Fe wnes i gwblhau fy ngradd nyrsio oedolion yn 2005 ym Mhrifysgol Bangor. Ar ôl cymhwyso, es i weithio yn y GIG. Fy rôl gyntaf oedd nyrs staff ar ward feddygol, yna es ymlaen i fod yn brif weinyddes nyrsio yn yr Adran Achosion Brys lle bu i mi feithrin llawer o sgiliau ym mhob maes nyrsio o fân anafiadau, gofal critigol, a phediatrig.
Fy rôl ddiweddaraf oedd fel Ymwelydd Iechyd a Chydlynydd CONI, gan ymgymryd â’r cwrs Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ym Mhrifysgol Glyndŵr yn 2016. Mae gen i ddiddordeb brwd mewn iechyd cyhoeddus a hybu iechyd ac rwyf fi wedi gweithio gyda theuluoedd bregus yn y gymuned ac wedi ennill gwybodaeth a phrofiad o ran diogelu plant ac oedolion.
Yn fy rolau clinigol, rwyf wedi bod yn fentor ac yn oruchwyliwr/asesydd ymarfer i fyfyrwyr. Rwyf fi wedi gweithio yn y GIG ers 20 mlynedd ac wedi penderfynu dilyn fy angerdd a diddordeb mewn addysg a gweithio gyda myfyrwyr nyrsio a’u cefnogi yn eu taith nyrsio.
Rwy'n awyddus i gwblhau fy Nhraethawd Hir Meistr ac ymgymryd â'r Dystysgrif Ôl-raddedig – Cymhwyster Addysgu a Dysgu yn y dyfodol.
Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau chwarae pêl-rwyd a threulio amser gyda fy nheulu.