decorative

Hygyrchedd

Darperir y Datganiad Hygyrchedd hwn gan Brifysgol Wrecsam (PW) ac mae’n berthnasol i’n llwyfan gwefan yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wrexham.ac.uk, sydd yw prif wefan corfforaethol Prifysgol Wrecsam a chaiff ei chynnal yn fewnol.

Ein nod yw sicrhau bod y wefan yn gwbl hygyrch ac ar gael at ddefnydd pob defnyddiwr, waeth beth yw eu gallu, ac rydym yn dilyn canllawiau WCAG2.2.

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymrwymo i sicrhau fod ei wefan yn hygyrch i'r gynulleidfa ehangaf posib, gan gynnwys defnyddwyr gydag anableddau.

Mae'r Brifysgol yn y broses o sicrhau fod ei dudalennau yn cydymffurfio â'r safonau AA o fersiwn o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (CHCW) a argymhellir gan W3C. Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod hyn yn waith rhagweledol a pharhaus ar ei hanner ac, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddiwr dan anfantais tra bod y gwaith yma'n mynd ymlaen, mae'r Brifysgol yn bwriadu ymateb i bob cais am gymorth gyda hygyrchedd unai drwy newid y cynnwys angenrheidiol cyn gynted a sy'n bosib, neu, os dymunwyd, drwy ddarparu'r wybodaeth mewn ffurf arall o fewn ffrâm amser rhesymol.

Bydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau rhesymol er mwyn sicrhau cyrraedd anghenion penodol unigol ni all newidiadau prif ffrwd eu gafael. Cysylltwch webeditor@glyndwr.ac.uk am gymorth â hyn.

Defnyddio’r wefan

Mae sawl nodwedd hygyrchedd ar y wefan, sy’n golygu y dylech chi fedru:

  • Newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • Llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd

Newid gosodiadau yn eich porwr

Newid maint testun

Drwy ddefnyddio gosodiadau eich porwr gallwch wneud y testun ar y gwefan hwn yn fwy neu'n llai.

Internet Explorer

  • Cliciwch "View" i agor y ddewislen "View" neu pwyswch "Alt" a "V"
  • Dewiswch yr opsiwn "Main Testun" neu dewiswch drwy bwyso "X"
  • Dewiswch eich main testun dewisol drwy ddefnyddio eich llygoden neu defnyddiwch y botymau saethau i fyny ac i lawr
  • Cliciwch i ddewis y maint testun neu pwyswch "Enter"
  • Dylai'r maint testun newid i adlewyrchu'ch dewis

Google Chrome

Newid Maint Testun o dudalennau gwe rydych yn edrych ar

  • Cliciwch y botwm sbaner "Addasu a Rheoli" yn y gornel dde ar y top (Alt + E)
  • Dewiswch y botymau Chwyddo + a - i newid y maint testun (Ctrl + + new Ctrl + -)

Firefox

Newid Maint Testun o dudalennau gwe rydych yn edrych ar

  • Agorwch y ddewislen "View" gyda'r llygoden (neu pwyswch Alt + V)
  • Dewiswch "Chwyddo" ac yna defnyddio'r opsiynau Chwyddo i mewn (Ctrl + +) a Chwyddo allan (Ctrl + -) i newid y maint testun

Gallwch ddewis yr opsiwn "Chwyddo main testun yn unig" i dim ond newid maint y testun heb newid unrhyw elfen arall ar y dudalen

Safari

  • Cliciwch "View" i agor y ddewislen "View"
  • Cliciwch ar "Gwneud Testun yn Fwy" neu "Gwneud Testun yn Llai" neu i ddefnyddio llwybrau byr yr allweddell dewisiwch
  • "Apple" a "+" (plws) neu "Apple" a "-" (minws)
  • Dylai'r main testun ar ein gwefan newid i adlewyrchu'ch dewis

Bar offer hygyrchedd

I wella'ch profiad ar ein gwefan, gallwch hefyd ddefnyddio ein bar offer hygyrchedd (wedi'i darparu gan Recite Me) i newid sut mae ein gwefan yn arddangos. Mae'r bar offer yma'n rhoi llawer o opsiynau gan gynnwys:

  • Newid maint testun a ffontiau
  • Dewis lliwiau cefndir a blaendir gwahanol
  • Cyfieithu o destun i mewn i fwy na 100 o ieithoedd
  • Nodweddion testun-i-siarad

I gyrchu'r bar offer cliciwch y linc "Hygyrchedd" ar ben unrhyw dudalen wrth ymyl y bar chwilio. Bydd y bar offer yn ymddangos ar ben y dudalen. Bydd unrhyw newid ydych yn gwneud yn aros tra rydych yn llywio drwy'r wefan. Nodwch, dim ond ar dudalennau wedi'u cynnwys o fewn www.wrexham.ac.uk bydd y bar offer yn gweithio.

