Llofnodi trawst i ddathlu carreg filltir yn hanes Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter Prifysgol Wrecsam

Date: Dydd Mawrth, Mai 28, 2024

Mewn seremoni llofnodi trawst, dathlwyd y cam nesaf yn natblygiad Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter Prifysgol Wrecsam.

Daeth cydweithwyr o’r Brifysgol, Cwmni Adeiladu Wynne ac Uchelgais Gogledd Cymru ynghyd i lofnodi eu henwau ar y trawst dur sy’n rhan o adeiledd yr adeilad newydd.

Mae datblygu’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn brosiect arloesol a bydd yn arwain at greu canolfan arbenigol ar gyfer ymchwil a datblygu, cydweithredu busnes a meithrin sgiliau yn y meysydd opteg, ffotoneg a chyfansoddiau fel dewisiadau amgen ysgafnach ar gyfer gweithgynhyrchu, gan gynorthwyo busnesau gweithgynhyrchu yn y rhanbarth i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Dechreuwyd adeiladu’r Ganolfan ym mis Chwefror ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda.

Yn ôl yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Profiad gwych oedd cynnal seremoni ar gyfer llofnodi’r trawst i ddathlu’r garreg filltir hon yn hanes y prosiect. Mae’n anhygoel meddwl y bydd llofnodion pawb yma cyhyd ag y bydd yr adeilad yn para.

“Rydym yn eithriadol o fodlon gyda’r modd y mae’r gwaith adeiladu’n mynd yn ei flaen. Gan fod y fframwaith wedi’i adeiladu erbyn hyn, mae pawb yn gallu gweld bod yr adeilad yn prysur ddatblygu.

“Pan fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau a phan fydd y Ganolfan ar waith, bydd yn siŵr o gael effaith gadarnhaol iawn ar ein heconomi leol. Bydd modd i fusnesau ac ymchwilwyr y rhanbarth, yn ogystal â’n myfyrwyr a’n staff ni yn y Brifysgol, elwa ar ymchwil arloesol, cydweithredu busnes a chyfleoedd i feithrin sgiliau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddiau fel dewisiadau amgen ysgafnach ar gyfer gweithgynhyrchu.

“Wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, hoffwn ddiolch i Gwmni Adeiladu Wynne am ei holl waith caled, a hefyd i’n partneriaid o Fargen Dwf Gogledd Cymru – oherwydd ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb eu buddsoddiad.”

Yn ôl y Cynghorydd Mark Pritchard, Is-gadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Anrhydedd oedd cael bod yn rhan o’r seremoni lofnodi oherwydd mae’r adeilad trawsnewidiol hwn yn dod yn fyw erbyn hyn. Y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yw prosiect adeiladu cyntaf y Fargen Dwf, felly mae pob cam o’r datblygiad hwn yn garreg filltir enfawr. Mae’n adeilad carbon isel a natur-bositif ac mae’n brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.”

Yn yr holl waith buddsoddi a wneir ar y campysau trwy gyfrwng y Strategaeth CAMPWS 2025, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau ei heffaith amgylcheddol – ac mae’r tîm dylunio wedi gweithio’n galed i ddewis deunyddiau a fydd yn sicrhau hynny.

Er mwyn lleihau effaith garbon y ffrâm i’r graddau mwyaf posibl, gweithiodd tîm y prosiect yn agos gyda thîm Steel 4 Structures Limited ym Mwcle er mwyn dod o hyd i ddur carbon isel i’w ddefnyddio ar y safle. Caiff y dur ei wneud trwy ddefnyddio dur wedi’i ailgylchu a gynhyrchir mewn Ffwrnais Arc Drydan (EAF) sy’n defnyddio llai o ynni na ffwrneisiau traddodiadol. Hefyd, mae Ffwrneisiau Arc Drydan yn cynhyrchu llai o nwyon tŷ gwydr na dulliau traddodiadol o wneud dur, felly maent yn fwy ecogyfeillgar.

Yn ôl Richard Beatson MCIAT, Rheolwr Dylunio a Modelu Gwybodaeth Adeiladu yng Nghwmni Adeiladu Wynne: “Pleser yw cyrraedd carreg filltir arall yn y prosiect gwych hwn a llofnodi fy enw ar adeilad uwch-dechnoleg a fydd yn galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ffynnu mewn peirianneg a gwyddoniaeth arloesol.

 

“Hefyd, rydw i’n falch ein bod, gyda’n cleientiaid a’n partneriaid adeiladu, wedi llwyddo i ddod o hyd i ddur wedi’i ailgylchu a wnaed mewn ffwrnais arc drydan sy’n cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan ein galluogi i gyrraedd eco-gymwysterau eithaf y prosiect.”

 

Bydd prosiect y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn cael ei gyflawni ar ddau o safleoedd y brifysgol, sef campws Plas Coch yn Wrecsam a’r Ganolfan Technoleg OpTIC ar gampws Llanelwy. Bydd arian gan y Fargen Dwf, trwy gyfrwng Uchelgais Gogledd Cymru, yn darparu £11.55m o gyfanswm gwerth y prosiect.