Bindu Jose
Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadura
- Ystafell: B118a
- Ffôn: +44(0)1978 293271
- E-bost: b.jose@glyndwr.ac.uk
Mae Bindu yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifiadura Seiber yma ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae’n Beiriannydd Gwyddorau Cyfrifiadurol profiadol a chanddi wyth mlynedd a mwy o brofiad yn y diwydiant TG a mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y byd academaidd. Mae ei harbenigedd addysgu’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys rheoli data, dadansoddeg data, rheoli prosiectau TG, peirianneg systemau, cronfeydd data, systemau gwe, a mathemateg ar gyfer cymwysiadau cyfrifiadurol.
Mae ymchwil Bindu yn canolbwyntio ar wyddor data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial. Mae’n danbaid iawn dros ddefnyddio grym data a deallusrwydd artiffisial i adeiladu systemau deallus, gan fynd ati ar yr un pryd i ymdrin â’r goblygiadau moesegol a chymdeithasol sydd ynghlwm wrth dechnoleg deallusrwydd artiffisial. A hithau’n credu’n gryf mewn preifatrwydd data a defnyddio data mewn modd moesegol, mae’n pwysleisio y dylid datblygu deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol, gan bwyso a mesur ystyriaethau cymdeithasol, cyfreithiol a moesegol.
Diddordebau Ymchwil
Rheoli Data
Gwyddor Data a Dadansoddi Data Mawr
Diddordebau Addysgu
Gwyddor Data, Dadansoddi Systemau, Rheoli Prosiectau, a Systemau Cronfa Ddata