Gŵyl y Gelli yn lansio Taith Sgriblwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam
Date: 9 Tachwedd 2023
Cafodd disgyblion o ysgolion ledled Cymru gyfle i fod yn greadigol wrth i Ŵyl y Gelli ddechrau ar ei thaith Sgriblwyr ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae Gŵyl y Gelli yn elusen annibynnol sy’n cael ei harwain gan genhadaeth. Mae’n cynnal rhaglenni allgymorth ac addysgol am ddim i ddathlu llenyddiaeth a’r celfyddydau. Nod Taith y Sgriblwyr yw sbarduno’r genhedlaeth nesaf o storïwyr ac awduron yng Nghymru.
Y tro hwn, roedd yr ŵyl yn cynnwys cyfres o weithdai creadigol dan arweiniad gwahanol aelodau o’r tîm, drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, ac mae’n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r digwyddiad, a gafodd lwyddiannau enfawr yn gynharach yn y flwyddyn, yn ôl ledled Cymru ym mis Tachwedd eleni, ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 i 9. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Wrecsam, wedi croesawu bron i 100 o ddisgyblion o Ysgol Maes Garmon, Ysgol Llanfyllin, Ysgol Morgan Llwyd ac Ysgol Godre’r Berwyn.
Roedd y myfyrwyr yn gallu rhannu syniadau fel rhan o’r broses greadigol.
Roedd gweithdy cyntaf y diwrnod yn galluogi myfyrwyr i wynebu eu hofnau a chreu eu straeon ysbrydion eu hunain. Dan arweiniad Nia Morais, awdur a dramodydd o Gaerdydd, cychwynnodd y disgyblion y sesiwn drwy rannu straeon arswyd roedden nhw wedi’u clywed o’r blaen, a’r cymeriad a oedd yn eu dychryn fwyaf. Ar ôl trafod eu syniadau, rhoddwyd rhwydd hynt i’r disgyblion ysgrifennu eu stori fwyaf brawychus.
Nia Morais yn cyflwyno’r sesiwn ysgrifennu creadigol.
Dywedodd Nia: “Rydym yn ceisio rhoi’r hyder i ddisgyblion ysgrifennu’n greadigol, yn annibynnol, a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Rydym am iddynt sylweddoli nad yw barddoniaeth a llenyddiaeth yn cael eu cyfyngu i'r ystafell ddosbarth yn unig."
Cynhaliodd Casi Wyn, y gantores, yr awdur a’r cyfansoddwr, y sesiwn nesaf, a oedd yn galluogi myfyrwyr i archwilio eu sgiliau cerddorol a barddonol. Gan arwain gyda thema newid hinsawdd, gwahoddwyd y disgyblion i rannu pa artistiaid a chaneuon oedd yn taro tant gyda nhw a chael ysbrydoliaeth gan yr artistiaid hyn i fynd ati i greu eu geiriau eu hunain.
Casi Wyn yn arwain ail sesiwn y diwrnod.
Yn dilyn y sesiwn, dywedodd Casi: “Wrecsam yw win stop cyntaf ar daith Sgriblwyr ac mae wedi bod yn bleser pur cael cydweithio â lleisiau lleol o’r rhan arbennig hon o Gymru.”
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy'n falch bod y Sgriblwyr Cymraeg yn ehangu eleni diolch i dros £20,000 o gefnogaeth Llywodraeth Cymru, gan roi cyfle i fwy o bobl ifanc ddarganfod angerdd am ddarllen, ysgrifennu ac adrodd straeon. Mae’r Sgriblwyr Cymraeg yn gyfle gwych i ddefnyddio'r Gymraeg yn greadigol, a bydd y sesiynau hyn yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf, gan ein helpu i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”
Daeth Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu’r Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam, â’r diwrnod i ben gyda sgwrs ar astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a pham y gallai disgyblion ddymuno aros yng Nghymru i barhau â’u hastudiaethau.
Dywedodd “Mae Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli o amgylch Cymru yn gyfle i ddisgyblion ysgol fynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg ar lwyfan creadigol a thrwy ysgrifennu.
"Mae Prifysgol Wrecsam yn hynod falch o allu cynnal y digwyddiad unigryw hwn eleni ar gampws y brifysgol a chroesawu ysgolion o'r ardal leol.
“Mae’r Gymraeg yn parhau i chwarae rhan annatod yn ein gwerthoedd yn Wrecsam, gyda mwy o gyfleoedd nag erioed i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae digwyddiadau fel y Daith Sgriblwyr yn ein galluogi i sbarduno newid yn y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.”
Ariannwyd y digwyddiad hwn gan Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru.