Ddarlithydd ac Ymgynghorydd Ecolegol
- Liam Blazey BSc (Anrh) Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych
Beth fyddwch chin ei astudio
- Ecoleg ystod o famaliaid, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid ym Mhrydain - dosraniad, gofynion cynefin, diet, ymddygiad, nodweddion corfforol/biolegol.
- Ecoleg amrywiaeth o blanhigion a choed ym Mhrydain - dosraniad, gofynion cynefin.
- Arwyddion cae: tyllau, geudai, baw, gorsafoedd bwydo, printiau, olion, samplau gwallt, galwadau, gweithgareddau.
- Rhywogaethau brodorol ac anfrodorol, Adnabod fflora a ffawna, Defnyddio allweddi adnabod.
- Defnyddio termau a diffiniadau ecolegol allweddol sylfaenol gan gynnwys brodorol, rhywogaeth, poblogaeth, cymuned.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Addysgu ac Asesu
- Cwestiynau amlddewis - a fydd yn cynnwys cwestiynau ynglŷn ag ecoleg fflora a ffawna. Efallai bydd hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, arwyddion yn y caeau, diet, ymddygiad, gofynion eu cynefin, nodweddion (corfforol ac ymddygiadol) a dosraniad (gan gynnwys ffactorau dylanwadu).
- Arholiad ymarferol ar-lein - bydd myfyrwyr yn adnabod ystod o rywogaethau fflora a ffawna o arwyddion yn y caeau ac o sbesimenau.
Ffioedd a chyllid
£95
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher 8 Ionawr 2025 - Archebwch Nawr
Mae dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn annibynnol bob wythnos yn eu hamser eu hunain.
Bydd y sesiynau pedwar ar-lein yn rhedeg:
- Dydd Mercher 8 Ionawr - 6yh-8yh Microsoft Teams
- Dydd Mercher 19 Chwefror - 6yh-8yh Microsoft Teams
- Dydd Mercher 5 Mawrth - 6yh-8yh Microsoft Teams
- Dydd Mercher 26 Mawrth - 6yh-8yh Microsoft Teams