Mae Andy Woods yn Arweinydd Rhaglen Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Lletygarwch yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr. Mae ganddo radd meistr MSc mewn Gwyddor Bwyd ac Arloesi, a BA (Anrh) mewn Astudiaethau Addysg.
Cyn symud i’r byd academaidd gweithiodd Andy mewn sawl sector ar draws y diwydiant Lletygarwch, gan gynnwys gwestai, tai bwyta, tafarndai a hyd yn oed arlwyo. Cyn dechrau ym Mhrifysgol Glyndŵr gweithiodd Andy yn y sector Addysg Bellach, gan ddechrau yng Ngholeg Gorllewin Swydd Caer fel Arweinydd Rhaglen cyn symud i swyddi Cyfarwyddwyr Cwricwlwm yng Ngholeg Cambria.
Trwy gydol ei yrfa, mae Andy wedi gweithio mewn sawl maes arwain a rheoli. Ar hyn o bryd mae Andy yn astudio ar gyfer gradd doethur (EdD) mewn Addysg. Y tu hwnt i fyd gwaith, mae Andy yn hoff o dreulio amser gyda’i deulu, ac yn mwynhau teithio a mynd allan i fwyta.
Rhaglenni / Modiwlau Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Managing Sustainable Planning & Development For Hospitality, Tourism and Events | BUS597 |
Visitor Attraction Management | BUS586 |
Contemporary Issues in Hospitality Management | BUS631 |
Food & Drink Tourism | BUS637 |
Industry Placement | BUS5A10 |
Managing International Visitor Attractions | BUS5A14 |
Global Vistor Economy | BUS7C9 |
International Events Management | BUS5A12 |
Managing Sustainable Planning & Development for Hospitality, Tourism and Events | BUS5A15 |
Business Communication Skills | BUS496 |
Contemporary Issues in Hospitality Management | BUS690 |
Global Food and Drink Tourism | BUS695 |