Cyfle Tendro newydd ar gyfer dylunio ac adeiladu'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter

EEOC Artist Impression

Date: 14/03/2023

Mae prosiect Canolfan Peirianneg ac Opteg Menter wedi cyhoeddi cyfle tendro newydd gwerth £8.35 miliwn i ddylunio ac adeiladu'r ganolfan newydd a fydd yn cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio.

Mae prosiect Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn gwahodd busnesau i gyflwyno ceisiadau i ddylunio ac adeiladu'r adeilad newydd ar safle Plas Coch, gan gynnwys gosod cyfleuster cymhwyso hydrogen a phaneli ffotofoltaidd ynni adnewyddadwy.

Nod y prosiect yw cefnogi busnesau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth i ddatgarboneiddio drwy archwilio'r defnydd integredig o opteg, ffotoneg a chyfansoddion fel atebion amgen, ysgafnach eu pwysau ar draws yr holl arbenigeddau gweithgynhyrchu.

Pan fydd yn weithredol, gall busnesau ddefnyddio'r cyfleusterau i brofi deunyddiau o fewn amgylchedd dan reolaeth, gan ddarparu cynhyrchion a systemau mwy effeithlon sydd angen llai o ynni, a fydd yn lleihau costau ac allyriadau carbon. Yn ogystal, bydd y prosiect yn creu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant lleol ac yn denu buddsoddiad.

Mae Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau yn Uchelgais Gogledd Cymru, yn falch iawn o weld cynnydd y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter: "Does dim dwywaith y bydd y prosiect yn sbarduno datblygiad cynnyrch mewn technolegau carbon isel, sy'n hanfodol i lwyddiant busnesau rhanbarthol yn y dyfodol. Rydym yn awyddus bod gan fusnesau yn y rhanbarth y sgiliau a'r gallu i ymateb i gyfleoedd datgarboneiddio yn y sector gweithgynhyrchu. "

"Fel gyda holl fuddsoddiadau'r Fargen Twf, mae'r prosiect yn dymuno ceisiadau tendro sy'n dangos gwerth cymdeithasol i'r rhanbarth a sut y byddant yn helpu i gyrraedd ein targedau bioamrywiaeth a lleihau allyriadau. Felly rydyn ni'n chwilio am fusnesau fydd yn creu gwerth i ogledd Cymru ac yn effeithio'r rhanbarth i gyd yn gadarnhaol".

Mae Aulay Mackenzie, Dirprwy Is-Ganghellor Dros Dro ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, wedi atgyfnerthu sut y hoffai i fusnesau lleol gymryd y cyfle hwn.

"Gan adeiladu ar arbenigedd a chysylltiadau strategol sydd eisoes yn bodoli yn y Brifysgol, bydd y Ganolfan newydd a darpariaeth offer blaengar yn galluogi ehangu ein gallu ymchwil i gefnogi busnesau gweithgynhyrchu lleol o bob math i ddiwallu'r angen dybryd i fod yn fwy effeithlon a lleihau allyriadau carbon.''

Gall busnesau sydd â diddordeb mewn tendro ar gyfer y cyfle hwn lawrlwytho'r pecyn tendro llawn drwy ymweld â Sell2Wales ar y ddolen yma.

Y nod yw dechrau adeiladu’r prosiect yn Chwefror 2024, ac amcangyfrif y bydd yr adeilad yn agor yn 2025.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk 

Nodwch mai argraff arlunydd yw'r llun ar y dudalen hon.