Awel Wynne-Williams
Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio
Graddiodd Awel yn 2013 gyda gradd mewn Nyrsio Plant a Phobl Ifanc ac ers hynny mae wedi datblygu diddordeb mewn nyrsio dibyniaeth fawr a gofal dwys. Mae Awel yn teimlo'n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd mae wedi’u cael yn y gorffennol i weithio mewn ysbytai plant yn Llundain, Melbourne a Chaerdydd cyn ennill ei statws cymwys mewn arbenigedd fel nyrs Gofal Dwys Newyddenedigol.
Erbyn hyn, mae Awel wedi symud adref i Ogledd Cymru i weithio fel darlithydd Nyrsio Plant ac mae wedi cwblhau ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch. Wrth i Awel ddychwelyd i'w hardal leol, mae'n gobeithio parhau â'i thaith o ddysgu gydol oes ac yn ymroi i ddefnyddio ei hiaith gyntaf, y Gymraeg, drwy fabwysiadu rôl ychwanegol fel arweinydd darpariaeth Gymraeg yn y rhaglenni Nyrsio.
Gan fod Awel wedi cael profiadau diweddar fel myfyriwr ei hun, mae hyn wedi tanio ei hawydd i helpu eraill i ddysgu. Mae hi'n gobeithio yn fwy na dim y bydd hi'n cefnogi'r myfyrwyr a nyrsys y dyfodol, heb amheuaeth, mae eu hangen nawr yn fwy nag erioed o'r blaen. Yn ei hamser hamdden, mae’n mwynhau teithio, rhedeg a helpu ar fferm y teulu.
Corff Dyfarnu
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth | Cofrestriad Proffesiynol |
Ieithoedd
Iaith | Darllen | Ysgrifennu | Siarad |
---|---|---|---|
Iaith | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Meeting the needs of children and families in acute and chronic illness | NUR518 |