Newid lliwiau

Mae'r wefan hon yn defnyddio Dolenni Diwyg Raeadrol (CSS) i nodi'r steil. Os oes gennych drafferthion yn darllen y testun ar ein gwefan mae'n bosib newid lliwiau'r testun a chefndir drwy addasu gosodiadau'r porwr

Nodweddion hygyrchedd Firefox

Nodweddion hygyrchedd Chrome

Nodweddion hygyrchedd Internet Explorer

Darganfyddwch mwy am sut i newid maint testun a lliwiau.

Technolegau Cynorthwyol Mewnol

Er mwyn gwella eich profiad ar ein gwefan, gallwch hefyd ddefnyddio ein bar offer hygyrchedd (a ddarperir gan Recite Me) i newid sut mae ein gwefan yn cael ei harddangos. Mae’r bar offer yma yn cynnig sawl opsiwn gan gynnwys:

  • Newid maint testun a ffontiau
  • Dethol lliwiau amgen ar gyfer y cefndir a’r blaendir
  • Cyfieithu testun i dros 100 o ieithoedd
  • Swyddogaeth testun-i-lais.

I ddefnyddio’r bar offer, cliciwch ar y ddolen ‘Hygyrchedd’ ar frig unrhyw dudalen ger yr offeryn bar chwilio. Bydd y bar offer yn ymddangos ar frig y dudalen. Bydd unrhyw newidiadau a wnewch yn aros yn eu lle wrth ichi lywio drwy’r wefan. Noder, mae’r bar offer yma ar gael dim ond ar gyfer tudalennau sydd wedi eu cynnwys ar wrexham.ac.uk.

Adborth a gwybodaeth cyswllt

Os bydd angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch chi mewn fformat gwahanol, ac nad ydych chi wedi gallu lawrlwytho hyn gan ddefnyddio’r offeryn Blackboard Ally, danfonwch e-bost at: webeditor@glyndwr.ac.uk

Fe wnawn ni gyfeirio eich neges at yr aelod staff priodol a fydd yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym wedi bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: webeditor@glyndwr.ac.uk

Bydd eich neges yn cael ei chyfeirio at y tîm perthnasol a fydd yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwasanaeth technegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymroi i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio gyda’r rheoliadau hygyrchedd
Delweddau heb ddisgrifiad

Nid oes gan rai delweddau ddewis amgen sydd yn destun, felly nid all pobl sydd yn defnyddio darllenwr sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Nid yw hyn felly yn cwrdd â meini prawf llwyddiant 1.11 WCAG 2.1 (cynnwys di-destun). Ein nod yw bod yr holl gynnwys a ychwanegir ar ôl Medi 17, 2020 (dyddiad yr adolygiad mawr diweddaraf i’n gwefan) yn cynnwys testun ‘amgen’ ar gyfer pob delwedd.

Dolenni heb bwrpas ystyrlon

Nid yw rhai o’r dolenni wedi eu labelu’n eglur. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn gwneud synnwyr o’u cymryd allan o’u cyd-destun, ac yn achos rhai dolenni, nid yw’n bosib gwybod beth yw pwrpas y ddolen. Mae hyn yn fethiant o ran WCAG: 1.4.4 (pwrpas dolen mewn cyd-destun). Byddwn yn cywiro testun dolenni tros amser, wrth adolygu pob tudalen.

Nodweddion rheoli fideo

Nid oes gan rai fideos ar ein gwefan y nodweddion pennawd gofynnol na thrawsgrifiadau (WCAG: 1.2.2, 1.2.4). Yn unol â’r rheoliadau, bydd pob cynnwys newydd sy’n cael ei greu wedi Medi 2020 yn fwy hygyrch.

Problemau gyda chynnwys mewn dogfennau, e.e. PowerPoint, Word a PDF

Mae’n bosib nad yw rhai dogfennau PowerPoint, Word a PDF sydd yn hanfodol o ran y dysgu, addysgu ac asesu, yn cwrdd â safonau hygyrchedd, er enghraifft, mae’n bosib nad ydynt wedi eu paratoi i fod yn hygyrch ar gyfer darllenydd sgrin.

Byddwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn drwy gyfuniad o ddarparu gwell canllawiau, hyfforddi staff a darparu templedi ar gyfer dogfennau hygyrch (e.e. templed llawlyfr modiwl hygyrch ar ffurf Word, templed ar gyfer sleid PowerPoint hygyrch), defnyddio Blackboard Ally i ysgogi gwelliant mewn hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn ystod y rheoliadau hygyrchedd

Mae’r adran hon yn rhoi sylw i faterion nad oes angen inni eu datrys ar hyn o bryd. Mae’r gyfraith yn galw’r rhain yn esemptiadau.

