Ym Mhrifysgol Wrecsam, credwn fod prifysgol yn fwy na dim ond ennill gradd
Mae’n ymwneud â darganfod lleoliad, lle rydych yn teimlo eich bod yn derbyn cefnogaeth, yn cael eich gwerthfawrogi, a’ch annog i gyflawni eich potensial yn llawn, yn bersonol ac yn broffesiynol. P’un a ydyw drwy ein cymuned gynhwysol, ein cefnogaeth wych i fyfyrwyr, neu’r addysgu o safon uchel, rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i lwyddo.
“Mae astudio ar gyfer fy ngradd yma ym Mhrifysgol Wrecsam wedi bod yn un o ddewisiadau gorau fy mywyd.”
Matthew Ffisiotherapi
Cynhwysiant a Chefnogaeth
Am saith mlynedd yn olynol, rydym wedi’n gosod yn gyntaf yng Nghymru a Lloegr am Gynhwysiant Cymdeithasol (The Times a Sunday Times Good University Guide, 2025), gan sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo’n rhan o gymuned a bod ganddynt yr ymdeimlad o berthyn.
Rydym hefyd yn gydradd 2il yn y DU am ein Cefnogaeth i Fyfyrwyr (The Daily Mail University League Table, 2024) - pe baech angen arweiniad academaidd, cymorth iechyd meddwl, neu gyngor gyrfaol, rydym yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd.
Mae ein Hansawdd Addysgu wedi’n gosod ymysg y pum prifysgol uchaf yn y DU (The Times a’r Sunday Times Good University Guide, 2025).
Gyda darlithwyr arbenigol, cysylltiadau cryf â diwydiant, a chyfleoedd dysgu ymarferol, byddwch yn derbyn y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad i ddilyn eich nodau.
Cydweithio yw un o’n gwerthoedd craidd. Credwn fod perthyn yn cael ei feithrin drwy gysylltiadau cryf, o fewn ein prifysgol ac ar draws ein cymuned.
Mae ein partneriaethau gyda sefydliadau fel Clwb Pêl Droed Wrecsam, Tŷ Pawb, Cyngor Wrecsam a Choleg Cambria - sydd wedi eu cryfhau wrth arwyddo’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ddiweddar - yn sicrhau ein bod yn rhan weithredol o dwf a llwyddiant y rhanbarth, ac nid yn sefydliad yn unig.
Ymunwch â ni ar ddiwrnod agored sydd i ddod i gwrdd â'ch darlithwyr, darganfyddwch fwy am ein cyrsiau, darganfyddwch ein cyfleusterau a chael blas ar fywyd myfyriwr.
Dewch i gwrdd â Kangya i weld sut mae hi wedi cofleidio bywyd yng Nghymru wrth ddilyn ei hangerdd am nyrsio.
Mae’n rhannu’r hyn y mae’n ei garu am ei chwrs, y gefnogaeth a gafodd, a’r hyn sy’n gwneud i Wrecsam deimlo fel cartref.
Dewch i Ddarganfod ein Cyrsiau
Mae ein hystod eang o gyrsiau wedi’u cynllunio gyda’ch dyfodol chi mewn golwg, dysgu sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant i chi, a chynnig profiadau o’r byd go iawn. Mae gennym gwrs i chi fydd yn eich galluogi i gyrraedd eich nod!