Alex Drury

Cynorthwyydd Ymchwil mewn Gwaith Ieuenctid

Picture of staff member

Mae Alex yn Gynorthwy-ydd Ymchwil, ac ymunodd gyda Chyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yn ôl ym mis Gorffennaf 2023. Ar hyn o bryd mae Alex yn gweithio ar waith ymchwil i les pobl ifanc a gwaith ieuenctid. Cyn hyn, mae wedi gweithio ar Adolygiad Ariannu Gwaith Ieuenctid, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, sy’n olrhain ffynonellau o ariannu mewn gwaith ieuenctid ac archwilio goblygiadau’r model ariannu cyfredol.

Cyn dod yn Gynorthwy-ydd Ymchwil, bu Alex yn gweithio o fwn Gwaith Ieuenctid, Gwaith Chware a Datblygu Cymunedol dros y 15 diwethaf, gan gynnwys rheoli Partneriaeth Ieuenctid a Chwarae Wrecsam ers 2018. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith yn amrywiol iawn, gan gefnogi gwirfoddolwyr yn y gymuned a staff yn gweithio gyda phobl ifanc mewn clybiau ieuenctid, meysydd chwarae antur ac allan yn y gymuned ar hyd a lled Wrecsam yn ogystal â chwilio am gyllid i gynnal a datblygu gwaith y sefydliad.

Mae gan Alex radd BA Troseddeg a Seicoleg a gwblhaodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2006 a MA mewn Astudiaethau Ieuenctid a Chymunedol a gwblhaodd yma ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2012. Oddi allan i’w waith mae Alex yn mwynhau nofio (mewn pyllau, afonydd, llynnoedd, neu unrhywle), teithio a bod yn fam i 2 o blant hyfryd.

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Hyd/O
Glyndwr University MA Youth and Community Studies 2011 - 2012

Ieithoedd

Ieithoedd Darllen Ysgrifennu Siarad
Cymraeg Hyfedredd Elfennol Hyfedredd Elfennol Hyfedredd Elfennol