Mae Ali Roscoe yn Uwch Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ac yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y rhaglenni Celfyddyd Gain BA (Anrh) ac MA Paentio ym Mhrifysgol Wrecsam. Astudiodd yng Ngholeg Polytechnig Manceinion, Prifysgol Sheffield Hallam, a Phrifysgol John Moores yn Lerpwl, ac ar hyn o bryd mae hi’n gweithio tuag at ei PhD. Mae hi’n meddu ar 25 mlynedd o brofiad addysgu, gyda dros 10 mlynedd mewn Addysg Uwch.
Mae ymchwil ar sail ymarfer Ali yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng meddwl drwy ddenyddiau, ymgysylltu cyffyrddadwy a’r broses greadigol mewn arferion celfyddydol, a dulliau addysgeg amgen. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio mewn proses, lluniadu, a meddwl drwy ddeunyddiau, i edrych ar yr agweddau sy’n gyffredin i amryw o ddisgyblaethau a ffyrdd o feddwl, edrych, a ‘gwybod’. Yn aml, mae hi’n cyfuno disgyblaethau ac athroniaethau celfyddyd gain, tecstilau, a ‘deunyddiau anarferol’, gan ddefnyddio’r llinell luniedig a phwythau fel trosiadau. Mae ei gwaith yn archwilio’r tensiynau rhwng cyflyrau seicolegol, testun a delwedd, ardaloedd darluniadol ac ardaloedd go iawn.
Diddordebau Ymchwil
Mae fy ymchwil presennol (ar gyfer fy PhD) yn astudiaeth sy’n edrych ar y berthynas rhwng meddwl drwy ddeunyddiau, ymgysylltu cyffyrddadwy a’r broses greadigol mewn arferion celfyddyd gain, ac yn canolbwyntio ar grŵp o fyfyrwyr yn Ysgol Gelf Wrecsam. Mae gweithio’n agos gydag unigolion a grwpiau yn fy ngalluogi i ddatblygu ‘llwybrau’ lle gellir defnyddio’r creadigrwydd a’r wybodaeth o brofiadau uniongyrchol i fod yn ystyriol o drawma.
Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ‘feddwl drwy ddeunyddiau’ (y ffordd mae artistiaid yn meddwl ac yn dysgu drwy wneud a chreu - drwy drin deunyddiau, cyfryngau, a phrosesau) ac ymchwilio i’r cymhlethdod hwn mewn perthynas ag ymgysylltu a dysgu myfyrwyr. Mae’r ymchwil yn edrych ar ddysgu a phrofiadau blaenorol a sut mae hyn yn sbarduno neu’n atal dysgu. Mae’r ymchwil yn dilyn patrwm aml-ddull a’r prif grŵp yn yr astudiaeth yw myfyrwyr ar raglen yn Ysgol Gelf Wrecsam. Mae delweddau a deunydd testunol o brofiadau’r myfyrwyr gyda’r deunyddiau a’r cyfarwyddiadau yn cael eu defnyddio fel sail i dacsonomeg weledol o arferion.
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
The Skills You Need | FY301 |
Contextual Studies | FY302 |
Introduction to Fine Art Practice | ARD494 |
Locating | ARD722 |
Visual Art Practice (Fine Art) | ARF510 |
Dissertation | ARD626 |
Negotiated Practice (Fine Art) | ARF607 |
Fine Art Degree Project | ARF606 |
Specialist Study (Fine Art) | ARF508 |