
Gyrfaeoedd
HOLWCH... am Yrfaoedd a Chyflogadwyedd
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig arbenigedd, adnoddau a chyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a graddedigion sydd ar gael 24/7 drwy HOLWCH: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Mae ein holl gyrsiau yn llawn dop o gyfleoedd i ennill profiad ymarferol yn eich maes astudio. Ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yw'r porth at gyngor ac arweiniad ynghylch gyrfaoedd, a chysylltiad uniongyrchol at Ymgynghorwyr Gyrfaoedd Addysg Uwch cymwys ac arbenigwyr cyflogadwyedd Addysg Uwch.
Rydym yn cynnig cymorth wrth gynllunio gyrfa, cyfleoedd gwaith a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol, ysgrifennu CVs, datganiadau personol a cheisiadau am swydd. Fel y cartref ar gyfer addysg gyrfaoedd, gallwch ddod o hyd i offer addysg gyrfaoedd hunan gyfarwyddyd ac adnoddau dysgu i ddatblygu sgiliau a hyder, gan gynnwys cymorth graddedig a chyflogadwyedd targedig wedi’i ariannu gan CCAUC. Mae HOLWCH: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn broffil personol ar gyfer pob cam o'ch taith yrfaol, ar ôl i chi raddio.
Nid yw ein cymorth yn dod i ben ar ôl i chi raddio o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Rydym yn parhau i weithio gyda chi am oes wrth i chi gymryd eich camau nesaf ym myd gwaith neu astudiaeth bellach.
Gweithio gyda chyflogwyr i hysbysebu eu swyddi gwag a chyfleoedd, a'u helpu nhw i gysylltu â gweithlu brwdfrydig yn llawn myfyrwyr a graddedigion. Mae modd i gyflogwyr gysylltu â ni drwy HOLWCH: Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Gweler ein Polisi Gyrfaoedd Moesegol.
Yn gysylltiedig â CHYMDEITHAS Y GWASANAETHAU CYNGOR AR YRFAOEDD I RADDEDIGION (AGCAS) sy'n hyrwyddo addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, er budd y cyhoedd, sy'n cefnogi myfyrwyr a graddedigion addysg uwch i wneud newidiadau gwybodus a chyflawni eu gallu proffesiynol a gyrfaol. Rydym yn gweithredu o fewn/yn unol â Chod Moeseg a Safon Ansawdd Aelodaeth AGCAS.

Cyflogadwyedd wrth ei galon
Mae ein Fframwaith Graddedigion Glyndŵr wedi’i wreiddio yn ein cyrsiau i helpu myfyrwyr i ddatblygu’r agweddau, y priodoleddau a’r sgiliau i gyflawni eu dyheadau gyrfa a’u potensial proffesiynol.