Fformatau Dogfen Gludadwy (PDF) a dogfennau

Cyhoeddwyd rhai o’n ffeiliau PDF nad ydynt yn hanfodol o ran darparu ein gwasanaethau cyn Medi 23, 2018. Rydym yn rhoi strategaethau ar waith i sicrhau y bydd unrhyw PDF neu ddogfennau newydd a gyhoeddwn yn cwrdd â safonau hygyrchedd.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd cael mynediad at y dogfennau hyn, mae modd defnyddio offeryn Recite Me i lawrlwytho fformat amgen. Neu fel arall, fe wnawn ni ymateb i unrhyw faterion penodol ar gais.

Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod wrexham.ac.ukac unrhyw gynnwys newydd sy’n cael ei greu ynddo a’i uwchlwytho iddo, mor hygyrch â phosib i’r dyfodol.

Cynnwys gan drydydd parti

Mae cynnwys gan drydydd parti ar ein gwefan. Nid oes gennym reolaeth dros y cynnwys yma ac nid ydym yn gyfrifol am ei hygyrchedd, ond fe wnawn ein gorau i weithio gyda’r trydydd parti i wella eu hygyrchedd. Gall hyn gynnwys:

  • Dolenni i wefannau nad ydynt yn rai PGW
  • Cynnwys/ymarferoldeb ar ein gwefan
  • Cynnwys a letyir ar wefannau eraill, megis ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol

Mae Prifysgol Wrecsam wedi gallu defnyddio searchBOX, sef cyfeiriadur canolog ac annibynnol o wybodaeth ynghylch hygyrchedd trydydd parti i helpu cydymffurfio â hygyrchedd ar draws y sector. Mae searchBOX yn rhestru gwybodaeth cyswllt a datganiadau hygyrchedd cyflwnwyr trydydd parti, yn galluogi rhannu datganiadau hygyrchedd a gynhyrchir gan y gymuned, ac yn galluogi defnyddwyr i fapio ecosystem eu cyflenwyr.

Gall defnyddwyr gael mynediad at ddatganiadau hygyrchedd trydydd parti gan ddefnyddio gwasanaeth rhad ac am ddim searchBOX Finder.

Bydd Prifysgol Wrecsam yn annog ein holl bartneriaid a chyflenwyr i gefnogi’r ymdrech hon drwy sicrhau bod eu gwybodaeth ynghylch hygyrchedd wedi ei chynnwys yng nghyfeiriadur searchBOX.

Sgwrsio Byw

Ar ôl cychwyn y Sgwrsio Byw, mae tabio yn mynd â chi i frig y dudalen yn hytrach na’r ffenestr sgwrsio. Hefyd, nid yw’r arddulliau mewnol gorfodol yn caniatáu i’r defnyddiwr addasu uchder y llinell. Mae'r materion hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ac mae meddalwedd sgwrsio byw yn cael ei adolygu.

Yr hyn rdym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae gan Prifysgol Wrecsam weithgor hygyrchedd sydd yn cwrdd yn rheolaidd i weithio ar sut gall y Brifysgol ddiwallu ei rhwymedigaethau mewn perthynas â’r rheoliadau hygyrchedd newydd ar gyfer holl ddarpariaeth ddigidol y Brifysgol.

Rydym wedi darparu cyfleodd hyfforddi ac adnoddau ar gyfer aelodau staff ar sut i wella hygyrchedd cynnwys digidol ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu.

Rydym wedi ychwanegu offeryn i’r wefan, sef Recite Me, ac rydym yn gwirio unrhyw PDF cyn ei uwchlwytho i’n gwefan drwy feddalwedd Blackboard Ally i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio. Rydym ni hefyd yn defnyddio’r feddalwedd honno’n wythnosol i’n cynorthwyo i adnabod unrhyw faterion hygyrchedd ac yn gweithio’n rheolaidd i’w datrys.

Newid Log

Mater wedi'i Sefydlog - 15/08/2022: Pennawd a gwe-lywio - rydym ni wedi adnabod problem gyda’n dewislen gwe-lywio, sef bod rhai dewisiadau ar y ddewislen yn derbyn ffocws bysellfwrdd ddwywaith. Mae rhai elfennau yn ffocysu pan nad ydynt i’w gweld. Felly, mae’n bosib na fydd rhai elfennau yn dangos arwyddiant ffocws effeithiol bob tro (WCAG: 2.4.7).

Materion Sefydlog - 26/01/2024: Rydym wedi newid darparwr sgwrsio byw i fynd i'r afael â'r mater canlynol: Ar ôl i sgwrs cael ei actifadu, mae tabio yn mynd â chi i frig y dudalen yn hytrach na'r ffenestr sgwrsio. Hefyd, nid yw'r defnyddiwr yn gallu addasu uchder llinell oherwydd arddulliau mewn-lein gorfodol. 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd rhan o’r datganiad hwn ar 22ain Medi 2020. Fe’i hadolygwyd a’i diweddaru’n ddiweddarach ar Tachwedd 25, 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf gyda thechnolegau cynorthwyol ar Tachwedd 25, 2022, gan aelodau staff Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Y tro diwethaf inni ddefnyddio’r adroddiad sefydliadol sydd ar gael drwy Blackboard Ally oedd Tachwedd 25, 2022.