Prifysgol Wrecsam yn cynnig cymhwyster iaith Gymraeg i fyfyrwyr Plismona

Date: Dydd Mawrth, Rhagfyr 5

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymateb i anghenion heddlu’r rhanbarth drwy gyflwyno modiwl Cymraeg, fel rhan o’i chwrs gradd Plismona.

O ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, mae’n ofynnol i fyfyrwyr sy’n dilyn gradd Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam gwblhau’r modiwl Cymraeg yn y Gweithle fel rhan o’u hastudiaethau.

Mae cyflwyno’r modiwl yn golygu bod y Brifysgol yn paratoi graddedigion ar gyfer byd gwaith yng Nghymru, ac mae hefyd yn cynorthwyo’r Heddlu gyda’i hymrwymiad i gefnogi’r cymunedau dwyieithog a’r cymunedau Cymraeg eu hiaith y mae’n eu gwasanaethu gan fod pob rôl yn Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am lefel o hyfedredd yn y Gymraeg.

Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn ennill cymhwyster Lefel 1 neu 2 Cymraeg yn y Gweithle.

Meddai Elen Mai Nefydd, Pennaeth Datblygiad Academaidd Cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam: “Mae ychwanegu’r modiwl iaith Gymraeg at ein gradd mewn Plismona Proffesiynol yn ddatblygiad rhagorol yn ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yma yn Wrecsam.

“Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn Heddlu Gogledd Cymru i gyflwyno’r modiwl hwn. Mae cynnig y ddarpariaeth hon i'n myfyrwyr nid yn unig yn cynnig manteision iddynt, o ran eu cyflogadwyedd y tu hwnt i'w hastudiaethau, ond hefyd o ran helpu i ymateb i anghenion heddlu ein rhanbarth.

“Ers ymgorffori’r modiwl yn addysg ein myfyrwyr Plismona, mae wedi bod yn wych gweld ystod mor amrywiol o ddysgwyr yn ymgysylltu â’r Gymraeg.

“Rwy’n teimlo’n hynod o falch ein bod nid yn unig yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru ond ein bod yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dyma’r cynnydd diweddaraf rydym wedi’i wneud ers cymeradwyo ein Strategaeth Academaidd a’n Cynllun Gweithredu ar gyfer y Gymraeg y llynedd.”

Dywedodd Andy Jones, Uwch-ddarlithydd mewn Plismona Proffesiynol: “Mae cyflwyno’r modiwl Cymraeg yn y Gweithle ar ein gradd Plismona yn ychwanegiad cyffrous a derbyniol at ein rhaglen. Mae'n golygu ein bod yn diwallu anghenion Heddlu Gogledd Cymru ac yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y maes y tu hwnt i'w hastudiaethau, sy'n newyddion gwych nid yn unig i'r Heddlu a'n myfyrwyr ond hefyd i'r cymunedau y mae'r Heddlu'n eu gwasanaethu."

Ychwanegodd Melfyn Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n bleser gennym gymeradwyo a chefnogi’n llawn y datblygiad gan Brifysgol Wrecsam i fabwysiadu ein cwrs Iaith Gymraeg, cwrs sydd wedi profi ei fod yn hygyrch ac yn llwyddiannus i’n recriwtiaid newydd – swyddogion a staff.

"Bydd hyn yn fantais enfawr i unrhyw fyfyrwyr yn y Brifysgol sy'n dymuno cael gyrfa gyda Heddlu Gogledd Cymru yn y dyfodol - byddant eisoes gam ar y blaen."