Athro Alec Shepley

Deon Cyswllt Ymchwil, Athro Celfyddydau a Chymdeithas

Picture of staff member

Alec yw Deon Cyswllt Ymchwil ac Athro’r Celfyddydau a Chymdeithas ym Mhrifysgol Wrecsam. Llwyddodd ei waith ymchwil i ddenu nawdd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Prydeinig, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor y Celfyddydau Cymru.

Yn wreiddiol, hyfforddodd Alec mewn celfyddyd gain ac mae ei ymchwil yn seiliedig ar ymarfer yn archwilio yr hyn sydd dros dro, yn dameidiol ac yn anghyflawn o fewn ymarfer celf gyfoes. Mae ei waith yn edrych ar y gofodau rhwng celf, theori feirniadol ac ymgysylltiad cymdeithasol, sydd yn aml yn gwneud y ffiniau rhwng yr artist, y gynulleidfa ‘ar safle yn aneglur. Mae’n gweithio’n reddfol gyda methodolegau yn seiliedig ar broses, ac sy’n ymateb i safle, er mwyn cael mynediad at fannau trawsnewidiol fel platfformau ar gyfer deialog, gan dynnu sylw at gelf fel ffurf amharhaol, fel methiant ac fel potensial iwtopaidd.
Mae ei weithiau celf wedi cael eu harddangos yn eang, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel ei gilydd, gydag enghreifftiau’n cael eu cynnal mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat yng ngogledd America, Ewrop ac Asia.

Mae Alec wedi gwasanaethu fel Arholwr Allanol mewn nifer o Brifysgolion ac mae’n Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, Aelod o Gymdeithas Genedlaethol dros Addysg Celfyddyd Gain, Cymrawd Hŷn Advance HE, Adolygydd Cyfnodolyn ar gyfer yr Austrian Science Fund (FWF), Program for Art-based Research (PEEK), Cymrawd Llawn yr Academi Frenhinol Gymreig, aelod o Gynghrair Ewropeaidd Sefydliadau Celf ac aelod o’r Grŵp Ymchwil Dulliau yn Seiliedig ar Lefydd ar gyfer Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Bangor.