Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

8 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi'n barod i ar flaen y gad o ran newid sefydliadol? Ein cwrs byr ym Mhrifysgol Wrecsam ar Reoli Newid a Newid Sefydliadol yw eich tocyn lwcus i feistroli trawsnewid. Ym myd busnes byrlymus heddiw, mae gwybod sut i reoli newid nid yn unig yn rhywbeth sy'n ddymunol i'w gael - ond mae'n arf hanfodol.


Dysgwch sut i lywio eich ffordd drwy newidiadau cymhleth, arwain gyda hyder a darparu'r offer i'ch sefydliad ffynnu mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus. Dywedwch hwyl fawr wrth arferion diwerth a helô wrth reoli newid dynamig, llawn effaith.

Prif nodweddion y cwrs

  • Rhwydweithio Cymheiriaid gyda Chydweithwyr Proffesiynol eraill: Cysylltu gyda chymuned fywiog o weithwyr proffesiynol o'r un meddylfryd. Rhannu profiadau, cyfnewid syniadau a meithrin perthnasoedd hirdymor sy'n gallu eich helpu i dyfu a llwyddo.
  • Dysgu ar y Cyd: Dewch yn rhan o amgylchedd dysgu cydweithredol lle mae cyfraniad pawb yn cyfrif. Ewch i'r afael â phroblemau'r byd go iawn gyda'ch gilydd, dysgwch oddi wrth safbwyntiau amrywiol a gwella eich sgiliau drwy wybodaeth a rennir.
  • Fforymau Deialogaidd Byw: Cymerwch ran mewn fforymau deinamig, rhyngweithiol lle gallwch ofyn cwestiynau, trafod syniadau a chael adborth yn syth. Bwriad y fforymau bywiog hyn yw gwneud dysgu yn hwyl ac yn apelgar, gan sicrhau eich bod yn cael mewnwelediadau ymarferol y gallwch chi eu rhoi ar waith yn syth.

Beth fyddwch chin ei astudio

Dechreuwch ar antur 8-wythnos ar-lein gan blymio i ganol byd Rheoli Newid a Newid Sefydliadol. Dyma gipolwg ar yr hyn fyddwch chi'n ei archwilio:


•    Cyflwyniad i Reoli Newid a Newid Sefydliadol: Sicrhau bod yr hanfodion sylfaenol gennych chi a'ch helpu i ddeall tirwedd rheoli newid.

•    Theorïau Newid a Sut Maent yn Llywio Ymarfer: Neidiwch dros eich clustiau i ganol theorïau newid a gweld sut maent yn berthnasol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.

•    Defnydd o’r Hunan fel Offeryn ar Gyfer Newid: Darganfyddwch sut mae eich ymddygiad a'ch gweithredoedd eich hun yn gallu gyrru newid yn effeithiol.

•    Egluro Ymddygiad a Gweithredoedd Unigol mewn Ymateb i Newid: Dysgwch sut i ddeall a rhagweld sut fydd pobl yn ymateb i newid.

•    Datblygu pecyn cymorth newid - Diagnosis: Sicrhewch fod gennych chi'r offer i roi diagnosis er mwyn asesu'r angen am newid.

•    Datblygu Pecyn Cymorth Newid - Gweithredu: Meistroli technegau ymarferol i roi newid ar waith yn llwyddiannus.

•    Arferion Rheoli Newid a Newid Sefydliadol: Archwilio'r fethodoleg a'r arferion gorau ar gyfer rheoli newid.

•    Gwerthuso Newid a'i Effaith ar Ganlyniadau Sefydliadol: Dysgwch sut i fesur llwyddiant mentrau newid a'u traweffaith ar eich sefydliad.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Amherthnasol - Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

 

Addysgu ac Asesu

Mae ein dull cyflawni hyblyg ac apelgar yn cynnwys:

•    1 x Darlith wedi'i Recordio yr Wythnos: Cewch fynediad at y rhain ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi a gallwch ailymweld â hwy unrhyw bryd rydych angen cael eich atgoffa ohonynt.

•    Deunyddiau Dysgu Cefnogol ar Moodle: Cewch wella eich dealltwriaeth gyda chynnwys wedi'i guradu, gan gynnwys sgyrsiau TED, canllawiau astudio a rhestr ddarllen wedi'i hargymell.

•    4 x Tiwtorial Anghydamseredig: Dysgwch yn eich amser eich hun gyda thiwtorialau sy'n cyd-fynd â'ch amserlen chi.

•    4 x Fforwm Deialogaidd 2 Awr: Cymerwch ran mewn trafodaethau bywiog i atgyfnerthu eich dysgu a chael atebion byw i'ch cwestiynau.

Portffolio - Log dysgu a Dyddlyfr

 

Ffioedd a chyllid

£195

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau Cwrs

Yn Ôl Y Galw: Anfonwch e-bost at enterprise@wrexham.ac.uk