Two students in class

Croseo i Brifysgol Wrecsam

Mae yna lawer o resymau dros ddewis Prifysgol Wrecsam fel eich prifysgol.

O'n hawyrgylch cymunedol, i'n haddysgu seiliedig ar ymarfer a chefnogaeth bersonol, rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynnes a chroesawgar lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi. Adlewyrchir yr ymrwymiad hwn yn ein safleoedd gan ein bod yn 1af yng Nghymru ac yn ail yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgol Cyflawn, 2025).

Education studies student

Eich dyfodol

Mae ein gwasanaethau cymorth pwrpasol wedi'u cynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau, a'ch profiadau yn y byd go iawn, gan eich paratoi ar gyfer ein graddau sy'n canolbwyntio ar yrfa a'n bywyd ar ôl graddio. 

Treuliau Teithio

Mae dewis ble i fynd i'r brifysgol yn benderfyniad mawr, felly beth am ddod i brofi Wrecsam drosoch eich hun? Rydym yn cynnig hyd at £50 y pen i fyfyrwyr o’r Iwerddon i helpu gyda'ch costau teithio. 

World Heritage Site, Pontcysyllte aqueduct

Eich cartref oddi cartref

Wedi’i leoli yng nghanol ein campws, a gyda 25% oddi ar ffioedd llety myfyrwyr sy’n dod o Ogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon, mae ein Pentref Myfyrwyr yn ffit perffaith.

Students in the city center

Cynhwysol a chroesawgar

Rydym yn dathlu gwahaniaethau ac yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir neu hunaniaeth, yn teimlo eu bod yn cael eu parchu. Dyma pam ein bod yn safle 1af yng Nghymru a Lloegr am Gynhwysiant Cymdeithasol am y 7fed flwyddyn yn olynol yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times, 2025

A group of students working in The Study

Clwych gan ein myfyrwyr

"Rydych chi'n cael eich cefnogi bob cam o'r ffordd, o ddechrau eich cwrs i'r diwrnod olaf un, mae rhywun yno bob amser i helpu." - Chelsea McClure, myfyriwr o Gogledd Iwerddon. 

Content Accordions