Llwyddiant ardystiad diwydiant ar gyfer gradd gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff Prifysgol Glyndwr Wrecsam

Date: Dydd Gwener Mawrth 3

Mae gradd Gwyddorau Cymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff  Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi derbyn cydnabyddiaeth am gwrdd â safonau diwydiant ar ôl cael ei ardystio gan y corff dyfarnu proffesiynol.

Disgrifiodd y darlithwyr ar y cwrs BSc (Anrh) Gwyddorau Cymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff yr ardystiad yn “newyddion gwych” ar gyfer myfyrwyr, yn enwedig pan ddaw hi i gyfleoedd cyflogaeth tu hwnt i’w hastudiaethau.  

Mae’r cwrs wedi ei ardystio gan wobrau Cynllun Ardystio Israddedigion (BUES) British Association of Sport & Exercise Sciences (BASES), sydd yn dyfarnu ardystiadau i gyrsiau gradd gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddod i mewn i’r proffesiwn. 

Daw’r newyddion da yn fuan wedi i gyfleusterau gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff y brifysgol gael eu cydnabod gydag achrediad BASES y mae mawr alw amdano.

Dywed Dr Chelsea Batty, Darlithydd Chwaraeon Cymhwysol, Iechyd a Ffisioleg Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae hi mor wych bod ein Gradd Gwyddorau Cymhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi ei ardystio gan BASES - yn enwedig ar gyfer ein myfyrwyr, a fydd yn graddio o’u hastudiaethau gyda gradd y mae’r diwydiant yn ei gydnabod, gan eu gwneud yn fwy amlwg i gyflogwyr yn y dyfodol.

“Mae’n gyflawniad balch i’r tîm ac yn dangos bod ein cwrs yn cwrdd â’r meini prawf gan roi sylw i’r wybodaeth angenrheidiol ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â sgiliau technegol a chymwyseddau datblygiad proffesiynol sydd eu hangen i fyfyrwyr lwyddo yn y proffesiwn.  

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ail-weithio cynnwys ein cwrs er mwyn rhoi sylw i ddisgyblaeth Biomecaneg, a hefyd wedi prynu offer newydd sbon, er mwyn cryfhau ein cynnig.

“Roedd y ffaith i’n cyfleusterau gael eu hachredu gan BASES tua diwedd y llynedd a derbyn cydnabyddiaeth anhygoel gan Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam Colin Jackson yn rhywbeth tra arbennig, ac felly mae’r gymeradwyaeth ddiweddaraf yma yn achos arall i ddathlu.”

Mae’r cwrs yn rhoi sylw i bum maes - Ffisioleg Chwaraeon, Seicoleg Chwaraeon, Dadansoddi Perfformiad/Biomecaneg, Cryfder a Chyflyru, a Sgiliau Ymchwil.

Mae’r Radd Gwyddorau Cynhwysol Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ei restru’n 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr gyda’r addysgu gan The Guardian University Guide 2023.