Fi yw Arweinydd Rhaglen Busnes Cymhwysol gyda Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru, Prifysgol Wrecsam.
Dechreuodd fy nhaith fel myfyriwr aeddfed ym Mhrifysgol Glyndŵr yn 2009. Enillais Radd Sylfaen mewn Rheoli Gŵyl a Digwyddiadau, BA (Anrh) Rheoli Busnes, TAR (PcET) ac yna astudio MSc Rheolaeth. Rwyf wedi gweithio yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru am 7 mlynedd fel darlithydd sesiynol, rhan-amser a llawn amser erbyn hyn.
Yn 2012, sefydlais fusnes bach, fel myfyriwr, a gyda chefnogaeth y Brifysgol. Mae hyn yn parhau i fod yn llwyddiannus heddiw.
Yn fy amser hamdden mae gen i gariad at y theatr, a cherddoriaeth fyw ac rwy'n mwynhau amser gwerthfawr gyda fy nheulu a'm ffrindiau.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gallu pethau anhygoel; Mae'n rhaid i ni jyst gredu !