PGW yn sicrhau £400,000 o gyllid i gynnal ymchwil ar ymyriadau ar sail natur i wella lles myfyrwyr
Dyddiad: Dydd Llun Mawrth 13
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) wedi sicrhau dros £400,000 o gyllid i arwain prosiect a fydd yn archwilio sut gall ymyriadau ar sail natur ar gyfer myfyrwyr helpu i wella eu lles a theimlo’n fwy cysylltiedig â’r gymuned leol a’i hamgylchedd.
Gan weithio ochr yn ochr ag Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru (WSSPR), sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol De Cymru, nod canfyddiadau’r ymchwil fydd dadorchuddio ‘beth sydd o bwys nawr’ i fyfyrwyr a sut gall prifysgolion wneud y gorau o’u mannau gwyrdd.
Mae’r gwaith yn dilyn ymlaen o ymchwil a gwblhawyd yn 2020, ble roedd PGW yn brifysgol beilot a fu’n edrych ar drawsnewid mynediad at gymorth lles ar gyfer myfyrwyr drwy ddatblygu dull cynaliadwy y gellir ei ailadrodd sy’n seiliedig ar ragnodi cymdeithasol o fynd i’r afael â heriau yn ymwneud â lles.
Cafodd y model ei gyd-greu gyda myfyrwyr a phartneriaid fel rhan o ymagwedd system gyfan tuag at les. Wedi mwy na dwy flynedd o darfu ar ddysgu oherwydd y pandemig Covid-19, mae angen cymorth ar fyfyrwyr gyda’u nodau addysgiadol a’u hiechyd meddwl - ac felly’r angen am ymyriadau iechyd gwyrdd, a all helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau’r GIG, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl megis cwnsela.
Dywed Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn PGW ac Arweinydd y Prosiect Rhagnodi Cymdeithasol ar sail Natur: “Nod y prosiect ymchwil newydd hwn yw canfod ‘beth sydd o bwys nawr’ i fyfyrwyr a sut gall prifysgolion wneud y gorau o’u hasedau natur a mannau gwyrdd, naill ai ar y campws neu yn y gymuned, i wella deilliannau iechyd meddwl a chysylltedd cymdeithasol.
“Trwy ddatblygu arferion, gwybodaeth a sgiliau Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd, bydd y prosiect yn darparu fframwaith ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a fydd yn cefnogi ymyriadau creadigol, cost isel i gryfhau rhwydweithiau cymdeithasol, lleihau straen, a hwyluso cysylltedd cymdeithasol ymysg cyfranogwyr a darparwyr heb yr angen am fuddsoddiadau drud.
“Drwy gysoni gwasanaethau cymorth myfyrwyr gyda gweithgareddau gwyrdd, ar sail natur yn y gymuned, rydym yn gobeithio y gallwn symud yn nes at greu cymunedau mwy cydnerth sydd yn gymdeithasol gysylltiedig, a chorfforol actif, ac sydd yn eu tro yn cwrdd â’n nodau cenhadaeth ddinesig.”
Ychwanega Dr Sharon Wheeler, Uwch Ddarlithydd Iechyd y Cyhoedd a Lles yn PGW, a fydd yn arwain ar y prosiect ymchwil: “Gall ymgysylltu â mannau gwyrdd a gweithgareddau ar sail natur fod yn hynod lesol o ran dimensiynau iechyd corfforol, meddwl a chymdeithasol iechyd a lles; fel ymchwilydd a darlithydd, mae’n wych bod yn rhan o brosiect a fydd yn mynd ati i harneisio’r buddion hyn ar gyfer y boblogaeth fyfyrwyr.”
Dyfarnwyd cyllid ar gyfer y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), fel rhan o’i Gronfa Buddsoddi Strategol. Mae’r prosiect yn weithred gydweithredol gyda staff ar draws y brifysgol yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau lleol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Coleg Cambria, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, (FLVC), Groundwork Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r prosiect yn ymateb uniongyrchol i Adnewyddu a Diwygio, y cynllun adfer addysg wedi Covid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu cymdeithasol a bydd yn dod i ben yn ddiweddarach eleni.