Myfyrwyr Coleg yn mwynhau Diwrnod Darganfod y Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam

dylan law lecturer, and students

Date: Rhagfyr 2022

Cafodd myfyrwyr y coleg y cyfle i ail-greu senario llys, yn ogystal â darganfod y cyfleoedd sydd ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio graddau Troseddeg, y Gyfraith a Phlismona fel rhan o gynhadledd arbennig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Trefnodd adran Troseddeg, y Gyfraith a Phlismona'r brifysgol y digwyddiad i dynnu sylw at yr hyn sydd ei angen i weithio yn y meysydd.

Roedd mwy na 70 o fyfyrwyr o Ysgol Uwchradd y Fflint, Coleg Cambria, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Brynhyfryd, Ysgol Uwchradd Eirias, Grŵp Llandrillo Menai ac Ysgol Uwchradd Amwythig yn cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a thrafodaeth – gydag un o uchafbwyntiau'r diwrnod yn cynnwys myfyrwyr yn cael cyfle i gyflwyno achos llys mewn ystafell sydd yn portreadu ystafell lys go iawn – gyda myfyrwyr yn perfformio rolau'r Barnwr, Bargyfreithiwr yr erlyniad, Bargyfreithiwr yr Amddiffyn, Clerc y Llys a'r Diffynnydd.

Fe wnaeth myfyrwyr hefyd ddysgu mwy am yrfa yn yr heddlu P- a hyd yn oed cael cyfle i ddysgu sut mae'r heddlu'n defnyddio olion bysedd yn eu hymchwiliadau. 

Meddai Dylan Jones, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, a arweiniodd y sesiwn llys:

"Roedd y sesiwn llys yn brofiad gwych i'r myfyrwyr - roedd yn gyfle iddynt ddeall sut mae ystafell lys yn gweithio, yn ogystal â dysgu sgiliau eiriolaeth, siarad a dadlau. 

"Y Gyfraith yw un o'n cyrsiau diweddaraf yn y brifysgol ac rydym yn falch o sut rydym yn datblygu'r cwrs i daro'r cydbwysedd o ran darparu'r profiad ymarferol a rhyngweithiol hwnnw, tra hefyd yn rhoi'r sgiliau academaidd y mae arnynt eu hangen ar fyfyrwyr ymarfer."

Meddai Dr Caroline Hughes, Deon Cyswllt ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam:

"Mae'n fraint hefyd i ni gael Cronfa Cyril Oswald Jones, sy'n cynnwys bwrsari blynyddol ar gyfer myfyrwyr y Gyfraith ddawnus nad ydynt o bosibl yn gallu gwireddu eu huchelgeisiau heb ei gefnogaeth ac sydd hefyd yn gwobrwyo rhagoriaeth mewn myfyrwyr blwyddyn olaf." 

Fel rhan o'r diwrnod, clywodd myfyrwyr hefyd gan ddau o siaradwyr y brifysgol Cara Baker, sy'n dysgu yng Ngholeg y Rhyl ac yn Swyddog Prawf, a Laura Chapman, sydd wedi gweithio o fewn y trydydd sector ac sydd bellach yn Swyddog Gwasanaeth Prawf, yn ogystal â chyfreithwyr dan hyfforddiant - Siriol Elin Jones, sy'n gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron Osian Rhys Roberts, sy'n gweithio yn M A J Law yn Widnes. 

Bu Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygu Academaidd Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, hefyd yn rhoi anerchiad i fyfyrwyr ar wreiddio'r Gymraeg fel rhan o gyrsiau'r Gyfraith a Phlismona. 

Fe glywson nhw hefyd - a chymryd rhan mewn dadl ar bwnc 'Are Criminals Born or Made?' 

Dywedodd Ayse Gilgil, myfyriwr Blwyddyn 12 yn Ysgol Uwchradd y Fflint, sy'n awyddus i ddilyn gyrfa mewn Therapi Troseddol:

"Roeddwn i'n gweld y gynhadledd yn ddiddorol iawn, roedd yn bendant yn werth chweil dod draw. Fe wnes i fwynhau'r sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar waith Swyddogion Prawf - roedd wir yn dangos pa mor werth chweil a phwysig ydi’r swydd, a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i fywydau pobl." 

Dywedodd Bethan Squire, athrawes Troseddeg yn Ysgol Uwchradd Y Fflint:

"Am ddiwrnod gwych, craff. Mae gennym nifer o fyfyrwyr, sydd am gychwyn ar yrfa yn y meysydd pwnc perthnasol - gan gynnwys Plismona a Chyfiawnder Troseddol, felly roedd y digwyddiad yn gwbl amhrisiadwy iddynt." 

Mae gradd Troseddeg Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn:

  • Gyntaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Cyflawn Complete 2023)
  • Gyntaf yn y DU am ansawdd dysgu a phrofiad myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da The Times & The Sunday Times 2023)
  • Gyntaf yn y DU am addysgu ar y cwrs a boddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022).

I gael gwybod mwy am y cwrs, ewch i tudalen y cwrs Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.