Cartref newydd yn Llaneurgain i ieir a achubwyd rhag y lladd-dy
Mae nythaid o ieir cyn-fasnachol a fyddai fel arall wedi mynd i’r lladd-dy wedi cael cartref newydd – ar gampws y brifysgol yn Llaneurgain.
Cafodd y pum dderyn, a dreuliodd 16 mis cyntaf eu bywydau mewn caets, eu symud i gowper pwrpasol ar gampws y brifysgol yn Sir y Fflint. Mae myfyrwyr ar gyrsiau seiliedig ar dir – o dan arweiniad darlithwyr cwrs BSc Anrh Gwyddor Ymddygiad Anifeiliaid, Lles a Chadwraeth – yn cynnwys Arweinydd Rhaglen Angela Winstanley.
Meddai: “Mae wedi bod yn hyfryd croesawu’r ieir i’r campws ac i’w gweld yn setlo mewn, teimlo’r gwair o dan eu traed a gweld yr awyr am y tro cyntaf.
“Rydym yn dechrau sylwi ar newid yn eu hymddygiad yn barod, wrth iddyn nhw ymaddasu at eu hamgylchoedd, ac maen nhw’n boblogaidd iawn gyda’n myfyrwyr sydd â rota gwirfoddolwyr i helpu bwydo a gofalu am y trigolion newydd.”
Ymysg y myfyrwyr sydd yn helpu gofalu am yr ieir yw Elise Mattingley, o’r Barri, Catherine Alice Rees, o’r Trallwng, a Megan Williams, o De Sir Efrog.
Meddai Catherine: “Pan wnaethon nhw gyrraedd, roedd ganddyn nhw lawer o blu ar goll oherwydd sut cafon nhw eu cadw – rydyn ni eisiau gweld nhw’n tyfu’r plu hynny’n ôl tra rydyn nhw yma gyda ni ar y campws.”
Ychwanegodd Elise: “Dw i’n meddwl ein bod ni gyd wedi’n cyffroi i weld yr ieir ar y campws – mae wedi bod yn wych i’w gweld yn setlo mewn. Rydyn ni’n gobeithio cael cacennau pan mae eu plu’n tyfu’n ôl!”
Meddai Megan: “Rydyn ni’n dechrau gweld y gwahaniaethau yn ymddygiad pob aderyn a’r ffordd maen nhw’n rhyngweithio rŵan. Rydych chi’n dysgu lot mewn darlithoedd – ond gallwch hefyd dysgu lot trwy weld yr ieir a’u gwylio o ddydd i ddydd.”
Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu’r adar gyda chymorth elusen o Sir yr Amwythig, Red Hen Rehoming. Cwrddodd Angela â gwirfoddolwyr yn un o’u canolfannau yn Wem, ger yr Amwythig, i gasglu’r ieir cyn eu cymryd i’w cartref newydd yn Llaneurgain.
Ychwanegodd Angela: “Rydym yn blês iawn i gael cynnig cartref gofalgar i’r adar hyn gyda chymorth Red Hen Rehoming.
“Bydd gweld yr ieir yn trawsnewid wrth iddyn nhw aildyfu plu ac adennill y lliw yn eu cribau’n helpu hybu lles ein myfyrwyr hefyd – mae’n werthfawr iawn i ofalu am yr adar ac mi all y myfyrwyr dysgu mwy am ymddygiad a lles anifeiliaid trwy ryngweithio uniongyrchol.
“Hoffwn ddiolch i Red Hen Rehoming am eu cymorth a’r gwaith maen nhw’n ei gneud yn ailgartefi ieir – ac rydym yn edrych ymlaen at wneud ein ffrindiau newydd deimlo’n gartrefol iawn ar y campws.”