Woman standing in front of whiteboard

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn cynnig dull strwythuredig i'ch cefnogi chi a'ch sefydliad i drawslinio’r heriau cyfredol o amgylchedd busnes sy’n newid yn gyflym lle mae gofyn i arweinwyr busnes gyfathrebu’n effeithiol i osgoi gwrthdaro a rheoli diwylliant sefydliadol ystwyth.

Prif nodweddion y cwrs

  • Astudio arlein.
  • Dysgwch sgiliau cyfathrebu busnes effeithiol i roi'r offer a'r technegau sydd eu hangen ar eich sefydliad i gyfathrebu'n fwy effeithiol â'u rhanddeiliaid allweddol.
  • Archwiliwch deallusrwydd emosiynol, siarad cyhoeddus, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu corfforaethol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:

  • Cyflwyniad i Busnes a Chyfathrebu
  • Y grefft o gydweithredu a gwaith tȋm: Ymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol
  • Cyfathrebu cyhoeddus a cyhymdeithasol: Siarad cyhoeddus, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu corfforaethol
  • Cyfathrebu ysgrifenedig a darllen rhwng y llinellau

Bydd ymrwymo i’r cwrs hwn yn golygu:

  • 16 awr o Ddygu wedi'u trefnu ac Oriau Dysgu. 
  • Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad

 

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad.  Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.

 

Ffioedd a chyllid

£45

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.